Mae’n Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel!
Oherwydd hyn rwyf wedi bod yn edrych ar y pethau pwysicaf dylai pobl ifanc ei wneud i gadw’n ddiogel ar-lein. Fel rhywun sydd “ar-lein” ormod, dyma rai o’r pethau byddaf yn cadw llygaid arno cyn i mi wneud rhywbeth byddaf yn difaru!
1. Ystyried y data meta
Dychmyga dy fod di’n trydar “Taith fach 20 munud o Heol y Frenhines” – efallai bod hyn yn ddigon i rywun weithio allan yr amser byddi di’n dod oddi ar y trên yng ngorsaf Eneu’r-glyn a Pharc Churchill yng Nghaerffili – ac ni fyddai’n beth ffôl i ddychmygu dy fod di’n byw ddim yn bell o’r orsaf ac yn cerdded adref. Gall hyn fod yn gyfle i botensial berson drwg – efallai rhywun sydd eisiau gwybod dy gyfeiriad i ddwyn dy hunaniaeth, neu rywun sydd am ddod i dy ddrws a rhoi pwnsh i ti yn dy wyneb – i gymryd y cam cyntaf ar y llwybr briwsion bara sydd yn arwain at y cyfleoedd delfrydol.
Weithiau mae hyn yn cael ei alw’n ôl troed digidol – cliwiau bach sydd yn gallu helpu’r bobl ddrwg i ganfod gwybodaeth amdanat ti. Esiampl arall fydda postio ar dudalen Instagram cyhoeddus “Noson allan wych neithiwr”, ynghyd â llun ohonot ti a dy ffrindiau mewn parti pen-blwydd. Efallai bydd rhywun yn gallu canfod ei bod yn ben-blwydd arnat ti ddoe.
2. Newid dy gyfrineiriau!
Mae cael gwahanol gyfrinair i bopeth yn bwysig iawn. Er esiampl, byddwn yn casáu i rywun gael mynediad i’m nghyfrif Steam, ar ôl i mi brynu cannoedd o gemau PC. Os bydda rywun wedi llwyddo dwyn fy nghyfrif, annhebyg iawn fydda ei gael yn ôl a ta-ta i filoedd o bunnoedd o fuddsoddiad mewn gemau anhygoel (a rhai eithaf doji!). Yn waeth nag hynny, byddant yn cael mynediad i dy e-bost, sydd yn gopi wrth gefn i gyfrifon ar-lein eraill. Gallet ti golli mynediad i bopeth.
Y peth callaf yw creu cyfrinair cryf ar gyfer pob cyfrif – a bod cyfrinair gwahanol i bob cyfrif. Ysgrifenna pob un mewn llyfr, ac ystyried defnyddio Rheolwr Cyfrinair hefyd – darganfyddais y wefan yma sydd yn ddefnyddiol i benderfynu pa Reolwr i ddefnyddio.
3. Meddwl Pwy Sy’n Siarad â Thi
Wyt ti’n mwynhau sgwrs negeseuo hir ac yn dechrau dod yn agos at rywun? Dwi’n casáu swnio’n sinigaidd, ond weithiau nid yw pethau fel yr ymddangosir ar-lein. Ystyried y ffeithiau: wyt ti wedi gweld llun ohonynt? Os felly, wyt ti wedi defnyddio ‘Reverse Image Search’ Google i sicrhau nad ydynt yn gopi o ddelweddau o’r rhyngrwyd? Cer i rwydwaith cymdeithasol arall i weld os yw’n bosib cysylltu gyda nhw yno. Os ydynt yn cynnig cysylltu ar gyfrif Facebook, oes ganddyn nhw lawer o ffrindiau? Os yw rhywbeth yn teimlo’n od – yna efallai ei fod o.
Siarad gyda dy frawd neu chwaer llai
Bu ein cyd-weithwyr ym Meic yn ymweld ag ysgol gynradd gyda phlismon lleol PC Kevin Jones i sgwrsio am gadw’n ddiogel ar-lein.
Mae gan y BBC adnodd gwych ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel hoffwn ei argymell.