Bwlïo
Mae bwlio yn gallu digwydd mewn sawl gwahanol ffordd, o fwlio meddyliol i gorfforol i seiber. Mae bwlio fel arfer yn ymddygiad sydd yn cael ei ailadrodd sydd yn gallu gwneud i rywun deimlo’n ofnus, yn ddi-werth, yn unig, yn euog neu’n drist. Gall ddigwydd yn unrhyw le: yn yr ysgol, adref, yn y gwaith, ar y ffôn neu ar y cyfrifiadur ayb.
Mae yna lawer o gymorth a chyngor ar gael os wyt ti’n cael dy fwlio, ond y cyngor gorau ydy dweud wrth rywun. Os wyt ti’n dweud wrth rywun bod hyn yn digwydd i ti yna gallant helpu ti i wneud rhywbeth am y peth. Paid bod ofn neu deimlo cywilydd – nid yw’n iawn, a ni ddylet ti ddioddef. Dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt (fel rhiant, athro, gweithiwr cymdeithasol). Ond os wyt ti’n teimlo fel na fedri di siarad â neb, yna cysyllta â’r llinell gymorth Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Gallant helpu ti i ddarganfod y cymorth rwyt ti ei angen. Sgwrsia ar-lein, neges testun (84001) neu ffonio am ddim ar 080880 23456.
Gwasanaethau Cenedlaethol
Kidscape – llinell gymorth gwrthfwlio i rieni.
Relate – Cefnogaeth perthnasau i bobl o bob oedran.
BulliesOut – Mae Bullies Out yn gweithio ar draws y DU yn grymuso ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc gyda bwlio. Mae hyn yn cael ei wneud wrth ddarparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth.
Bullying UK – Rhan o Family Lives. Yn darparu help ar bob math o fwlio – yn yr ysgol, seiberfwlio, hiliaeth, homoffobia, bwlio mewn chwaraeon ayb.
NSPCC – Mae’r NSPCC yn gweithio i amddiffyn plant ac atal camdriniaeth. Clicia’r ddolen i ddarganfod cyngor ar fwlio a seiberfwlio a sut gall dy rieni/gwarcheidwaid helpu.
GIG – Mae Moodzone gan y GIG yn edrych ar fwlio yn y gwaith a’r hyn gellir ei wneud.
Anti-bullying Alliance – Sefydliadau ac unigolion yn gweithio â’i gilydd i stopio bwlio a chreu awyrgylch ddiogel, lle gall plant a phobl ifanc fyw, tyfu, chwarae a dysgu.
Young Minds – Elusen yn brwydro am iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae’r dudalen bwlio yn edrych ar beth yw bwlio a sut i gael help.
The Mix – Lle i rai 13-25 oed drafod y problemau sydd yn codi cywilydd, cwestiynau od a meddyliau nad ydynt eisiau dweud yn uchel! Cer draw i’w tudalen Beat Bullying.
ACAS – Yn rhoi gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant, cymodi a gwasanaethau eraill i gyflogwyr a gweithwyr i helpu atal neu ddatrys problemau yn y gweithle. Cer draw i’r tudalen Bullying and Harassment.
Childnet – Helpu i wneud y Rhyngrwyd yn le da a diogel i blant. Cyngor ar Seiberfwlio.
Schools Out UK – Darparu rhwydwaith cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o homoffobia mewn ysgolion.
STANCE – Pecyn adnodd i ysgolion yn llawn deunyddiau i daclo bwlio homoffobia gan ddefnyddio dull ysgol gyfan.
Stonewall – Yno i holl bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a trans. Yn cefnogi unigolion i feddwl sut i wneud gwahaniaeth i bobl LHDT yn y gwaith, adref ac yn y gymuned, sut i herio ymddygiad homoffobig a grymuso pobl.
Meic – llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.
Apiau Defnyddiol
ReThink – Stop Cyberbullying – app sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n adnabod ac yn stopio casnieb ar-lein cyn i unrhyw niwed ddigwydd. Yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddinasysddion digidol cyfrifol – un neges ar y tro. Lawrlwytha ar Google Play neu ar yr App Store.
Blogiau a Chanllawiau
6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio – Meic
10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio – Meic
Bwlio neu Dynnu Coes? – Meic
Aunty Sprout: My Friend Is Bullying Me – theSprout
Bullying and ‘My’ Mental Health – Bullies Out
Overcoming the Effects of Bullying – Young Minds
Rosie’s Story: Bullying and Autism – Young Minds