Swyddi a Gyrfaoedd
Mae darganfod beth ydy dy sgiliau penodol yn gallu helpu i benderfynu beth i’w astudio yn yr ysgol, coleg neu Brifysgol, neu pa swyddi fydda orau i ti.
Mae gan y mwyafrif o bobl syniadau am beth hoffant wneud yn y dyfodol, ond wyt ti’n gwybod sut i fynd ati i gael dy swydd ddelfrydol, ydy hyn yn realistig ac a yw’n addas i ti go iawn?
Mae’n berffaith normal i fod yn ansicr am yr yrfa hoffet ti ei wneud yn y dyfodol. Yn aml nid yw’r swydd rwyt ti’n cychwyn arni yn ymwneud a’r yrfa rwyt ti’n mynd iddi wedyn. Gall gymryd amser i ddod o hyd i’th alwedigaeth ac efallai y byddi di’n newid gyrfa sawl gwaith yn dy fywyd.
Gwasanaethau Cenedlaethol
Gyrfa Cymru – helpu ti i gynllunio dy yrfa, paratoi at gael swydd, dod o hyd i ac ymgeisio am brentisiaethau, cyrsiau a’r hyfforddiant cywir.
Gyrfa Cymru: Cwis Buzz – Darganfod pa swydd gall fod yn berffaith i ti wedi’i selio ar dy bersonoliaeth.
Indeed – Chwilio am swyddi yn ôl lleoliad a math o swydd.
Platfform – Cymorth sgiliau a chyflogaeth gyda chyfleuster mentora cyfoed.
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Apiau Defnyddiol
HMRC – Gweld trethi, budd-daliadau a chynilion yn hawdd o’r app HMRC.
LinkedIn – Chwilio am swyddi, creu CV ar-lein, a chysylltu gyda chyflogwyr a rhai sydd yn recriwtio ledled y byd.
Blogiau a Chanllawiau
Getting A Job – The Mix
Leaving A Job – The Mix
Self-employed – The Mix
Workers Rights & Pay – The Mix
Working Life – The Mix
Your Career Path – The Mix