Diweithdra
Mae’r nifer sydd yn ddi-waith yn uchel, yn enwedig o ganlyn y pandemig coronafeirws. Ond, mae yna gyfleoedd o hyd i ddarganfod gwaith, ac i helpu magu sgiliau neu ail hyfforddi os wyt ti’n ddi-waith neu’n meddwl chwilio am swydd newydd.
Dyma ychydig o help sydd ar gael os wyt ti’n ddi-waith.
Gwasanaethau Cenedlaethol
GovUK – Budd-daliadau fydd yn help i ti os wyt ti’n ddi-waith.
Cyngor ar Bopeth: Budd-daliadau – Gwybodaeth a chyngor ar wneud cais a derbyn budd-daliadau.
Canolfan Byd Gwaith – Cysyllta â’r ganolfan waith am help gyda cheisiadau budd-daliadau a chwilio am waith.
Cynllun Kickstart – Darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith i rai 16-24 oed ar Gredyd Cynhwysol.
Gyrfa Cymru – Cyngor a chefnogaeth os wyt ti’n chwilio am waith.
Cymru’n Gweithio – Cyngor, arweiniad a mynediad am ddim i hyfforddiant fydd yn helpu ti i gael i mewn i waith neu i helpu gyda dy yrfa.
Prospects – Cyngor, gwybodaeth ac arweiniad gyrfaol.
Platfform – Sgiliau a chymorth gwaith gyda chyfleuster mentora cyfoed.
TheSprout – Chwilio am wybodaeth ar swyddi a gyrfaoedd ar dudalen gwybodaeth Gwaith a Hyfforddiant theSprout.
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Apiau defnyddiol
HMRC – Edrycha ar dy drethi, budd-daliadau a chynilon gyda’r app HMRC.
LinkedIn – Chwilio am swyddi, creu CV ar-lein, a chysylltu gyda chyflogwyr a rhai sy’n recriwtio ledled y byd.
Blogiau a Chanllawiau
Surviving Unemployment – The Mix
Youth Unemployment – Youth Employment