Mae Cymru yn cael ei roi i mewn i gyfnod atal dydd Gwener. Cyfnod o gloi sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, rheolau llym am bythefnos i geisio lleihau niferoedd Covid-19 yn y wlad. Dyma’r manylion rwyt ti angen ei wybod.
Pryd mae hyn?
Bydd y cyfnod atal yn cychwyn am 6yh dydd Gwener 23 Hydref tan 9fed Tachwedd, ychydig dros bythefnos.
Beth ydy cyfnod atal?
Mae cyfnod atal yn gyfnod cloi dofn a llym i gyfyngu’r cyswllt rhwng pobl, sydd ei angen i arafu lledaeniad y firws. Os yw ffigyrau yn parhau i gynyddu fel y maent yna bydd y GIG yn dod i bwynt lle nad ellir ymdopi mwyach, felly mae angen y mesuriadau llym yma i geisio cael rheolaeth ar y ffigyrau fel nad oes rhaid mynd i gyfnod clo hirach fel ym mis Mawrth.
Pa reolau sydd yn wir i mi?
Mae’r rheolau yn dweud nad wyt ti’n cael cyfarfod gydag unrhyw un, dan do nac yn yr awyr agored, os nad wyt ti’n byw gyda nhw. Dim cast neu geiniog nac arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus eleni 🙁
Mae hi’n hanner tymor yn yr wythnos gyntaf. Yn ystod yr ail wythnos, os wyt ti ym mlwyddyn 7 neu 8 yna byddi di’n mynd yn ôl i’r ysgol. Bydd blynyddoedd 9+, myfyrwyr coleg a phrentisiaid yn dysgu o gartref am wythnos. Bydd myfyrwyr prifysgol yn cael cymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb i wyneb.
Os wyt ti’n gweithio, mae’n rhaid gwneud hyn o gartref, os nad wyt ti’n weithiwr allweddol neu ddim yn gallu gweithio o gartref.
Ydw i’n cael mynd allan o gwbl?
Wyt. Rwyt ti’n cael ymarfer corff yn yr awyr agored cymaint ag yr wyt ti eisiau. Ond mae’n rhaid gwneud hyn ar ben dy hun neu gyda’r bobl rwyt ti’n byw â nhw. Nid wyt ti’n cael trefnu cyfarfod gyda ffrindiau y tu allan.
Mae pobl yn cael mynd allan i brynu pethau hanfodol ac am feddyginiaeth. Rwyt ti hefyd yn cael gadael y tŷ os wyt ti’n ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.
Mae’r rhai sydd yn byw ar ben eu hunain a rhieni sengl yn cael creu swigen gyda theulu arall. Rwyt ti hefyd yn cael gofalu am berson bregus wrth helpu gyda siopa a danfon meddyginiaeth.
Os wyt ti’n ddigartref fe ddylai’r awdurdod lleol ddarganfod llety argyfwng i ti. Cysyllta â Shelter Cymru am gyngor a chymorth.
Beth yw’r pwynt?
Os yw niferoedd yn parhau i gynyddu fel y maent yna mae’r Llywodraeth yn debygol o orfod gosod y wlad mewn cyfnod cloi hirach a llymach arall. Mae’r ‘cyfnod atal’ yma yn ceisio cadw’r dôn yn ôl am gyfnod fel nad yw hyn yn digwydd. Y mwy o bobl sydd yn cadw i’r rheolau, yna’r mwy llwyddiannus y bydd hyn, felly mae angen i bawb chwarae ei ran.
Ydy, mae hyn yn rhwystredig iawn, ac mae’r mwyafrif ohonom wedi cael hen ddigon ar y sefyllfa, ond y realiti ydy bod Covid-19 yma o hyd. Os yw’r GIG yn boddi gyda achosion yna ni fyddant yn gallu trin pobl ac yn anffodus mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn marw o’r firws, a salwch fel arall sydd ddim yn derbyn triniaeth am fod yr ysbytai yn rhy brysur. Mae hyn yn arswydus, ac yn codi ofn, ond dyna’r realiti. Wrth chwarae ein rhan gallem helpu osgoi’r sefyllfa yma.
Ni ddylid gorfod dibynnu ar yr heddlu i sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau, fe ddylem gwestiynu ein hunain am pam fod hyn yn hanfodol, a beth allem ni ei wneud i sicrhau llwyddiant y cyfnod atal yma.
Cymorth
Mae hyn yn anodd i bob un ohonom, ond efallai bod rhai yn ei chael yn fwy anodd ymdopi nag eraill. Mae yna wasanaethau gall helpu:
Meic – Llinell gymorth i bobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru sydd yn gwrando, cynnig cyngor a chysylltu pobl gyda gwasanaethau sydd yn gallu helpu.
Rhadffon: 080880 23456
Tecstio: 84001
Sgwrsio Ar-lein: www.meic.cymru
Y Samariaid – Mae’r Samariaid yn gallu helpu os wyt ti’n teimlo fel bod popeth yn ormod. Gellir cysylltu yn rhad ac am ddim 24 awr y dydd. Mae ganddynt app hunangymorth hefyd gallai fod o ddefnydd.
Ffonio: 0808 1640123 (Llinell Gymraeg 7yh-11yh) neu 116 123 (Saesneg 24 awr)
E-bost: jo@samaritans.org
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – Os wyt ti, aelod o’r teulu, ffrind, neu unrhyw un arall rwyt ti’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, mae posib cysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth am ddim neu i drafod dy opsiynau.
Ffonio: 0808 80 10 800
Tecstio: 07860077333
E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Sgwrs ar-lein: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cysylltwch-byw-heb-ofn