Cysylltu / Cyflwyno Newyddion
Oes gen ti rywbeth i’w ddweud? Wyt ti eisiau bod yn rhan o theSprout? Llenwa’r ffurflen a bydd rhywun yn cysylltu’n ôl yn fuan.
Cyflwyno Erthyglau a Digwyddiadau
Mae yna ddwy ffordd i gyflwyno erthyglau a digwyddiadau i theSprout:
1. Cofrestru/Mewngofnodi ar dop dde unrhyw dudalen. Awgrymir hyn ar gyfer cyfranwyr rheolaidd. Bydd hyn yn rhoi mynediad i gefn y wefan (ar ôl i ni greu’r cyfrif) a bydd posib i ti ychwanegu lluniau* a fideos* i’r erthyglau a’r digwyddiadau, yn ogystal â gosod a chael rhagolwg o dy waith.
2. Os wyt ti’n cyflwyno rhywbeth unwaith neu dy fod di’n anghyfforddus yn defnyddio pen cefn y wefan, mae croeso i ti roi’r erthygl yn y blwch neges ar y dudalen hon. Noda, ni fydd posib llwytho delweddau i gyd-fynd â’r erthygl neu ddigwyddiad, ond mae croeso i ti e-bostio’r rhain i info@thesprout.co.uk*.
Os oes gen ti gwestiwn, rho hynny yn y blwch neges ar y dudalen hon.
*Cofia gynnwys ffynhonnell y ddelwedd/fideo (cyfeiriad URL) bob tro, fel bod posib cysylltu iddo a rhoi’r credyd cywir.
Noda:
Weithiau, yn ôl y gyfraith, bydd angen i ni basio gwybodaeth rwyt ti’n ei rannu ymlaen os wyt ti, neu rywun arall, mewn perygl sylweddol o niwed. Gelwir hyn yn amddiffyn plant.
Os bydd rhaid gwneud hyn, byddem yn ceisio cysylltu i ddweud ein bod yn rhannu’r wybodaeth gyda sefydliad arall fydd yn gallu cynnig cefnogaeth i ti. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud hyn, bod hynny gyda dy ganiatâd neu hebddo. Ond, byddem yn cadw mewn cysylltiad i ddweud wrthyt ti.
Canllaw Arddull theSprout – awgrymiadau am sut i ysgrifennu ar gyfer theSprout
Canllaw Lluniau theSprout – awgrymiadau ar ddarganfod a llwytho delweddau gydag erthyglau