Tai a Llety

Nid oes llawer yn fwy pwysig na chael to uwch dy ben! Ond, mae yna lawer iawn o opsiynau tai gwahanol ac, yn anffodus, mae rhai pobl yn gallu cael problemau.

Ond, os wyt ti mewn sefyllfa anodd, mae yna lawer iawn o gymorth ar gael hefyd. Os wyt ti’n 11-25 oed yng Nghymru bydd y wybodaeth isod o gymorth i ti.

This image has an empty alt attribute; its file name is House-2-1024x1024.png

Gwasanaethau Cenedlaethol

Shelter Cymru – Yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth sydd yn helpu pobl i adnabod yr opsiynau gorau i ddod o hyd a chadw cartref, ac yn helpu i gael rheolaeth ar dy fywyd.

Cyngor ar Bopeth – Yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar sawl peth, gan gynnwys tai.

The Mix – Gwybodaeth a chefnogaeth tai i rai dan 25 gan gynnwys rhentu, prynu, tai myfyrwyr, ac argyfwng tai.

Llamau – Elusen ddigartrefedd blaenllaw yng Nghymru, yn cefnogi’r bobl ifanc a merched mwyaf bregus.

The Wallich – Mae’r Wallich yn gweithredu i dri amcan craidd: cael pobl oddi ar y stryd; cadw pobl oddi ar y stryd; a chreu cyfleoedd i bobl.

Cymorth i Brynu Cymru – Yn darparu benthyciad ecwiti a rennir i rai sydd yn prynu cartrefi a adeiladwyd o’r newydd.

Hafod – Un o’r darparwyr tai gofal a chefnogaeth fwyaf yn De Cymru.

This image has an empty alt attribute; its file name is House-1-1024x1024.png

Apiau Defnyddiol

Housing Help – Ar gael ar Android ac Apple. Mae posib cael mynediad i gyngor tai arbenigol trwy’r app symudol Shelter Cymru. Mae’r app yn cynnwys amrywiaeth o gyngor tai a phroblemau yn ymwneud â thai, gan gynnwys digartrefedd, dadfeddiant, atgyweirio a chyflwr gwael, cyngor arian a sesiynau cyngor cyfagos.

This image has an empty alt attribute; its file name is House-3-1024x1024.png

Blogiau a Chanllawiau

#YouthHomelessness: Poem: Spare Some Change – TheSprout

#YouthHomelessness: Why has the rug been pulled from under my feet? – TheSprout

#YouthHomelessness: A Near Miss But a Very Close Shot – TheSprout

Cleaning 101: How To Do Laundry Right – TheSprout

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd