Mae’r tywydd wedi troi’n oer yn sydyn iawn, felly efallai nad wyt ti’n rhy hoff o’r syniad o fentro allan.
Wrth i’r hanner tymor a Chalan Gaeaf ddod i ben, mae pobl yn dechrau cynilo ar gyfer y Nadolig a myfyrwyr yn edrych ymlaen at yr arholiadau cyntaf. Felly efallai bydd yr wythnos hon ychydig yn ddistawach. Er hynny, mae Pethau Rhad ac am Ddim i’w Gwneud y Sprout yn parhau.
Sparks in the Park
Sadwrn 3 Tach – 4:30-9:30yh – Parc Bute – £5 i rai dan 16
Dychweliad arddangosfa tân gwyllt mwyaf Cymru. Dau ddiwrnod cyn Noson Tân Gwyllt, ond mae’n sicr o fod yn noson…. ffrwydrol! Mae’n ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu gan y gymuned “grŵp o fechgyn ifanc dan 45 yng Nghaerdydd”, sydd yn ddiddorol. Tocynnau ar gael yma.
Rough As yn Nos Da
Llun 5 Tach – 7:30-10:30yh – Hostel Nos Da – Debygol o fod am ddim
Yn Abertawe mae Rough As wedi dod yn adnabyddus fel y noson gomedi a meic agored lle gall unrhyw un gymryd rhan. Gall hyn fod yn beth gwych, yn rhoi cyfle cyntaf i bobl berfformio, ac os nad yw’n brofiad da iddynt, nid oes rhaid gwneud eto! Dyma’r un cyntaf i gael ei gynnal yng Nghaerdydd, felly os wyt ti’n awyddus i roi tro ar gomedi neu unrhyw berfformiad fel arall, efallai mai dyma dy gyfle. Digwyddiad Facebook yma.
Noson Gomedi yn Zen
Mawrth 6 Tach – 7:30-11yh – The Zen Bar – Am ddim
Bydd tri chomedïwr lleol yn perfformio sioe am ddim yn y Zen Bar ger yr ATRiuM. Fel y dywed ar y tudalen digwyddiad Facebook, mae pob un fel y gwelir ar BBC Sesh, heblaw am yr un sydd ddim, sydd yn ei wneud yn hyd yn oed mwy arbennig.
Bring it all Back – Parti High School Musical
Mercher 7 Tach – 11yh tan hwyr – Clwb Ifor Bach – £5
Noson clwb sydd yn cael ei hysbysebu fel “y gerddoriaeth roeddet ti’n hoff ohono cyn i ti droi’n cŵl”. Yn llawn cerddoriaeth rwyt ti “fel arfer yn canu yn y car ar ben dy hun”, mae hwn yn sicr o fod yn un o’r nosweithiau clwb fwyaf cawslyd i ti fod ynddi. Mae tocynnau yn £5, ond yn amlwg fydda i ddim yno. Mae gen i waith ar y Sprout yn y bore, a dwi ddim yn hoff o High School Musical beth bynnag. Wir ar!