Site icon Sprout Cymraeg

Modryb Sprout – Dwi Ddim Wedi Cael Rhyw

“Annwyl Modryb Sprout,

Fi yw’r unig un ymysg fy ffrindiau sydd yn fyrjin o hyd. Mae fy ffrindiau a finnau yn mynd i’r brifysgol cyn hir, a bob tro rydym yng nghwmni ein gilydd mae pawb yn siarad am ryw ac yn cyfnewid straeon. Dwi ddim wedi gwneud dim rhywiol gyda neb, ac felly fedra i ddim cyfrannu a dwi’n cael fy nghau allan. Maen nhw’n chwarae gemau yfed am y pwnc hefyd, felly mae pawb yn meddwi’n gaib a fi’n sobr sant bob tro!

Dwi wedi bod yn disgwyl nes cyfarfod rhywun arbennig, ond dwi ddim wedi bod mewn perthynas hyd yn oed. Dwi’n dechrau meddwl mod i’n od. Mae pawb yn dweud nad wyt ti eisiau bod yn fyrjin pan ti’n mynd i’r brifysgol.

Dwi’n rhedeg allan o amser, beth ddylwn i’w wneud?”

Dyma’ch cyfle Sproutwyr annwyl. Os oes gen ti gyngor i’w gynnig, gad sylwad isod (mae am ddim i adael sylwad ond awgrymir i ti gadw dy bostiadau yn ddienw!).

Mae theSprout wedi bod yn gweithio gyda Meic – llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru – sydd wedi postio fel y Fodryb Sprout isod!

Neu, os oes gen ti broblem neu gwestiwn hoffet ti gael cyngor arno, beth am ei rannu gyda chymuned y Sprout? Dyma sydd wedi cael ei ofyn cynt.

Bydd y cwestiwn yn cael ei bostio yn ddienw, byddem yn newid yr enw. Hefyd, cofia edrych ar adran Gwybodaeth y Sprout. Neu, mae posib cysylltu gyda Meic yn uniongyrchol – www.meic.cymru.

————————————-

Ymateb y Fodryb Sprout

 

Helo ‘na,

Diolch am gysylltu am y mater yma; mae llawer o bobl ifanc yn poeni am hyn.

Mae llawer iawn o bwysau cyfoedion ar bobl ifanc i ddod yn actif yn rhywiol, yn aml cyn iddynt deimlo’n barod i ddechrau cael rhyw. Ar ben hynny, mae’r cyfryngau (papurau newydd, cylchgronau, rhaglenni teledu a ffilm) yn portreadu pobl ifanc yn cael rhyw fel norm cymdeithasol, ond nid dyma’r gwir i bob person ifanc.

Rwyt ti’n dweud bod dy ffrindiau yn siarad am ryw ac yn cyfnewid straeon. Mae’n bosib mai cadw wyneb yw hyn i rai ac nad dyma’r gwirionedd bob tro. Mae’n eithaf cyffredin i bobl ifanc gorliwio neu ddweud celwydd am gael rhyw. Efallai bydd rhai o dy ffrindiau yn teimlo’n debyg i ti, ond yn ddiffyg yr hyder i ddweud.

Mae’n swnio fel dy fod di wedi meddwl lot am pan fyddi di efallai’n teimlo’n barod i gael rhyw, a dy fod di wedi meddwl disgwyl nes i ti gyfarfod rhywun arbennig. Fe ddywedes di hefyd dy fod di’n poeni dy fod di’n od am nad oeddet ti wedi cael perthynas eto. Ond mae hyn yn ffitio gyda’r dymuniad o gyfarfod rhywun arbennig cyn cael mewn i berthynas.

Mae’n glir dy fod di’n feddyliwr annibynnol, gyda synnwyr cryf o’r pethau ti eisiau a ddim eisiau, ac mae hynny’n beth positif iawn! Ti’n llawer mwy tebygol o gael profiad pleserus o ryw os nad wyt ti dan bwysau ac yn gwbl gyfforddus gyda dy ddewis.

Soniais fod dy ffrindiau i gyd yn siarad am ryw pan fyddech chi’n cyfarfod. Oes gen ti ffrindiau sydd efallai yn teimlo’n debyg i ti, neu sydd ddim yn treulio’r holl amser yn siarad am ryw? Os oes, yna efallai byddai’n syniad treulio amser gyda nhw, gan y bydda hyn yn lleihau’r pwysau arnat ti. Gallet ti hefyd ystyried dilyn unrhyw ddiddordebau, fel chwaraeon, neu wneud ychydig o wirfoddoli cyn mynd i’r brifysgol.

Rwyf wedi rhestru ychydig o wefannau am ryw, pobl ifanc a phwysau cyfoedion gall fod o fudd i ti.

Gobeithiaf y bydd y rhain yn helpu, a phob lwc i ti yn y brifysgol….

Tudalennau Gwybodaeth y Sprout – Iechyd Rhywiol

Iechyd Rhywiol

Brook.org.uk

 

Exit mobile version