Byw Mewn Gofal
Weithiau, bydd pethau’n digwydd mewn teulu sy’n golygu na all plant neu bobl ifanc fyw gyda’u rhieni. Gall hyn ddigwydd am sawl rheswm gan gynnwys salwch, problemau teuluol, neu fod amgylchiadau yn atal rhiant neu deulu rhag gofalu amdanat yn iawn.
Wyt ti’n chwilio am wybodaeth ar fod mewn gofal, maethu, neu lety lle ceir cefnogaeth yng Nghymru? Yna gallem roi ti ar y llwybr cywir:
Gwasanaethau Cenedlaethol
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Lleisiau o Ofal Cymru – Sefydliad annibynnol cenedlaethol Cymru sydd yn gweithio i sicrhau hawliau a llesiant plant a phobl ifanc sydd yn, neu wedi, derbyn gofal. Gellir galw 029 2045 1431 neu ymweld â’u gwefan.
Comisiynydd Plant Cymru – Pencampwyr plant a phobl ifanc gyda’r bwriad o gael parch i hawliau plant a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.
Llamau – Elusen ddigartrefedd ieuenctid sydd yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc. Gweler y gefnogaeth ar gael yma.
Blogiau a Chanllawiau
Gov.UK’s info on leaving foster or local authority care
The Mix: Finding Out You’re Adopted