Mewnfudo, Noddfa a Masnachu Pobl

Mae mewnfudiad (immigration) yn bwnc llosg sydd yn aml yn creu dadl. Mae mewnfudo a noddfa (asylum) yn ymddangos yn y newyddion ac mewn gwleidyddiaeth o hyd.

Mewnfudo

Mewnfudiad ydy pan fydd ydy pan fydd rhywun yn dod i fyw i wlad arall yn barhaol. Gall fod sawl rheswm am hyn – astudio, gweithio, teulu, cymdeithasol ayb.

Noddfa

Mae ymofynnwr noddfa yn rhywun sydd wedi dianc o’u gwlad ac yn gwneud cais am noddfa mewn gwlad arall gan ei bod yn llawer rhy beryglus i ddychwelyd i wlad eu hunain. Os yw’r Llywodraeth yn derbyn cais am noddfa yna mae’r person yn dod yn ffoadur (refugee).

Mae Asiantaeth Ffiniau’r DU yn gyfrifol am fewnfudiad a noddfa yn y DU. Nhw sydd yn penderfynu os yw rhywun yn cael dod i mewn ac aros yn y wlad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r CCUHP ac felly mae’n rhaid iddynt sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu parchu. Golygai hyn bod rhaid cael ystyriaeth i hawliau plant a phobl ifanc ym mhopeth maent yn ei wneud, i sicrhau eu bod yn ateb eu hawliau. Mae’r hawliau yma yn cynnwys mewnfudwyr, ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid ifanc hefyd.

Masnachu Pobl

Masnachu Pobl ydy pan fydd rhywun yn dod a rhywun i mewn i’r wlad trwy dwyll, orfodaeth, neu fygwth trais. Mae’n fath o gaethwasiaeth (slavery) fodern pan fyddant yn cymryd pobl yn erbyn eu hewyllus, neu drwy dwyll, i gael eu hecsbloetio mewn gwlad arall. Maent yn cael eu gorfodi i weithio fel gwas, caethwas, neu’n cael eu gorfodi i gamdriniaeth rywiol a phuteindra (prostitution).

Mae sawl elusen a sefydliad yn cynnig help a chymorth i ymofynwyr noddfa, ffoaduriaid a dioddefwyr masnachu pobl. Edrycha ar y dolenni isod.

Gwasanaethau Cenedlaethol

BAWSO – Yn darparu gwasanaethau arbenigol i gymunedau BME. Mae sawl prosiect sydd yn helpu ffoaduriaid, ymofynwyr noddfa a dioddefwyr masnachu pobl. Galwa’r llinell gymorth 24 awr ar 08007318147.

Cyngor ar Bopeth – Mae gan Cyngor ar Bopeth llawer o wybodaeth am fewnfudo.

Y Groes Goch – Cymorth gydag anghenion brys ffoaduriaid, ymofynwyr noddfa a mewnfudwyr bregus eraill, fel parseli bwyd, dillad, eitemau babi ayb.

Fisâu a Mewnfudo – Gov.uk – Holl wybodaeth Llywodraeth y DU ynglŷn â mewnfudo, fisâu, noddfa, ymgartrefu yn y DU, a mwy.

Gweld os oes angen fisa – Gov.uk – Ateb ychydig o gwestiynau i weld os oes angen fisa i astudio, ymweld neu weithio yn y DU.

Fisa myfyrwyr – Gov.uk – Gweld pa fath o fisa astudio sydd ei angen a gwybodaeth am noddi.

Cefnogaeth Noddfa – Gov.uk – Gellir gwneud cais am gymorth noddfa os wyt ti’n ddigartref neu heb arian i brynu bwyd.

Llinellau Gymorth Noddfa – Gov.uk – Derbyn help dros y ffôn os wyt ti’n ymofynnwr noddfa neu’n ffoadur ac angen cyngor am y broses noddfa neu addasu i fywyd yn y DU.

Plant yn Chwilio am Noddfa – Barnardo’s Cymru – Gwybodaeth am yr hyn maent yn ei wneud i helpu ymofynwyr noddfa yn y DU.

Displaced People In Action (DPIA) – Cymorth i ffoaduriaid ac ymofynwyr noddfa  i setlo yng Nghymru gyda chynlluniau adleoli, hyfforddiant, a phrosiectau plant a hawliau.

Cyngor Ffoaduriaid – Cefnogi ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau ac i roi llais cryfach iddynt yn y penderfyniadau sydd yn cael effaith arnynt.

Cyngor Ffoaduriaid Cymru – Yn siarad ar ran y rhai sydd yn dianc o erledigaeth, gwrthdaro a gormes. Cymorth i adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru.

Caethwasiaeth Fodern – Salvation Army – Cefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn y DU. Llinell cyfeirio gyfrinachol yn agored 24/7. Galwa: 0300 303 8151.

Masnachu Plant – NSPCC – Gwybodaeth am fasnachu plant a manylion cyswllt am y Child Trafficking Advice Centre.

Apiau Defnyddiol

Refugee Speaker – Helpu ffoaduriaid a staff gofal iechyd i gyfathrebu. Larlwytho ar yr App Store neu Google Play.

Kindi – Helpu ffoaduriaid sydd yn dysgu i wella eu Saesneg gyda sesiynau darllen byw gyda siaradwyr brodor ledled y byd.

RefAid – Dangos i fewnfudwyr a ffoaduriaid ble i ddarganfod gwasanaethau gall helpu.

THE STOP APP – Adrodd amheuaeth o fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn gyfrinachol drwy’r app dienw yma.

Blogiau a Chanllawiau

Immigrants explain how they made themselves at home in Wales – Wales Online

Victims’ Stories – Jenny’s Story – Salvation Army

Trafficking Survivor Stories – Rebecca – Equality Now

The gut wrenching stories of the brave young refugees who fled their countries and made Wales their new home – Wales Online

Adnoddau ffoaduriaid a mewnfudwyr i bobl ifanc – helpu pobl ifanc i herio rhagdybiaethau am fewnfudwyr, ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid, ac i fagu parch cilyddol, empathi a dealltwriaeth.

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd