LHDTC+

Mae LHDTC yn golygu Lesbiad, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a Cwiar, sydd yn dermau defnyddir i ddisgrifio gogwydd rhywiol, emosiynol ac/neu ramantus rhywun ac/neu eu hunaniaeth rhyw.

Mae LHDTC+ yn cael ei weld yn aml gan fod y + yn cynrychioli’r nifer fawr o hunaniaethau eraill sydd yn bodoli (heb orfod ychwanegu llwyth o lythrennau i LHDTC!).

Beth bynnag yr wyt ti’n uniaethu ag ef, fe ddylai’r wybodaeth ar y dudalen yma dy helpu i gael cefnogaeth. Rydym yma i helpu:

This image has an empty alt attribute; its file name is FlagPride-09.jpg

Gwasanaethau Cenedlaethol

Glitter Cymru – Grŵp i bobl Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sydd yn LHDTC+. Maent yn cyfarfod bob dydd Sadwrn o 2-3yp ar Zoom. Ar gyfer pob oedran. Cysyllta â Glitter Cymru ar gyfryngau cymdeithasol am wybodaeth.

LGBT Sport Cymru – Wedi sefydlu yng Nghaerdydd, mae LHDT Chwaraeon Cymru yn herio canfyddiadau, chwalu rhwystrau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer unigolion LHDTC+ mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yng Nghymru.

The Terrence Higgins Trust – Ei nod yw uchafu iechyd rhywiol yn y DU a lleihau’r lledaeniad o HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).  Yn cynnig cefnogaeth i rai gyda HIV a STIs.

Pride Cymru – Mae Pride Cymru yn elusen sydd yn cynnal Pride Cymru, digwyddiad blynyddol enfawr yn dathlu pobl LHDTC+.

Switchboard Gwasanaeth gwrando cyfrinachol i bobl mewn cymunedau LHDTC+. Maent yn cynnig cefnogaeth ar y llinell gymorth o 10yb tan 10yh bob dydd. Gellir siarad â nhw am ddim ar e-bost neu sgwrs ar-lein.

Meic – Os wyt ti eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol am unrhyw beth, neu eisiau manylion gwasanaethau a sefydliadau sydd ar gael i ti, cysyllta â Meic rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galwa am ddim ar 080880 23456, tecstia ar 04001 neu sgwrsia ar-lein.

Blogiau a chanllawiau

LGBT+ History Month (TheSprout)

History of the Pride Flag (TheSprout)

10 Must Watches for LGBT+ History Month (TheSprout)

Important People in LGBT+ History (TheSprout)

Asexual Visibility and Education Network (AVEN) (Wiki)

Genderbread-Person-3.3

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd