Pethau Rhad Ac Am Ddim I’w Gwneud Yng Nghaerdydd: 14-20 Chwefror

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Unrhyw gynlluniau ar gyfer San Ffolant?

Mae colofn reolaidd digwyddiadau’r Sprout yn ôl yn dilyn gorchymyn poblogaidd.

Yn dilyn toriad bach i newid y fformat ychydig (a disgwyl i’r myfyrwyr ddychwelyd) rydym yn ôl ar gefn y ceffyl ac yn barod i gael allan o’r tŷ a byw bywyd yn y ddinas, heb wagio’r waled! O ieeeeee!

Rhanna dy farn am y fformat newydd – e-bost, Facebook, Twitter neu Instagram.

DYDD IAU, 14 CHWEFROR – LLAWER O GARIAD

“Dwi wir angen cael allan o’r tŷ ar San Ffolant neu byddaf yn treulio’r noson gyfan yn wylo i mewn i fowlen fawr o greision ŷd!” Na phoener – gallem helpu. Bydd Boy Azooga yn gwneud ymddangosiad arbennig yn un o leoliadau newydd mwyaf trendi Caerdydd, y Blue Honey Night Cafe (ger Stryd Womanby ac yn cychwyn am 7yh). Manylion pellach ar Facebook. Es i draw yno nos Lun i chwarae ychydig o wyddbwyll ac mae’n wir deud bod yna feib dda yno.

Set DJ’io gan un o fandiau poethaf Gymru ddim yn ddigon? Beth am roi tro ar ychydig o ddêtio cyflym? Mae gan Gassy Jacks ddigwyddiad ymlaen os wyt ti eisiau cyfarfod goreuon Cathays. Yn digwydd bod, mae llety myfyrwyr Parc y Plac yn cynnal digwyddiad hefyd, ond dim ond i “gyfarfod pobl newydd” meddai nhw!

Os wyt ti’n ddigon ffodus i fod â dêt dyma fyddwn i yn ei wneud. Cychwyn gyda Romeo and Juliet yn The Gate o 7 tan 9:30yh. Yna byddwn yn cerdded braich ym mraich gyda’m nghariad i lawr am Stryd Womanby, gan stopio mewn ychydig o dafarndai ar y ffordd am fwyd a diod. Yna byddem ni’n mynd am ddawns i’r Disco Motel yng Nghlwb Ifor Bach. Bydd y pris mynediad ei hun i’r ddau ddigwyddiad yma yn £10 yr un. Pwy sy’n talu? Wel mae hynny’n sgwrs rhyngoch chi – ond hei, mae yn San Ffolant.

Pasia’r creision ŷd 😭😭😭

DYDD GWENER 15 CHWEFROR – POBL PARTI

Digwyddiad mwyaf nos Wener, yn amlwg, ydy Gellir Gwell, gig Cymru Annibynnol y Tramshed. Rwyf wedi bod yn ceisio ennill tocynnau, ond heb lwc. Os wyt ti fel fi yn gorfod bodloni gyda rhywbeth arall, yna mae cerddoriaeth gwerin byw caffi Ride My Bike yn opsiwn da (gweler Facebook).

Yn y cyfamser, mae’r Ŵyl Cwrw a Seidr ymlaen trwy’r dydd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Efallai bydd angen i ti ymweld â’n tudalen ar yfed cyn i ti fynd…

DYDD SADWRN 16 CHWEFROR – YR AWYR AGORED

Gan fod y tywydd oer yn dechrau troi, ac yn y gobaith nad yw’n bwrw glaw dydd Sadwrn, beth am gael allan i’r awyr agored? Ymuna mewn taith gerdded bywyd gwyllt gaeafol ym Mharc Rhath, wedi’i arwain gan y blogiwr bywyd gwyllt Pip Gray. Mae tocyn oedolyn yn £11, ond gobeithio bydd hwn yn werth yr arian. Mwy ar Ddigwyddiadau Green City.

Os wyt ti’n chwilio am ysbrydoliaeth, mae yna ddigwyddiad diddorol yn yr amgueddfa ‘Ifanc, Talentog – Be’ Nesa?‘ sydd yn edrych ar beryglon dilyn gyrfa greadigol os nad oes gen ti lawer o arian y tu cefn i ti ac mae pawb eisiau i ti wneud rhywbeth sy’n ennill lot, fel dod yn ddoctor neu’n gyfreithiwr. Mae’n canolbwyntio ar siwrne pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig i mewn i yrfaoedd creadigol. Gall fod yn un da os wyt ti angen ychydig o arweiniad.

DYDD SUL 17 CHWEFROR – HWTIAN

Gallet ti gymryd diwrnod bant, wir, neu fynd i’r capel os mai dyma ti’n hoff o wneud. Mae’n ddydd Sul, bobl.

Jôc! Mae Comedi Howl yn dychwelyd eto nos Sul yn y Tramshed, wedi’i gyflwyno gan Lorna Prichard, yn Sinema aerdymherus braf Tramshed, gyda’r comig lleol a’r meistr Photoshop Chris Chopping yn serennu ar hyn o bryd. Gellir prynu tocynnau ar-lein.

Gallet ti hefyd ymuno â Chymdeithas Meddygaeth Anial ac Alldaith Prifysgol Caerdydd am daith cerdded i fyny Mynydd y Garth.

DYDD MERCHER 20 CHWEFROR – AMSER AM GWIS

Mae yna nifer go dda o gwisiau yn digwydd yn yr wythnosau nesaf, a’r theori yw os wyt ti’n mynd i fwy ohonynt yna mae gen ti well cyfle i ennill! Felly beth am gamu lawr i Theatr y Sherman, ble mae’r Cwis yn cychwyn am 7yh nos Fercher nesaf. Dim ond £1 y person ydyw, gyda thimoedd o hyd at 6 person.

Yn cychwyn yn y Sherman hefyd dros wythnos San Ffolant mae’r sioe newydd Into The Light, sydd yn edrych yn wych. Felly efallai gallet ti roi tro ar hwnnw tra ti yno? Bydd ein hadolygiad i fyny yn fuan….

DYNA NI BAWB

Beth bynnag ti’n gwneud, beth bynnag yw’r gost, mwynha dy hun.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd