Cyfweliad: Adam Ali, Angel NextBike Caerdydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Cawsom gyfle yma yn y Sprout i siarad gydag un o’r bobl yna sydd yn cadw Caerdydd yn rhedeg yn ddistaw bach. Dyma Adam Ali, myfyriwr Prifysgol Caerdydd sydd yn gweithio fel Angel NextBike yn rhan amser.

Mae Adam yn patrolio strydoedd y ddinas yn dychwelyd y beiciau llogi i’r gorsafoedd docio ble mae pobl eu hangen. Os nad wyt ti wedi clywed am y cynllun llogi beiciau yng Nghaerdydd, dyma’r manylion:

Llogi NextBike

Beth yw gwaith “Angel NextBike”?

Rwyf yn patrolio ardal Caerdydd (canol y ddinas ran amlaf), yn sicrhau bod y gorsafoedd a’r beiciau yn gweithio’n iawn. Os oes problem gyda beic, yna byddaf yn gwirio hyn, neu yn ei fflagio i gael ei drwsio fel bod gweithredydd NextBike Caerdydd, Pedal Power, yn gallu gyrru rhywuni ddod  i’w godi. Nid yw’r cynllun NextBike yn un heb ddoc, ac felly mae angen i bob beic gael ei ddychwelyd i orsaf ar ôl cael ei rhentu. Rhan arall o’m swydd ydy codi dirwy ar y rhai sydd ddim yn gwneud hyn, ac i ddychwelyd y beic i’r orsaf agosaf.

[HEB DDOC: Tra bod ein cynllun llogi beiciau ni wedi’i sefydlu o gwmpas “doc” neu “orsaf”, mae gan rhai dinasoedd gynllun rhannu beic heb ddoc, lle gellir gadael y beic unrhyw le mewn ardal wedi’i ddiffinio cynt (e.e. canol y ddinas), a bydd y person nesaf yn ei ddarganfod gan ddefnyddio GPS. Nid yw hyn yn gweithio’n dda iawn mewn dinas fel Manceinion er esiampl, roedd rhaid i Mobike dynnu allan o’r ddinas oherwydd fandaliaeth i’r beiciau heb ddoc. Tra bod rhaid dychwelyd NextBike Caerdydd i orsaf, mae posib eu gadael yn agos, yn wahanol i gynlluniau eraill fel cynllun Valenbisi Valencia ble mae’n RHAID docio’r beiciau i’w dychwelyd.]

Mae sawl rôl yn nhîm NextBike Caerdydd, gyda’r angylion yn un ohonynt. Mae yna mecanigion hefyd, sydd yn trwsio’r beiciau, yn ogystal â’r ail-ddobarthwyr sydd yn symud y beiciau sydd wedi torri i gael eu trwsio, a’u dychwelyd ar ôl hynny. Maent hefyd yn ychwanegu beiciau i orsafoedd sydd yn rhedeg yn isel.

Beiciau NextBikes wedi’u docio y tu allan i’r Llys

Pam dangos diddordeb i ddod yn Angel NextBike?

Roeddwn yn edrych ar dudalen Gwirfoddoli Caerdydd yn ôl yn 2017, a gweld hysbyseb i wirfoddoli i roi tro ar gynllun rhentu beic newydd. Roedd gen i ddiddordeb ynddo, ac felly cofrestrais. I gychwyn dim ond 5 gorsaf oedd ar gael – bellach mae yna 73! Cyn hir roeddwn yn Llysgennad NextBike yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi cynrychioli’r cwmni mewn digwyddiadau cyhoeddus. Wrth i’r cynllun dyfu, dechreuwyd hysbysebu’r rôl o Angel. Ceisiais amdano, ac rwyf wedi bod yn Angel NextBike ers 7 mis bellach.

Beth wyt ti’n astudio, a sut mae’r swydd anarferol yma yn ffitio gyda dy astudiaethau?

Rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r swydd yn un addasol iawn, a gallaf ddewis oriau fy hun. Gallaf gynllunio fy oriau yn hawdd iawn o gwmpas darlithoedd, sydd yn gwneud hwn yn swydd dda i fyfyrwyr.

Teithio heibio’r amgueddfa

Beth yw’r pethau gwaethaf fydd pobl yn ei wneud ar ôl gorffen gyda beic?

Y peth gwaethaf gall pobl ei wneud wrth ddychwelyd beic ydy ei adael yng nghanol y palmant! Nid oed rhaid docio beic i’w ddychwelyd, felly mae yna rhai achosion ble mae pobl yn dympio beic mewn llefydd anghyfleus yn agos i orsaf, neu yng nghanol llwybr cerdded. Mae hyn yn gallu gwylltio cerddwyr sydd yn gorfod cerdded o’i gwmpas.

Wyt ti wedi gorfod tynnu beic allan o afon o gwbl?

Naddo! Ddim yn bersonol, ond mae yna achosion prin ble mae beic yn gwneud ei ffordd i’r Taf. Mae gan Pedal Power ffrindiau da yn nhîm dŵr y Groes Goch, yn ogystal â chriwiau cychod lleol, sydd yn ein helpu i’w hadfer.

Wel, dyna ti! Ti’n gwybod nawr sut mae’r beics yn cyrraedd y man cywir i helpu cymudwyr prysur Caerdydd gyrraedd pen eu taith ar amser, a’r teithiau cylch pleserus o’r Bae. Mae’r NextBike yn £1 am hanner awr ar sail achlysurol ar hyn o bryd, ond mae yna gynnig ar hyn o bryd hefyd: £50 am aelodaeth blwyddyn, felly mae’r 30 munud cyntaf am ddim am 12 mis. Clicia yma i fynd i’r gwefan a darllen mwy am gynnig y Gwanwyn.

[Mae’r Sprout yn brosiect wedi’i ariannu gan y cyngor ac nid ydym yn derbyn arian hysbysebu gan unrhyw noddwr na chorfforaeth – rydym yn ffan fawr o NextBike ac yn meddwl byddai’n beth defnyddiol i rannu gyda phobl ifanc Caerdydd.]

Angen gwybodaeth bellach am drafnidiaeth Caerdydd? Edrycha ar y dudalen hon yn ein hadran Gwybodaeth.

Symud o Gwmpas

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd