Gyda’r tywydd hyfryd, mae pawb yn awyddus i gael allan a chymdeithasu gyda’n ffrindiau. Pa ffordd well i brofi prifddinas odidog Caerdydd nag wrth fynychu rhai o’r digwyddiadau anhygoel sydd yn digwydd yr wythnos hon?
Ond gan ein bod yn ifanc ac yn barhaol dlawd, gall fod yn frwydr ceisio darganfod digwyddiad fydd ddim yn torri’r banc. Felly rydym yn hapus i helpu, i dy arwain at yr adloniant fydd ddim yn costio’r byd! Felly dyma ni, canllaw theSprout i’r digwyddiadau rhad ac am ddim byddi di’n mynychu dros y saith diwrnod nesaf.
Gŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd
6-8 Gorffennaf – Bae Caerdydd – Am Ddim – Tudalen Digwyddiadau
Mae’r digwyddiad bywiog yma yn bodloni’r tri phleser dynol: cerddoriaeth, bwyd a diod. Bydd cerddorion yn chwarae ochr yn ochr â chymuned gwerthwyr bwyd stryd Caerdydd yn yr haul poeth yn y Roald Dahl Plass. Mae chwedl yn dweud bod y person cyntaf i flasu pob cyfuniad bosib o fwyd a diod yn yr ŵyl yn ffrwydro! Cer draw i wefan Croeso Caerdydd i ddarganfod mwy.
Cerddoriaeth yn y Parc
Dydd Sul, 8 Gorffennaf 14:00-19:00 – Parc Belle Vue, Penarth – Am ddim – Tudalen digwyddiadau
Digwyddiad am ddim gwych i’r teulu oll. Ymlacio ar laswellt gwyrdd, gwyrdd Parc Belle Vue, Penarth, a gwrando ar rai o gerddorion mwyaf talentog De Cymru. Soniais i fod hyn am ddim? Gorau oll, mae’n ddigon buan ac ym Mhenarth, y faestref glan môr prydferth, sydd â gorsaf drên ei hun. Neidia ar yr Arriva gyda phram dy frawd/chwaer/mab/merch! Syrffia draw i’r dudalen Facebook am wybodaeth bellach.
Gŵyl Gomedi Howl
Dydd Sul, 12 Gorffennaf 12:00-23:30 – Tramshed – £12 (18+) – Tudalen digwyddiadau
Mae Caerdydd yn hen law ar noson gomedi da, ond mae’r Tramshed yn newydd i’r sîn. Mae Howl wedi dod yn ffefryn gyda chefnogwyr comedi lleol. Ac maent yn paratoi am yr haf gyda diwrnod llawn o gomediwyr gwych yn adlonni’r dorf yn y parc.
Manylion pellach ar dudalen gwybodaeth Facebook, neu cer yn syth i wefan Eventbrite am docynnau.
Blue Stockings
12-14 Gorffennaf, 7:30yh pob dydd – Theatr y Sherman – £4 i rai dan 25 oed (15+) – Tudalen digwyddiadau
Mae’n 1896, ac mae merched wedi cyrraedd Coleg Girton, Prifysgol Caergrawnt. Dyma’r myfyrwyr benywaidd cyntaf yn y wlad, ond bydd rhaid iddynt frwydro i gyrraedd y diwrnod graddio. Gorau oll, fel yr holl ddramâu gwych sydd yn ymddangos yn y Sherman, mae yna ostyngiad o 50% i rai dan 25 oed, felly dim ond £4 fydd tocyn i weld Blue Stockings. Edrycha ar restr perfformiadau’r Sherman am wybodaeth bellach a thocynnau.
Gŵyl Traeth Bae Capital FM
6 Gorffennaf – 2 Medi – Argae Bae Caerdydd – Mynediad am ddim – Tudalen Digwyddiadau
Ydy’r Bari ychydig yn bell? Porthcawl yn ormod o drafferth teithio yno? Wel, mae CapitalFM wedi bod yn garedig iawn, ac wedi cario’r traeth i’r ddinas, gyda holl hwyl ffair glan y môr wedi cyrraedd am haf llawn hwyl ym Mae Caerdydd. Bydd yr atyniad am ddim yma yn cyflwyno adeiladu castell tywod, certi sglefrio ac olwyn fawr i lan y dŵr. Os wyt ti’n edrych ymlaen cer draw i wefan swyddogol y digwyddiad am wybodaeth bellach.