Symud o Gwmpas
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar y ffyrdd gwahanol i symud ti a dy fagiau o gwmpas Cymru.
Os wyt ti’n chwilio am wybodaeth ar deithio rhyngwladol, edrycha ar y dudalen arall.
Dyma restr o ffyrdd i deithio o amgylch Cymru:
Gwasanaethau Cenedlaethol
Rheolau’r Ffordd Fawr – Darganfod gwybodaeth ar Reolau’r Ffordd Fawr i Feicwyr.
SusTrans – Elusen genedlaethol yn gyfrifol am gynnal y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Immobilise – Cofrestra dy feic ar y bas data yma sydd yn cael ei gynnal gan yr Heddlu.
Traveline Cymru – Canllaw cynhwysfawr o deithio yng Nghymru.
MegaBus – Yn cael ei gynnal gan Stagecoach, mae’r Megabus yn rhedeg gwasanaethau rhad o ganol dinas Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i Fryste, Llundain a mwy. Canran fach i ffwrdd os oes gen ti gerdyn UCM.
National Express – Os wyt ti’n debygol o ddefnyddio bysiau National Express yn aml, gallet ti gael ⅓ i ffwrdd gyda cherdyn Coachcard Person Ifanc.
Trafnidiaeth Cymru – Cwmni dielw sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn gweithio ar Wasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru.
Trenau Arriva Cymru – Yn rhedeg Llinellau’r Cymoedd a GWR, sydd yn cynnal trenau o Lundain i Abertawe.
Cerdyn Rheilffordd – Os wyt ti rhwng 16 a 25 gellir cael ⅓ oddi ar holl brisiau’r DU gyda cherdyn rheilffordd 16-25.
Trainsplit – Wrth gynllunio taith bellach gellir defnyddiol gwefan “hollti tocynnau’ sydd yn hollti’r tocynnau yn sawl tocyn rhatach, oherwydd cymhlethdod y system rheilffordd Brydeinig. Cyfuna hyn gyda Cherdyn Rheilffordd i arbed mwy o arian.
DVLA – Mae’r DVLA yn caniatáu i ti wneud cais am drwydded yrru yn 15 oed a 9 mis.
GovUK – Gwybodaeth ar ddysgu gyrru a bwcio prawf gyrru.
Pass Plus Cymru – Cynllun sydd yn rhoi mwy o brofiad i yrwyr ifanc ar ôl iddynt basio’r prif brawf gyrru. Mae’r cynllun yn dangos dulliau gyrru mwy diogel ac yn rhoi profiad mewn sefyllfaoedd mwy heriol, fel ar y draffordd.
Next Bike – Mae’r cynllun llogi beiciau wedi’u docio NextBike ar gael ledled y DU.
Repair Cafe Wales – Cyfarfodydd rheolaidd o wirfoddolwyr sydd yn ceisio trwsio bron popeth, yn gofyn am ddim mwy na phaned fel taliad.
Fy Ngherdyn Teithio – Os wyt ti rhwng 16 a 21 oed, mae posib arbed tua 30% ar deithiau bws gyda’r tocyn yma.
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Apiau Defnyddiol
Traveline Cymru – App cynhwysfawr gyda chanllawiau teithio yng Nghymru.
Google Maps – Datrysiad da i ddal popeth, er mae’n debyg bod hwn (neu rywbeth tebyg) gen ti’n barod ar dy ffôn.
Trainline – App syml sydd wedi’i ddylunio’n dda, sydd yn gadael i ti edrych ar bob math o wybodaeth trên. Gall bwcio siwrne ar yr app, gweld faint o drenau sydd yn cyrraedd gorsafoedd penodol, gweld lleoliad trên penodol ar y llinell, a mwy.
Ymholiadau National Rail – Bwcio tocynnau o unrhyw le yn y DU, yn debyg i Trainline.
Uber – Y gwasanaeth rhannu taith fwyaf adnabyddus.
Blogiau a Chanllawiau
Run Commuting: Tips on Running to Work – Run and Become
Drink Driving – The Mix
Learning to Drive – The Mix
Travelling by Bike – The Mix
Buying a second-hand car – The Mix
Public Transport with a Disability – The Mix
Advice for Disabled Travellers – Cyngor ar Bopeth
Advice for learning to Drive – The Student Room
Travel Costs for people with Disabilities and Carers – Turn2Us