Alcohol, Cyffuriau ac Ysmygu

Yn aml, fel person ifanc, rwyt ti’n gorfod wynebu penderfyniadau anodd pan ddaw at alcohol, cyffuriau ac ysmygu. Efallai dy fod di eisiau arbrofi. Efallai bod dy ffrindiau yn rhoi pwysau arnat ti. Efallai dy fod di’n poeni bod aelod o’r teulu neu ffrind yn gaeth i gyffuriau neu alcohol. Neu efallai dy fod di eisiau cefnogaeth i stopio neu eisiau gwybodaeth bellach.

Mae theSprout yma i helpu wrth rannu gwasanaethau cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru.

Gwasanaethau Cenedlaethol

SchoolBeat – Mae ganddynt wybodaeth ac adnoddau i athrawon, disgyblion a rhieni i gefnogi gwersi sydd yn cael eu rhoi yn yr ysgolion gan Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion. Mae yna weithgareddau i blant a phobl ifanc am gamdriniaeth cyffuriau a sylweddau, ymddygiad cymdeithasol a diogelwch cymunedol a phersonol wedi ei rannu ar gyfer gwahanol oedrannau (5-7, 7-11, 11-14 a 14-16).

Alcohol Change UK – Yn gweithio i newid agweddau tuag at alcohol wrth wella ymwybyddiaeth am niweidion alcohol, galw am bolisi a rheoliad gwell, newid normau cymdeithasol newidiol, gwella ymddygiad yfed a gweithio gyda sefydliadau ac ymarferwyr i ddarganfod triniaeth a chefnogaeth well. Mae llawer o wybodaeth ar y wefan gan gynnwys cwis am yfed, cyngor sut i leihau defnydd a ble i gael help i ti neu dy deulu/ffrindiau.

DAN 24/7 – Llinell gymorth cyffuriau ac alcohol Cymru – Llinell gymorth ar y ffôn sydd yn ddwyieithog ac am ddim, yn darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gwybodaeth ychwanegol neu help yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol. Rhadffôn: 0808 808 2234 neu tecstia DAN ar: 81066

Helpa Fi i Stopio – Gwasanaeth stopio smocio am ddim y GIG yng Nghymru. Llawer o wybodaeth ar wasanaethau stopio smocio’r GIG a chanolfan gyswllt sydd yn ei gwneud yn haws i ysmygwyr ddewis y gefnogaeth orau iddyn nhw. Rhadffôn: 0808 2506885

Ash Cymru – Y nod ydy cyflawni Cymru di fwg gan weithio i greu polisïau llymach ac ymgyrchu dros Gymru. Maent yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau iechyd, cymdeithasol ac economeg ysmygu gan weithio gyda chymunedau, pobl ifanc a phartneriaid yng Nghymru.

Young Minds – Gwybodaeth am yr effaith mae defnyddio cyffuriau yn gallu cael ar dy iechyd meddwl a ble i fynd am help a gwybodaeth.

Re-Solv – Yn gweithio i stopio camdriniaeth toddyddion (nwyon, glud a sylweddau cyfreithiol eraill). Gwybodaeth, cyngor i leihau niwed a help cyfrinachol. Llinell gymorth: 01758 810762, Llun i Gwener 9:30yb-5yp. Neges testun neu WhatsApp – 07496 959930. Sgwrs fyw.

Drinkaware – Yn gweithio i leihau camdriniaeth a niwed alcohol a helpu pobl i wneud dewisiadau gwell. Ffeithiau, cyngor, tracio a chyfrifianellau i rai sydd yn poeni am yfed eu hunain neu yn poeni am rywun arall. Mae ganddynt wasanaeth Drinkline a Drinkchat hefyd, gellir cysylltu yn gyfrinachol ac am ddim am wybodaeth a chyngor am yfed dy hun, neu rywun arall. Llinell gymorth: 0300 123 1110 Llun-Gwener 9yb-8yh, Sadwrn a Sul 11yb-4yp.

Alcoholics Anonymous – Grŵp o bobl yn rhannu profiadau, cryfder a gobaith gyda’i gilydd i stopio yfed ac aros yn sobor. Darganfod cyfarfod yng Nghaerdydd. Llinell Gymorth Genedlaethol: 0800 9177 650.

Al-Anon – Mae Grwpiau Teulu Al-Anon yn cefnogi unrhyw un sydd yn dioddef oherwydd yfed rhywun arall. Nid ydynt yn cynnig cyngor na chwnsela, ond yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i bobl rannu profiadau o fyw gydag alcoholiaeth a chefnogi ei gilydd. Darganfod cyfarfod yng Nghaerdydd.

Talk to Frank – Yn cynnig cyngor cyffuriau cyfeillgar a chyfrinachol. Gyda A-Z o gyffuriau ar y wefan yn rhestru’r prif effaith a pheryglon a’r gyfraith ar gyfer pob un. Mae yna fideos, straeon, erthyglau a llinell gymorth hefyd. Llinell gymorth: 0300 123 6600 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Sgwrs byw – 2-6yh bob dydd. Neges testun 82111

Dear Albert – Yn helpu pobl i stopio defnyddio cyffuriau ac alcohol. Wedi’i sefydlu gan John Roberts ar ôl iddo wella o ddibyniaeth ei hun, mae’n wasanaeth sydd yn honni ei fod wedi ‘bod yno, a gwneud hynny’. Llinell gymorth: 0800 880 3153. Neges testun: 07712 707 999

E-DAS (Mynediad i Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol) – Gwasanaeth i helpu rhywun sydd yn meddwl bod ganddynt broblem alcohol neu sylweddau. Penderfynu ar y llwybrau gorau i gael yr help sydd ei angen a chymorth i gael mynediad i wasanaethau camdriniaeth sylweddau. Galwa: 0300 300 7000

Sgwrs am Iechyd (Chat Health) – Os wyt ti’n 11 i 19 oed mae posib gyrru neges testun i’r nyrs ysgol ar 07520 615718 rhwng 8:30yb a 4:30yp dydd Llun i ddydd Gwener i gael cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar bob math o bethau gan gynnwys ysmygu, cyffuriau ac alcohol.

Recovery Cymru – Cymuned o bobl yn helpu ei gilydd i wella o gamdriniaeth cyffuriau neu alcohol. Yn datblygu sgiliau a diddordebau a gwella ansawdd bywyd.

Mind Cymru – Mae Mind Cymru yn cynnig cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd yn profi problemau iechyd meddwl. Yn aml mae dibyniaeth cyffuriau ac alcohol yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mae yna adran dibyniaeth gyda gwybodaeth ble i fynd am gefnogaeth.

Meic Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Platfform (NewLink Wales) – Yn cynnal cyrsiau a phrosiectau i rai sydd wedi cael trafferth gyda defnyddio sylweddau neu heriau llesiant fel arall yn y gorffennol, yn gweithio gyda phobl i ddarganfod teimlad o bwrpas newydd, sgiliau newydd, neu i dyfu hyder eto.

Apiau Defnyddiol

Drinkaware: Track and Calculate Units App – Newidia’r ffordd rwyt ti’n yfed. Tracia’r unedau a’r calorïau yn dy ddiod a’r arian rwyt ti’n arbed.

Pocket Rehab: Get Sober and Addiction Recovery – Cysyllta gyda phobl eraill sydd yn ceisio gwella o’u dibyniaeth. Mae cymuned o gyfoedion yn helpu ei gilydd trwy neges testun, llais neu fideo wrth bwyso botwm.

Smoke Free – App i ddysgu technegau i stopio, gweld faint o arian rwyt ti wedi arbed, yr amser rwyt ti wedi bod yn ddi-fwg, y nifer o sigaréts heb eu smocio a gweld sut mae dy iechyd di’n gwella.

I Am Sober: Motivation for Tracking Sobriety – Yn cyfri’r dyddiau ers i ti fod heb gyffuriau, alcohol neu sigaréts. Yn dy atgoffa’n ddyddiol o’r rhesymau rwyt ti wedi rhoi’r gorau iddi a dyfyniadau i ysgogi.

Blogiau a chanllawiau

5 Steps Towards Addiction Recovery You Should Know – Our Young Addicts

10 Self Help Tips To Quit Smoking – GIG

Benefits of Stopping Smoking – GIG

Am I Alcohol Dependent? – Drinkaware

My Lifetime Hangover – theSprout

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd