Cyfarfa’r Rhaglen Blues

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti’n chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl yng Nghaerdydd? Yna gall y Rhaglen Blues helpu! Cawsom sgwrs â Gemma am y gwasanaeth…

"Action for children’s Worcester team alongside the Royal Mails Blues busting Letter Box" for the Blues Programme article

Beth yw eich enw ac o ble ydych chi?

Ni yw’r Rhaglen Blues o Gweithredu Dros Blant, sef elusen plant cenedlaethol. Cychwynnodd y rhaglen Blues yn America ac mae wedi cael ei adnabod fel cefnogaeth y mae angen mawr amdano yn y DU. Mae Caerdydd wedi cael ei ddewis fel un o’r tair dinas gyntaf i gyflwyno’r rhaglen yn y DU.

Rydych chi wedi lansio gwasanaeth cefnogol grŵp mewn ysgolion a cholegau yng Nghaerdydd. Beth yn union ydy gwasanaeth cefnogol grŵp?

Mae staff y prosiect wedi derbyn hyfforddiant yn y Rhaglen Blues sydd wedi’i sefydlu ar dystiolaeth, yn cefnogi pobl ifanc gydag arwyddion cyntaf iselder a phryder. Mae’r sesiynau grŵp yn awr o hyd ac yn cael eu cynnal dros 6 wythnos. Byddant yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a cholegau i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed. Bydd cefnogaeth y grŵp yn rhoi’r sgiliau i gyfranogwyr i gefnogi gwell hwyliau, ymdopi gyda phryder a chynyddu hyder.

Pa ysgolion a cholegau ydych chi’n gweithio ynddynt?

Rydym yn gallu gweithio ymhob ysgol a choleg yng Nghaerdydd, felly os ydych chi’n cael mynediad i ddarpariaeth yng Nghaerdydd gallem eich cefnogi. Mae’r set gyntaf o grwpiau yn cael eu cynnal rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Illtyd, Ysgol Uwchradd Cathays a Hyfforddiant ACT.

Pan fydd rhywun yn dod atoch chi, beth yw’r broses? Ble ydych chi’n cyfarfod?

Gan ein bod yn gweithio gydag ysgolion a cholegau mae angen gwneud ymrwymiad gyda nhw i gychwyn i ddarparu cefnogaeth o fewn eu heiddo nhw. Unwaith y mae hyn wedi’i drefnu bydd y rhaglen yn agored i’r holl bobl ifanc rhwng 15 a 18. I adnabod y rhai fydd yn buddio o, neu bydda’n hoffi, cefnogaeth y Rhaglen Blues gofynnwn i’r myfyrwyr gwblhau holiadur ticio blychau, wedi’i sefydlu ar hwyliau a theimladau. Pan fydd yr holiaduron wedi’u llenwi gallem gynnig cefnogaeth i’r rhai sydd mewn hwyliau isel neu bryder.

Ydych chi’n cyfarfod cyn neu ar ôl yr ysgol/coleg?

Rydym yn hyblyg gyda’r amseru ac yn gweithio gyda’r ysgolion a’r unigolion sydd â diddordeb yn y rhaglen i drefnu amser sydd fwyaf addas iddyn nhw.

Ydy pobl yn gallu hunangyfeirio?

Os yw unigolyn yn dymuno cefnogaeth y Rhaglen Blues yna byddem yn cynghori iddynt gysylltu â’r swyddog lles neu’r gefnogaeth fugeiliol yn yr ysgol, fel bod staff yr ysgol yn gallu cysylltu â’r tîm Blues ar 02920 22803 i drefnu cefnogaeth.

Deallaf eich bod yn wasanaeth newydd ond fedrwch chi rannu straeon llwyddiant?

Mae’r rhaglen yma wedi cael croeso mawr yng Nghaerdydd ac mae nifer o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer y gefnogaeth i’w disgyblion. Bydd y gefnogaeth yn cychwyn gyda phobl ifanc yn fis Tachwedd ac mae gennym chwech o grwpiau wedi’u hadnabod ac yn barod i fynd. Mae’r rhaglen hefyd wedi cychwyn yn High Wycombe yn Llundain ac yn Worcester ac mae llawer wedi gofyn am y gwasanaeth.

Oes yna unrhyw ofynion i gael mynediad i’ch gwasanaeth?

Mae yna gyfyngiad oedran rhwng 15 a 18 oed ac rydym yn darparu’r gefnogaeth drwy osodiad addysg.

Beth yw enw’r gwasanaeth eto, a sut gall rhywun gysylltu gyda chi?

Ni yw’r Rhaglen Blues a gallech gysylltu â’r Rheolwr Blues, Lee Bridgeman, ar 02920 228033 neu ar lee.bridgeman@actionforchildren.org.uk


Cymera olwg ar adran iechyd meddwl yng Nghaerdydd ar dudalennau gwybodaeth y Sprout

Iechyd Meddwl

Erthyglau perthnasol ar iechyd meddwl:

http://thesprout.co.uk/blog/road-to-recovery/

http://thesprout.co.uk/blog/5-working-techniques-to-fight-seasonal-depression/

http://thesprout.co.uk/blog/aunty-sprout-how-do-i-help-my-self-harming-friend/

http://thesprout.co.uk/blog/meet-the-peer-mentoring-service/

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd