Gwirfoddoli
Gall gwirfoddoli fod yn ffordd i mewn i lawer o swyddi – gall y profiad a’r cysylltiadau fod yn ddefnyddiol i ti yn y dyfodol! Mae hefyd yn ffordd dda o wneud ffrindiau ac yn fwy cynhyrchiol nag treulio 6 awr y nos ar yr Xbox…
Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwaith gwirfoddol, edrycha ar y wybodaeth isod:
Gwasanaethau Cenedlaethol
Gwirfoddoli Cymru – Chwilia am gyfleoedd gwirfoddoli. Mae posib chwilio am bethau y tu allan i’r ardal hefyd. Mae’r dudalen gartref yn caniatáu i ti chwilio gyda chod post.
CGGC – Dysga fwy am wirfoddoli a sut i gymryd rhan.
VInspired – Cyfleoedd gwirfoddoli ledled y DU.
The Mix: Gwirfoddoli – Gwybodaeth, erthyglau a chefnogaeth gwirfoddoli i bobl ifanc.
Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru (SVC) – Elusen sydd yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr gyda phrosiectau gwirfoddol ledled De Cymru – gweithio gyda’r digartref, plant a phobl ifanc, rhai gydag anableddau, a’r amgylchedd.
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Apiau Defnyddiol
OnHand – App sydd yn darparu cyfleoedd i helpu pobl a sefydliadau yn dy gymuned.
Blogiau a Chanllawiau
5 Rheswm i Wirfoddoli ar Gyfer Myfyrwyr – TheSprout
Get Funding For A Community Project – The Mix
“Volunteering gave me the courage to speak up about my own mental health issues.” –The MIx