Ar y 4ydd o Chwefror 2019, daeth dinasyddion amrywiol o gymunedau dros Gymru at ei gilydd ar gyfer pŵer, cyfiawnder cymdeithasol a lles cyffredinol.
Roedd hwn yn gyfle i greu perthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Citizens Cymru Wales ac roedd y Prif Weinidog a rhai o’i gabinet yn bresennol yn y cynulliad.
Roedd Citizens Cymru Wales yn awyddus i weithio gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a’i lywodraeth i sicrhau bod pob punt o arian Llywodraeth Cymru yn mynd i sefydliadau a phrosiectau cyflog byw (£8.75), i gael chwyldro gofal cymdeithasol, ac i wahardd ffioedd asiantaethau gosod erbyn cychwyn y flwyddyn academaidd 2019/2020.
Yn ystod y cynulliad cawsom glywed tystiolaeth bwerus gan weithwyr gofal o’r amodau creulon a’r tâl isel mae’r gweithlu yn ei brofi, y person ifanc sydd yn gweithio ar isafswm cyflog o £5.90 yn y Principality ac yn brwydro i fforddio costau byw, a’r myfyriwr sydd wedi dioddef ffioedd gwarthus asiantaeth gosod. Roedd y dystiolaeth yma yn bwerus ac yn emosiynol ond yn real iawn ac angen ei daclo. Yn dilyn y dystiolaeth yma, gofynnwyd i Mark Drakeford weithio gyda Citizens Cymru Wales i daclo’r problemau yma.
Roedd yn onest iawn wrth drafod ei lywodraeth yn caniatáu cyflog byw yng Nghymru. Dywedodd ei fod yn barod iawn i weithio gyda Citizens Cymru Wales, ac roedd yn disgwyl ‘cynllun’ o bob sefydliad sydd yn derbyn arian cyhoeddus i ddod yn gyflogwr cyflog byw. Eglurodd ei fod yn barod i fod yn amyneddgar ac roedd yn onest iawn gyda’i ymateb. Roedd yn awyddus iawn i weithio gyda Citizens Cymru Wales ynglŷn â’r mater gofal cymdeithasol, ac ymatebodd yn onest iawn unwaith eto. I wella gofal cymdeithasol bydd rhaid talu trethi uwch. Er mwyn i gymdeithas fodern weithio, bydd rhaid i’r dinasyddion dyrchu’n ddwfn i’w poced.
Roedd ymateb i’r cwestiwn am y gwaharddiad ffioedd asiantaethau gosod yn un hawdd i’r Prif Weinidog gan fod y Mesur Tai Rhent, fydda’n gwahardd ffioedd gosod, wedi’i drafod a’i basio gan y Senedd a bydd ffioedd asiantaethau gosod yn cael eu gwahardd ar gychwyn y flwyddyn academaidd 2019/2020.
Ymunodd cynrychiolwyr o grwpiau ffydd, busnesau a sefydliadau o Gymru a thu hwnt i ddangos democratiaeth ar lefel sylfaenol. Roedd hyn yn rymus ac yn berthnasol ym myd heddiw gan fod gwleidyddiaeth yn fwy na’r hyn y gwelir ar y teledu, a gall yr elit drafod a datrys rhai problemau cymhleth. Mae gwleidyddiaeth yn rhywbeth gellir ei wneud mewn cymunedau a gall unrhyw un gymryd rhan yn datrys problemau yn eu hardaloedd lleol, pethau sydd yn bwysig iddynt.
Roedd hwn yn gynulliad go iawn oedd yn dangos yr hyn gall democratiaeth ar lefel sylfaenol ei gyflawni. Roedd yn wych gweld y grwpiau yn gweithio â’i gilydd ac yn dod yno i wneud gwahaniaeth yng Nghymru. I daclo anghyfiawnder, ac i sicrhau bod democratiaeth yn llwyddiannus, mae angen i bobl gael llais a llwyfan i rannu’u barn ac i sicrhau bod pobl yn clywed.
Os wyt ti’n teimlo angerdd am newid, neu yn flin am rywbeth, yna paid disgwyl i rywun arall wneud hyn ar dy ran. Nid oes rhaid iddo fod yn fater byd-eang sydd yn berthnasol iawn; gall fod yn rhywbeth bychan yn y gymuned. Cysyllta gyda dy gymuned leol i weld beth yw’r problemau fel dy fod di’n gallu gwella dy fywyd di, a bywyd eraill o’th gwmpas, a chyflawni cyfiawnder.
Os wyt ti’n chwilfrydig am drefnu cymunedol ac eisiau bod yn rhan o ddatrys unrhyw faterion sy’n codi, mae yna wybodaeth ar wefan CitizensUK
(Fy marn bersonol i yw’r erthygl hon)