Y Gyfraith, Dy Hawliau a Dinasyddiaeth
Mae’r gyfraith, hawliau a dinasyddiaeth yn rhywbeth sydd yn berthnasol i bawb sydd yn byw yng Nghymru, ond gall fod yn bwnc anodd iawn i ddeall. Yn yr adran yma byddem yn ceisio egluro rhywfaint.
Mae’r adran Y Gyfraith, Dy Hawliau a Dinasyddiaeth wedi’i rannu yn 4 darn gwahanol yn edrych ar bethau gwahanol sydd yn berthnasol i ti fel person ifanc ac fel dinesydd y DU.
Y Gyfraith
Trosedd, Llysoedd a’r Heddlu
Mae’r gyfraith yn gyfres o reolau disgwylir i bobl lynu wrthynt. Maent yn gosod sut y dylai pobl ymddwyn er mwyn cadw trefn mewn cymdeithas. Os wyt ti’n glynu at y gyfraith rwyt ti’n derbyn gofal ac amddiffyniad gan y llywodraeth. Os wyt ti’n torri’r gyfraith, mae yna ganlyniadau. Os wyt ti’n ddioddefwr trosedd, mae’r gyfraith yn bodoli i’th amddiffyn. I ddysgu mwy am hyn edrycha ar yr adran Trosedd, Llysoedd a’r Heddlu isod.
Hawliau
CCUHP a Hawliau Plant
Fel dinesydd gwlad mae gen ti hawliau gwahanol, pethau rwyt ti’n cael, ac mae gen ti’r hawl, gwneud. Mae yna lawer o hawliau gwahanol, fel hawliau dynol neu hawl i siarad yn rhydd. Fel plentyn neu berson ifanc, mae gen ti gyfres o hawliau dy hun sydd yn cael ei alw’n CCUHP. I ddysgu mwy am y rhain, clicia ar yr adran CCUHP a Hawliau Plant isod.
Pleidleisio
Hawl arall ydy gallu pleidleisio mewn etholiadau a refferendwm, mae manylion pellach am hyn isod hefyd.
Dinasyddiaeth
Mewnfudo, Noddfa a Masnachu Pobl
Mae yna faterion arbennig sydd yn cael effaith ar y rhai sydd wedi symud o wlad arall i Gymru a’r hawliau sydd ganddynt. Mae yna sefydliadau arbenigol sydd yn gallu helpu gyda’r hawliau yma.
Pleidleisio
Os wyt ti’n ddinesydd y Deyrnas Unedig ac yn 18 oed neu fwy, yna mae gen ti hawl i bleidleisio.
Trosedd, Llysoedd a’r Heddlu
Mae yna ddigonedd o gyngor ar atal trosedd, yr heddlu a’r gyfraith ar gael. Darganfod rhai o’r ffynonellau gorau yma.
Mewnfudo, Noddfa a Masnachu Pobl
Mae’r pynciau yma yn y newyddion o hyd. Gwybodaeth a dolenni ar y dudalen yma.