Y Sprout Yn Chwilio Am Ohebyddion Chwaraeon a Gemwyr

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r Sprout yn chwilio am ohebyddion ifanc i adrodd ar y byd gemau fideo a chwaraeon.

Mae’n wir fod yna sawl ysgrifennwr anhygoel yma yn y Sprout.

Mae yna bobl sydd yn ymwybodol o’r bandiau mwyaf cŵl. Rhai sydd yn gweld pob sioe theatr bosib. Mae gennym bobl sydd yn arbenigwyr ar ffilm. Tipyn ohonynt yn hoff o wleidyddiaeth a materion amgylcheddol. Ac wrth gwrs, llawer o bobl sydd yn deall yn union ble i fynd i gael y wybodaeth sydd ei angen.

Ond bellach rydym yn chwilio am ddau fath newydd o ysgrifenwyr – nid dau o bobl yn unig yw hyn wrth gwrs.

Amser sgrin

Mae pawb yn gemwr y dyddiau hyn. Ond nid yw pawb yn ymwybodol o’i stwff. Wyt ti’n deall am Battle Royale a Deathmatch? Wrth dy fodd yn profi dy feddwl gyda phos, yna profi dy ymateb gyda gem saethu? Wyt ti’n aros yn effro’n hwyr, yn adrodd y mantra “dim ond un gêm arall”? Efallai bod gen ti sianel YouTube, neu lif Twitch, gyda dilynwyr yn barod? Ymuna gyda ni a chynyddu dy ffans.

Rydym yn chwilio am gemwyr yng Nghaerdydd i greu cynnwys ar gyfer y Sprout. Rydym angen pobl gall ddweud wrthym ni am y gemau newydd fwyaf cŵl, y pethau newydd sydd yn digwydd ar weinyddion ar-lein, y cyhoeddiadau E3 mwyaf cyffrous. Os mai ti yw hyn, ta waeth faint o brofiad sydd gen ti, os wyt ti’n ysgrifennu neu’n creu fideos, ac yn awyddus i gychwyn, cysyllta gyda’r manylion isod. Ydw i wedi sôn ein bod yn derbyn codau adolygu yn aml?

Amser ychwanegol

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd yn byw ac yn anadlu chwaraeon. Wyt ti’n breuddwydio am gynllunio trefniant tîm Cymru ar y cae ar gyfer y gêm Chwe Gwlad nesaf, a sut yn union i roi’r cynllun perffaith yma i Warren Gatland? Ar y penwythnosau wyt ti lawr i dy bengliniau mewn mwd, neu ar ryw gae pêl droed yng nghanol unlle, neu’n rhychu dy ael mewn byncer golff?

Efallai dy fod di’n fwy o ffan o chwaraeon ‘gwahanol’, fel pêl osgoi neu hoci beic un olwyn. Beth bynnag yw’r gamp, marc o unrhyw bapur newydd da ydy’r sylw chwaraeon. Felly hoffem weld mwy o bobl yn ysgrifennu am chwaraeon ar y Sprout. Os mai ti yw’r person hwnnw, ac rwyt ti’n ystyried y peth, yna cer amdani. Cysyllta gyda’r manylion isod.

Cysyllta

E-bostia ar info@thesprout.co.uk
Trydar ar @feedthesprout
DM ar IG @feedthesprout
Negeseuo ar FB @TheSprout.co.uk

Beth yw buddion ysgrifennu i’r Sprout?

Y Sprout ydy’r lle i fod ar-lein i bobl ifanc Caerdydd o 11 oed hyd at 25. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc yn yr ysgol, yn y chweched dosbarth, yn y coleg, ac oedolion ifanc yn y brifysgol ac ar gychwyn eu gyrfa. Golygai hyn y potensial o gael dy weld gan amrywiaeth eang o bobl ifanc – yn ogystal â nifer go dda o unigolion proffesiynol a sefydliadau sydd yn cadw golwg ar y wefan. Byddai’n le gwych i feistroli dy grefft greadigol, a byddi di’n cael help llaw arbenigwyr sydd yn golygu dy waith ac yn rhoi cyngor i ti am sut i symud ymlaen.

Mae yna stwff am ddim hefyd – bod hynny’n tocynnau adolygu i gêm neu god adolygu i rywbeth sydd eisoes i’w ryddhau. Os nad wyt ti’n derbyn ffrîbis fel arall, byddem yn rhoi Credydau Amser i’n cyfranwyr fel diolch am y gwaith caled. Mae posib gwario’r rhain mewn sawl lle yng Nghaerdydd a chael lot o hwyl. Yn olaf, byddi di’n falch o gael cyfrannu i brosiect gyda nod o ddiweddaru pobl Caerdydd. Darganfydda’ fwy am Gredydau Amser yma:

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd