Profedigaeth, Galar a Marwolaeth
Gall colli rhywun sydd yn agos i ti fod yn sioc anferth ac yn rhywbeth poenus iawn i ymdopi ag ef.
Mae profedigaeth yn golygu colli rhywun trwy farwolaeth ac mae’n gallu bod yn unrhyw un sydd yn bwysig i ti – rhiant, mam-gu neu dad-cu, brawd neu chwaer, ffrind, partner neu gariad.
Ar ôl i rywun farw mae pobl yn gallu teimlo’n drist iawn, gelwir y teimladau hyn yn alar. Weithiau ni fydd rhywun yn teimlo unrhyw deimladau o gwbl, yn ddideimlad, ac mae hyn yn ymateb cwbl naturiol hefyd. Nid oes ffordd gywir neu anghywir i ymateb.
Nid oes ffon hud gellir ei chwifio i gael gwared ar y teimladau yma nac i droi pethau’n normal unwaith eto yn anffodus. Ond mae sawl peth gallet ti ei wneud i helpu gyda’r boen neu i helpu dod i dderbyn y colled. Dyma rai:
Gwasanaethau Cenedlaethol
Gofal Profedigaeth Cruse – Yna i helpu gydag unrhyw brofedigaeth, presennol neu hanesyddol.
Gobaith Eto – Llawer o wybodaeth, straeon personol, byrddau negeseuo a chyngor i gefnogi ti.
GIG 111 – Gwybodaeth a chyngor profedigaeth gan y GIG.
The Mix – Llawer o wybodaeth i bobl ifanc, gan gynnwys gwybodaeth ar alar a phrofedigaeth.
Support After Suicide – Cefnogaeth i bobl mewn profedigaeth neu wedi eu heffeithio gan hunanladdiad.
Drug Fam – Gwybodaeth a chefnogaeth am brofedigaeth trwy gyffuriau neu alcohol.
riprap – Cefnogaeth i bobl ifanc gyda rhieni sydd wedi cael diagnosis o ganser.
Blue Cross – Gwefan a llinell gymorth i gefnogi gydag ymdopi â cholli anifail anwes.
Help2MakeSense – Cefnogaeth a podledliadau i blant i helpu ymdopi gyda cholli rhywun agos.
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Apiau defnyddiol
Apart Of Me – App sydd fel gêm gyda thechnegau cwnsela i helpu plant i ddod i dermau â’u teimladau gyda myfyrdod, dysgu am wahanol safbwyntiau ar yr hyn sydd yn digwydd pan fyddem yn marw, ac archwilio emosiynau.
Grief: Support for Young People – Gwybodaeth am brofedigaeth, ymdopi gyda theimladau, a darganfod cefnogaeth. Mae yna adran llyfr nodiadau hefyd i nodi teimladau.
Blogiau a Chanllawiau
Ways To Deal With Losing Someone You Love – Head Above The Waves
My Dad Died When I Was At Uni – The Mix
A Guide To Coping With Grief – The Mix
Mae Siarad Yn Helpu – Gobaith Eto
Griefcast (Podlediad gan Cariad Lloyd) – Spotify