Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 2-8 Awst 2018

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae yna ddigwyddiad eithaf mawr yn digwydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon, sydd yn rhad ac am ddim: yr Eisteddfod Genedlaethol, yma ym Mae Caerdydd, am y tro cyntaf ers degawd.

Os nad wyt ti yn ffan fawr o’r Eisteddfod, rydym wedi darganfod digwyddiadau eraill sy’n digwydd yr wythnos hon.

DIM MÔR PLASTIG

31 Gorffennaf – 5 Awst – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Am ddim

Do, rydym wedi sôn am y digwyddiad yma wythnos diwethaf ond, os wyt ti’n darllen hwn yn eithaf agos at y dyddiad cyhoeddi, mae yna amsero hyd  i fynd i weld y meddiant plastig yma. I’th  atgoffa:

Mae theSprout yn gweithio mewn cydweithrediad â’r actifyddion yn fforwm ieuenctid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddant yn meddiannu arddangosfa forwrol yr amgueddfa. Bydd y moroedd model yn cael eu gorchuddio gyda llif o wastraff plastig i amlygu’r broblem o lygredd plastig yn ein moroedd. Bydd y sglefran-fôr yn cael ei ailosod gyda bagiau plastig, bydd y crwban môr yn cael aduniad gyda’r rhwyd achosodd iddo farw yn y lle cyntaf, a bydd crombil enfawr y morfil yn sugno bob math o sbwriel i’w fola. I weld yr olygfa dy hun, cer draw i’r amgueddfa yn ystod yr wythnos. Gwybodaeth bellach am yr arddangosfa ar eu gwefan.

Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae yn cyflwyno Gŵyl i’r Teulu

Gwener 3 Awst 15:45-21:00 – Tramshed Caerdydd – £5.50 i rai dan 18 oed.

Gŵyl i’r teulu gyda chacen, pitsa, gloywffyn, dawnsio a cherddoriaeth wrth gwrs. Mae’n ŵyl iaith Gymraeg, a bydd unrhyw elw o’r pris mynediad yn mynd i Gylch Meithrin Grangetown a’r Bae. Tocynnau ar Eventbrite.

Sêl Lyfrau i Godi Arian

Dydd Sadwrn 4 Awst 11:00-17:00 – MADE Caerdydd

Mae MADE Caerdydd, oriel gelf yn y Rhath, yn ceisio codi arian wrth werthu llyfrau rhad wedi’u rhoi gan ffrindiau’r oriel. Cer draw i gipio bargen.

Dysgu Chwarae Daeargelloedd a Dreigiau

Dydd Mawrth 7 Awst – Canolfan Gelfyddydau Gate

Efallai bod yna farn mai Dungeons and Dragons ydy un o’r pethau mwyaf ‘nyrdi’ gallet ti ei wneud, ond wyddost ti ddim – efallai byddi di wrth dy fodd â’r gêm. Mae cael rheolau i’w dilyn a Meistr y Ddaeargell dda yn creu stori ddofn gellir ymgolli ynddi. Mae’r siop gemau bwrdd lleol ‘Rules of Play’ yno i roi cyflwyniad i’r gêm byd enwog yma o gleddyfau a dewiniaeth. Gwybodaeth bellach ar y bar gemau bwrdd a’i weithgareddau ar dudalen Facebook Rules of Play.


Yn chwilio am fwy o ddigwyddiadau? Beth am nodi tudalen digwyddiadau theSprout am wybodaeth gyfoes. Cofia ddod yn ôl wythnos nesaf am fwy o bethau gwych i wneud yng Nghaerdydd fydd ddim yn torri’r banc.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd