Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd: Diwedd Rhagfyr 2018

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae hi’n dymor y Nadolig yma yng Nghaerdydd, ac mae’n debyg bydd yna bobl llawer hŷn i’r criw myfyrwyr arferol allan yn mwynhau – cywilydd! Mam, dwi ddim eisiau clywed am helynt chi a menywod y swyddfa yn y Jury’s Inn diolch yn fawr!

Pa un ai wyt ti’n osgoi’r tyrfau llon neu’n chwilio am rywbeth i’w wneud heblaw am FWY o siopa Nadolig, paid poeni. Mae’r Sprout wedi bod yn creu’r rhestr hon dros y chwe mis diwethaf (mor hir â hynny’n barod!). Rydym yma i helpu gyda chasgliad o’r digwyddiadau rhad dros yr wythnosau nesaf….

Immersed yn y Tramshed

Dydd Iau, 13 Rhagfyr – hanner dydd ymlaen – Tramshed – £5

Er budd y Teenage Cancer Trust, mae’r Tramshed yn cynnal gŵyl o dechnoleg rith wirionedd, cerddoriaeth byw a thwrnameintiau gemau. Diwrnod o hwyl at achos da. Facebook / Eventbrite

Hwyl yn y Flute

Dydd Iau, 13 Rhagfyr – 7:30-10:30yh – The Flute and Tankard- £5

Mae Leroy Brito (rhywun ti’n siŵr o fod wedi gweld mewn rhyw sgets DDONIOL ar BBC SESH neu ar raglen newydd y BBC am ddiwydiant twristiaeth Cymru, Tourist Trap) yn serennu mewn noson o gomedi yn y Flute and Tankard. Mae tocynnau yn £5, mae’r rhagolygon tywydd yn dda, ac mae’r dafarn yn edrych yn glyd. Pam lai? Facebook /Ticketsource

Arcade Café gyda’r Arcade Vaults

Dydd Gwener, 14 Rhagfyr – 7:30yh – The Gate – £3.50

Os wyt ti’n hoff o gemau fideo retro yr Arcade Vaults ydy’r lle i fod, ond y tro hyn ceir gosodiad rhith wirionedd arbennig yno hefyd. Os wyt ti’n gwirioni ar gemau fideo, cer lawr i’r Arcade Café. Gwybodaeth bellach ar Facebook a thocynnau yn syth o’r Gate.

Nadolig yng Nghastell Caerdydd – Sinema Danddaearol

Dydd Sul, 16 Rhagfyr – Trwy’r dydd (pnawn Llun a Mawrth hefyd) – £5 y ffilm

Mae’r tocynnau yn gwerthu yn eithaf sydyn am y swae ffilm Nadolig cyfeillgar i deuluoedd yma yn nyfnderoedd y Castell. Paid troi hyn yn Hunllef – archeba nawr. Facebook am wybodaeth.

Gwledd Nadolig Boy Azooga

Dydd Mawrth, 18 Rhagfyr – 8yh tan hwyr – Caffi Blue Honey Night – Am ddim mae’n debyg?

Wel am flwyddyn i Boy Azooga – heb os nac oni bai un o’r bandiau Cymraeg sydd wedi ffrwydro fwyaf ar y sin yn 2018, hyd yn oed gyda chystadleuaeth gref fel Al Moses, Estrons, Junior Bill ac Alffa. Ymddangosodd digwyddiad cŵl ac ysbeidiol ar ein ffrwd Facebook, gyda Scott (un o aelodau’r band) yn addo”snog” o dan yr uchelwydd. Rargian, am sgandal! Marcia dy hun yn mynd fel bod Mark Zuckerberg yn deall yn iawn yr hyn ti’n hoff ohono.

Funny Fuel Rhagfyr

Dydd Iau, 20 Rhagfyr – 8:30-11:30yh – Clwb Roc FUEL – Am ddim!

Fuel Doniol ac Am Ddim gyda Frank Foucault, dyn hynod o ddoniol, mae’n rhaid i ti fynd i weld y sioe yma! Facebook.

Cracer Nadolig Mariah Carey Clwb

Dydd Gwener, 21 Rhagfyr – 11yh-4yb – Clwb Ifor Bach – £5

Yr unig beth mae hi angen dros y Nadolig yw “youuuuuuuuu. YOUUUUU. YOOoOUuUUUUU”. Y noson glwb Nadoligaidd orau i mi ddod ar ei draws. £5 mynediad. Facebook ac Eventbrite.

I orffen, hoffwn ddymuno Nadolig gwych (ystyriol ac ecogyfeillgar o bosib) gen i a desg digwyddiadau theSprout. Byddwch yn barod ac yn egniol am 2019!

Yn y flwyddyn newydd cadwa lygaid allan am:

Let it Happen yn cyflwyno – Ionawr 4 – wedi’i drefnu’nrhannol gan arbenigwr cerddoriaeth y Sprout, Sophie.

Nosweithiau animeiddio – Chapter Moviemaker – Ionawr 7 -Cyflwyna dy animeiddiadau nawr!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd