Perthnasau
O berthnasau iach i berthnasau drwg – ar y dudalen hon mae gennym ddolenni, cyngor ac awgrymiadau i gefnogi gydag un o’r rhannau mwyaf pwysig, pleserus, cymhleth neu ddryslyd ym mywyd rhywun.
Mae eisiau bod mewn perthynas â rhywun, a threulio amser a phrofiadau â nhw, yn beth hollol normal ac iach. Mae pob perthynas yn unigryw, ac nid oes unrhyw frys i fod mewn perthynas nes y byddi di’n teimlo’n barod chwaith.
Gall fod yn brofiad gwych, ond weithiau gall fod yn gyfnod dryslyd neu bryderus. Mae bod mewn perthynas â rhywun angen parch, cyfaddawdu a chyfathrebu am ein teimladau. Weithiau mae’n hawdd anghofio faint o amser, amynedd ac ymroddiad sydd ei angen er mwyn i berthynas lwyddo.
Mae gen ti hawl i wneud dewisiadau yn dy berthnasau a ddim teimlo dan bwysau i ruthro i wneud unrhyw beth. Cofia, dy deimladau di yw’r peth pwysicaf, ac os wyt ti angen cymorth a chyngor, rhanna dy bryderon â rhywun gallet ti ymddiried ynddynt.
Dyma sydd ar y dudalen hon:
Gwasanaethau Cenedlaethol
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Brook – Adran enfawr ar berthnasau.
The Mix – Gwefan arall gyda llwyth o wybodaeth ac erthyglau am berthnasau.
Cyngor ar Bopeth – Adran perthnasau yn canolbwyntio ar y gyfraith a dy hawliau.
Relate – Darparwr cefnogaeth perthynas mwyaf y DU.
SupportLine: Perthnasau – Sgrolia i waelod y dudalen am restr o wasanaethau a llinellau cymorth defnyddiol.
Cymorth i Ferched Cymru – Yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i ferched a phlant sydd wedi profi neu yn dioddef camdriniaeth ddomestig.
The Hideout – Yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall camdriniaeth ddomestig, a sut i gymryd camau positif os yw’n digwydd i ti.
TheSprout – Cer draw i’r adran Pan Fydd Pethau Yn Mynd O’i Le os yw pethau yn mynd o’i le gyda dy berthynas neu os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus â phethau.
Blogiau a Chanllawiau
#TiYnHaeddu: Perthnasau Iach – TheSprout
Relationships Myths – Brook.org
Looking For A Relationship – Brook.org
Social Media & Relationships – Brook.org
Online Dating Safely – The Mix
Asexual & In Love – The Mix
How I Escaped My Forced Marriage – The Mix
Date Ideas – The Mix
How To Talk To Your Boyfriend/Girlfriend – The Mix
Mixed Relationships – The Mix
I Love My Best Friend – The Mix
Flirting – The Mix
Dating & Disabilities – The Mix