A Ddylai Gwahardd Siopau Anifeiliaid Anwes Rhag Gwerthu Cŵn a Chathod Bach?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae gan y mwyafrif ohonom le yn ein calon i’n ffrindiau bach blewog, pedair coes, ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus clywed dy farn am wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach hyd at chwe mis oed yn fasnachol trwy drydydd parti

Mae Plant yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi creu arolwg yn gofyn dy farn ar hyn ac ychydig o fanylion amdanat ti. Mae dy lais di yn bwysig, ac maent yn awyddus clywed dy farn ar y mater hwn. Rydym wrth ein boddau yma yn theSprout cael pori drwy luniau ciwt o gathod a chŵn bach i ddod o hyd i luniau i’r darn yma. Mae heddiw’n ddiwrnod da! ☺️

Cathod bach ciwt ar gyfer stori anifeiliaid anwes

Beth mae masnachol a trydydd parti yn ei feddwl?

Mae masnachol yn golygu busnes sydd yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, arian. Mae trydydd parti, yn yr achos yma, yn golygu siopau anifeiliaid anwes neu fasnachwyr sydd ddim yn berchen ar y fam, ddim wedi magu’r anifail ers y cawsant eu geni, a gyda thrwydded arbennig i werthu anifeiliaid anwes. Mae bridwyr yn magu’r cŵn a’r cathod bach ac yn eu rhoi i’r masnachwr i werthu.

Pam bod hyn yn broblem?

Mae yna ychydig o dystiolaeth yn dangos nad yw’r gwerthwyr trydydd parti masnachol yma yn gofalu am yr anifeiliaid anwes yma yn dda iawn bob tro. Os yw ‘r anifeiliaid yn symud o un lle i’r llall gall hyn eu gwneud yn sâl, maent yn anghyfarwydd â chymysgu gydag anifeiliaid neu bobl yn rhoi sylw iddynt. Efallai byddant yn cael trafferth yn setlo mewn cartref newydd oherwydd hyn. Mae posib bod pobl yn fwy tebygol o brynu ar hap heb wneud ymchwil digonol nac ystyried y peth yn iawn.

Cynhaliwyd arolwg llynedd yn gofyn a oedd pobl o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn y diwydiant bridio. Roedd y mwyafrif atebodd yn gytûn y dylai gwahardd gwerthiant masnachol cŵn a chathod bach gan drydydd parti.

Ci bach ciwt stori anifeiliaid

Beth fydd gwaharddiad yn ei gyflawni?

  • Mae’n sicrhau bod rhai sydd yn prynu yn gweld y ci neu gath fach gyda’u mam
  • Bydd pobl yn gwneud y penderfyniad cywir ar ôl ymchwilio a gweld yr anifail gyda’i fam
  • Bydd bridwyr cŵn yn cael eu dal yn gyfrifol am eu hymddygiad a bydd rhaid gwneud gwelliannau lles; bydd hyn yn lleihau’r nifer o gŵn neu gathod bach sydd ddim yn cael eu magu i’r safonau lles
  • Os yw pobl yn gweld yr anifeiliaid gan y bridiwr neu ganolfan ail-gartrefu, bydd yn haws gweld unrhyw broblemau lle ac yn golygu na fydd rhaid symud y cŵn neu gathod bach o gwmpas cymaint.
  • Bydd yn helpu’r cŵn bach i ddod yn anifeiliaid anwes da, wrth iddynt gael cyfle i ddod i arfer gyda phobl ac anifeiliaid eraill o oedran ifanc.

Pam bod nhw’n awyddus i glywed dy farn di?

Mae dy farn di’n bwysig, gan gynnwys unrhyw brofiadau ac enghreifftiau sydd gen ti. Bydd hyn yn eu helpu i adnabod unrhyw fylchau yn y gyfraith er mwyn gallu lunio’r camau nesaf.

Mae’r arolwg yn agored tan 17 Awst 2020. Clicia yma i ateb.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus clywed dy farn am wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach hyd at chwe mis oed yn fasnachol trwy drydydd parti.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd