Modryb Sprout

Helo, fi yw’r Fodryb Sprout, modryb ofidiau (agony aunt) theSprout.

Oes gen ti gwestiwn, mater neu broblem i’w rannu gyda chymuned theSprout? Yna rhanna gyda ni…

Anfon Cwestiwn

Oes gen ti gwestiwn neu broblem? Yna defnyddia’r ffurflen gyswllt.

Os yw’n gwestiwn difrifol yna byddaf yn dileu dy enw, fel ei fod yn gyfrinachol. Yna, byddaf yn gofyn barn cymuned theSprout wrth bostio’r broblem fel erthygl. Byddaf hefyd yn cysylltu â Meic, y llinell gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â sefydliadau eraill os credaf y gallant helpu. Efallai bydd Meic yn defnyddio dy broblem yn yr adran #CodarMeic yma – ond ni fyddant yn defnyddio dy enw na dy leoliad. Os fydda’n well gen ti iddynt beidio yna rho wybod i mi.

Noder: Ni fyddaf yn rhannu dy fanylion gyda neb, oni bai ein bod yn ofni dy fod di neu rywun arall mewn perygl o niwed. Yn yr achos yma, mae’n rhaid i theSprout anfon dy fanylion ymlaen at rywun gall helpu.

Felly, os oes rhywbeth ar dy feddwl, rho wybod i mi.

Dyma erthyglau Modryb Sprout blaenorol, a dyma’n harchif enfawr ar yr hen fersiwn o theSprout.co.uk.

    Dy enw (ofynnol):

    Dy e-bost (ofynnol):

    Pwnc:

    Dy Neges:

    Cyber Essentials Logo

    Partneriaid Ariannu

    promo cymru
    Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd