Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 6-12 Rhagfyr

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Nid oes llawer o amser i ddisgwyl nawr. Gallaf synhwyro’r brêc Nadolig yn barod!

Wyt ti wedi gorffen siopa anrhegion eto? O weld yr holl dorfeydd ar fy ffordd adref bob dydd, mae llawer o bobl yn dal i brynu! Nid oes rhaid diflasu ar ôl gwario dy arian i gyd ar anrhegion, dyma’r pethau rhad ac am ddim sydd yn digwydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Canu-ar-y-cyd i Sioe Gerdd Porters

Dydd Iau, 6 Rhagfyr, 8:30yh – Porters Caerdydd – Mynediad am ddim (18+ yn unig)

Cynhelir y noson hon bob wythnos, ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar gan fod Lin-Manuel Miranda ei hun (awdur Hamilton) wedi cael ei weld yno sawl gwaith yn ddirgel yn ei hwdi a throwsus tracsiwt, yn canu ar dop ei lais. Mae’n debyg bod LMM wedi dychwelyd i America bellach, felly dim ond ti a chriw o bobl cŵl Caerdydd sydd yn gwirioni ar sioe gerddorol dda fydd yno. Cer i ganu! Darllena fwy ar Facebook, neu cer draw.

Panto Pinocchio PODS

6-9 Rhagfyr – Ystafelloedd Paget, Penarth- £10

Mae’r enwog (yn lleol) Cymdeithas Operatig a Dramatig Penarth wedi bod yn gweithio ar y sioe yma ers hir. Mae’n bantomeim sydd yn ail-ddweud stori’r bachgen pren, a’i drwyn sy’n tyfu wrth iddo ddweud celwydd. Mae posib y bydd yn sioe dda, wyddwn i ddim pa mor dda gan nad wyf wedi’i weld.  Mae yna amrywiaeth eang o oedrannau ymysg y cast, a dwi’n adnabod un ohonynt, bias cyfryngau efallai? Gwybodaeth bellach yma.

Rave in Aid

Dydd Gwener, 7 Rhagfyr, 9yh – Gwdihŵ – £3

Yn amlwg mae yna ddwsinau o nosweithiau clwb yng Nghaerdydd bob diwrnod o’r wythnos, ond beth am fynd i un sy’n cael ei drefnu at achos da? Mae Gwdihŵ yn cynnal rêf i gefnogi poblogaeth ddigartref Caerdydd. Bydd posib rhoddi eitemau sydd eu hangen ar y ffordd i mewn, fel sgarffiau a hetiau. Bydd y tâl mynediad yn mynd at y Ganolfan Huggard i gefnogi’r gwaith da sydd yn digwydd yno. Gwybodaeth bellach ar wefan Gwdihŵ.

Benthyg – Benthyg Paid Prynu

Dydd Sadwrn, 8 Rhagfyr, 11yb – Yr Hen Lyfrgell

Mae Lllyfrgell Pethau cyntaf Cymru yn agor i’r cyhoedd bob dydd Sadwrn.  Am cŵl. Wyddost ti fod y dril trydan, ar gyfartaledd, yn cael ei ddefnyddio am 15 munud yn ystod ei oes – beth am fenthyg un o dy lyfrgell offer llaw leol? Gwybodaeth bellach ar Facebook.

Llyfrgell Jig-so

Dydd Sadwrn, 8 Rhagfyr, 10yb – Llyfrgell Rhiwbeina

Un i bobl Gogledd Caerdydd, ac mae’n ymddangos bod rhestr yr wythnos yn drwm ar lyfrgelloedd. Mae hwn yn fwy o ddigwyddiad teuluol. Bob wythnos mae plant ac oedolion yn dod at ei gilydd yn Llyfrgell Rhiwbeina i ddatrys ychydig o bosau jig-so! Mwy ar Ddigwyddiadau Rhiwbeina.

Clwb Comedi’r Stiwdio: Rhagfyr

12 Rhagfyr, 7:30yh – Theatr y Sherman – Tocynnau cynnar £9

Mwynha ychydig o ddigrifwyr penigamp yn un o theatrau gorau Caerdydd. Un gwych i fyfyrwyr gan ei fod yn agos i’r Undeb Myfyrwyr yn Cathays. Bydd yna ychydig o fwyd a diod hefyd i gadw ti’n gynnes ac yn barod i chwerthin! Gellir arbed arian wrth brynu ar-lein.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd