5 Rheswm i Wirfoddoli ar Gyfer Myfyrwyr

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Gwirfoddoli: Beth ydw i’n gallu gwneud a pam dylwn i’w wneud?

Gyda bywydau prysur ac effaith y pandemig, gall fod yn anodd iawn darganfod amser ac ysgogiad i wirfoddoli. Ond, mae’r buddiannau o weithredu gwirfoddol yn gallu bod yn enfawr i ti ac i eraill.

1. Helpu pobl mewn angen, achosion da, a’r gymuned

Mae gwirfoddoli yn ffordd ymarferol iawn i feddwl am faterion cymdeithasol sydd yn wynebu pobl yn dy gymuned a dros y byd. Os oes gen ti ddiddordeb yn helpu mewn banc bwyd lleol, yn codi sbwriel yn y parc neu’n cefnogi trigolion hŷn sydd yn byw yn agos ac yn teimlo’n unig, mae gwirfoddoli yn ffordd dda i wneud gwahaniaeth. Mae’n hawdd iawn cwyno a gweld diffygion yn ein cymdeithas, ond beth am gamu i fyny a cheisio taclo’r broblem yn uniongyrchol, wrth wirfoddoli? Mae gweld newidiadau bach o ganlyn dy waith gwirfoddol di yn deimlad grêt ac yn caniatáu ti i ddysgu a deall mwy am faterion cymdeithasol yn dy gymuned.

2. Dod i adnabod yr ardal

Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol iawn, gyda thrigolion hir dymor a myfyrwyr yn dod o bob rhan o’r byd i weithio, astudio a chwilio am loches. Fel arfer bydd myfyrwyr yn byw yn agos at eu prifysgol mewn ardaloedd maent yn adnabod, ac nid ydynt yn tueddu symud y tu allan i’r parth diogel yna. Ond, mae gan Gaerdydd llawer mwy i’w gynnig ac mae gwirfoddoli yn ffordd dda i archwilio’r atyniadau a’r gwasanaethau sydd ar gael i gymunedau Caerdydd, gan wneud gwahaniaeth ar yr un pryd.

3. Casglu profiad gwerthfawr tuag at dy yrfa

Mae profiad gwirfoddol yn edrych yn anhygoel ar dy CV a phroffil LinkedIn, ac mae’n sicr o helpu ti i gael dy gyflogi. Mae’n anodd iawn i gael swydd ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ac mae gwirfoddoli yn ffordd dda iawn i gael profiad mewn sector perthnasol i dy astudiaethau, neu mewn maes hollol wahanol sydd o ddiddordeb i ti. Mae’n gyfle gwych i archwilio’r hyn rwyt ti eisiau gwneud yn dy yrfa! Mae gwirfoddoli yn gyfle i rwydweithio gyda phobl newydd i gyfarfod ffrindiau a darpar gyflogwyr. Weithiau bydd gwirfoddoli yn gallu arwain at swydd!

4. Gweithio arnat ti

Yn ogystal â datblygu sgiliau cyfnewidiol sydd yn bwysig i dy yrfa, mae gwirfoddoli yn gallu helpu ti i weithio arnat ti dy hun. Os hoffet ti ymarfer gwella dy sgiliau cymdeithasol a rhyngbersonol, efallai mai gwirfoddoli yw’r ateb i roi hwb o hyder i ti.

5. Atal unigrwydd

Mae’n anodd iawn cael allan o’r tŷ yn y pandemig, gyda llawer o fyfyrwyr yn syllu ar yr un hen bedwar wal yn llety’r brifysgol ac ar y sgrin yn gwneud eu gwaith. Mae gwirfoddoli yn gallu torri ar yr undonedd yma o aros adref, helpu atal unigrwydd a thaclo anawsterau iechyd meddwl.

Sut mae darganfod cyfleoedd?

Mae dod o hyd i gyfleoedd wirfoddoli yn ystod y pandemig yn ymddangos yn anoddach, ond nid yw’n amhosib. Nid oes rhaid i ti wirfoddoli mewn siop elusen ar y penwythnos, mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol gallet ti archwilio.

Chwilia am gyfleoedd gwirfoddoli mewn sawl lle o gylchgronau lleol i LinkedIn. Os nad wyt ti’n gallu meddwl ble i gychwyn, yna edrycha ar:

Gwirfoddoli Caerdydd

Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru (SVC)

Am wybodaeth bellach ar wirfoddoli, cer draw i dudalen gwybodaeth Gwirfoddoli theSprout.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd