Gofalwyr Ifanc
Os na all rhiant neu aelod agos o’r teulu ofalu am eu hunain, weithiau mae aelodau iau’r teulu yn gorfod gofalu amdanynt.
Mae’r bobl ifanc yma yn cael eu galw’n ofalwyr ifanc. Mae bywydau gofalwyr ifanc (18 oed ac iau) yn cael ei effeithio mewn rhyw ffordd wrth ofalu am berson arall neu helpu rhywun i ddarparu gofal.
Oedran cyfartalog gofalwr ifanc yn y DU yw 12, ac yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 178,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr.
Nid oes rhaid i ti ymdopi ar ben dy hun, mae yna help ar gael i ti ac mae’n bwysig dy fod di’n gofalu am dy hun hefyd.
Gwasanaethau Cenedlaethol
The Mix – Cefnogaeth a gwybodaeth i ofalwyr ifanc.
NHS Choices – Cymorth i ofalwyr ifanc.
Dy Hawliau fel Gofalwr Ifanc – Mae NHS Choices yn rhannu gwybodaeth a chymorth am dy hawliau fel gofalwr ifanc.
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru – Yn bodoli i ddarparu camau gweithredu, cymorth a chyngor i ofalwyr ledled Cymru.
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Apiau Defnyddiol
Starter Chef – Mae’r app Starter Chef gan y YMCA yn rhoi ryseitiau fforddiadwy sydd yn blasu’n wych. Mae rhestr o’r hyn sydd ei angen a sut i greu’r bwyd, yn ogystal â chadw trac ar yr eitemau sydd ei angen ar y rhestr siopa.
Blogiau a Chanllawiau
How I Found Support As A Young Carer – The Mix
Young carers: The truth behind the myths – The Mix
Nine things I wish I knew when I became a young carer – The Mix