Beth Yw’r Rheolau Covid-19 Diweddaraf Yng Nghymru?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wedi drysu am yr hyn sydd yn digwydd efo rheolau Covid-19 yng Nghymru? Dyma ganllaw hawdd i’w ddeall am yr hyn gellir ei wneud.

Mae llawer o newidiadau wedi bod gyda rheolau Covid-19 yn yr ychydig wythnosau a dyddiau diwethaf a gall hyn ddrysu rhywun. Mae’r Llywodraeth wedi gorfod gwneud penderfyniadau difrifol a sydyn yn ddiweddar. Rydym am geisio egluro beth yw’r newidiadau yma a’r rheswm amdanynt isod. Maent hefyd wedi cyhoeddi system Lefelau Rhybudd newydd.

Pam bod y rheolau wedi newid eto?

Ers y cyfnod clo a’r cyfnod atal diwethaf, mae’r niferoedd o bobl yn profi’n bositif am y firws yn cynyddu’n sydyn, ac mae yna straen (fersiwn) newydd o’r firws sydd yn pasio o un person i’r llall yn haws medda nhw. Golygai hyn bod yr ysbytai yn llenwi ac os yw pethau’n parhau ni fydd y Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi gyda gormod o gleifion a dim digon o wlâu. Mae Llywodraeth Cymru a’r arbenigwyr meddygol yn dweud bod y sefyllfa yn ddifrifol iawn a bod rhaid gwneud rhywbeth.

Beth yw’r rheolau newydd?

Am hanner nos ar nos Sadwrn, 19 Rhagfyr, newidiodd lefel rhybudd Cymru o Lefel Rhybudd 3 i Lefel Rhybudd 4. Os wyt ti am ddeall y gwahaniaeth rhwng y lefelau edrycha ar y siart isod.

Mae symud i Lefel Rhybudd 4 yn golygu ein bod mewn cyfnod clo llawn unwaith eto fel yr oeddem yn fis Mawrth. Mae holl siopau a busnesau (y rhai sydd ddim yn gwerthu pethau hanfodol fel bwyd a meddygaeth) wedi gorfod cau nes bydd y Lefel Rhybudd wedi newid eto. Rydym yn gorfod aros adref unwaith eto a pheidio teithio. Bydd y cyfnod clo yn parhau am 3 wythnos i gychwyn. Cyn diwedd y cyfnod yma bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r camau nesaf. Ni fydd y Lefel Rhybudd yn newid nes bydd yr achosion Coronafeirws yn gostwng digon.

ALLWEDD —– Rheol 4 neu 6: cyfarfod 3 neu 5 person arall (cadw pellter cymdeithasol) —– Aelwyd estynedig: dau gartref yn ymuno i greu un aelwyd sengl —– Swigen gefnogaeth – rhywun sydd yn byw ei hun (neu gyda phlant) yn cyfarfod â phobl o aelwyd arall.

Oes rhaid i mi ddysgu o adref eto?

Nis oes cynlluniau i gau ysgolion ar hyn o bryd. Maent yn gwneud popeth bosib i sicrhau nad yw’r cyfnod clo yn cael effaith ar dy addysg. Efallai bydd rhai ardaloedd yn gorfod cychwyn yn ôl yn gyfnodol. Felly ni fydd pawb yn cychwyn ar y 4ydd neu’r 5ed, ond bydd dy awdurdod lleol yn penderfynu hyn. Bydd yr ysgol yn dy hysbysu o’r hyn sydd yn digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan y bydd profion canlyniadau cyflym yn cael eu defnyddio mewn ysgolion. Golygai hyn efallai na fydd rhaid i ddosbarthiadau a blynyddoedd orfod hunan ynysu am 10 diwrnod os yw rhywun yn profi’n bositif. Golygai hyn llai o debygrwydd bydd rhai dychwelyd i sefyllfa o orfod dysgu o gartref.

Efallai bydd newidiadau pellach yn cael eu cyflwyno. Cadwa olwg ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a’r newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwadiad: Mae’r canllaw yma yn cynnwys y wybodaeth oedd ar gael i ni pan gyhoeddwyd yr erthygl. Mae posib y bydd pethau’n newid yn sydyn wrth i’r sefyllfa newid yn sydyn.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd