Cymera Ran Yn Arolwg Pobl Ifanc Mind

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae gan yr elusen iechyd meddwl cenedlaethol, Mind, arolwg i ni.

Gwybodaeth am yr arolwg

Mae Mind wedi lansio rhaglen uchelgeisiol i wella’r wybodaeth a’r cymorth sydd yn agored i bobl ifanc ledled Cymru a Lloegr.

Mae ein hymchwil yn dangos bod gan un ymhob wyth plentyn neu berson ifanc 5 i 19 oed broblem iechyd meddwl – pedwar ymhob dosbarth. Ond rydym yn ymwybodol bod cefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc yn cyrraedd pen ei dennyn. Rydym am newid hyn.

I sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth orau bosib i blant a phobl ifanc, rydym eisiau clywed am eu profiadau. Arolwg Pobl Ifanc Mind ydy cychwyn y broses yma. Mae’n arolwg ar-lein i rai 13-24 oed sydd yn ofod diogel, dienw lle gall pobl ifanc rannu eu barn am iechyd meddwl a lles.

Wrth gymryd rhan, gall pobl ifanc gael dylanwad ar y gwaith bydd Mind yn ei ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a’r pethau penodol sydd angen eu gwella.  Gellir llenwi’r arolwg mewn tua deg munud ar liniadur, tabled neu ffôn clyfar.

Clicia’r ddolen isod i fynd i’r arolwg:

https://www.mind.org.uk/news-campaigns/campaigns/young-peoplesurvey/young-people-survey-welsh/

Iechyd Meddwl

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd