Trosedd, Llysoedd a’r Heddlu
Mae sŵn seiren yn gallu achosi rhywun i grynu, ond nid oes rhaid bod ofn. Mae yna ddigonedd o wybodaeth a chyngor ar atal trosedd, yr heddlu a’r gyfraith ar gael. Gwybodaeth bellach isod.
Rhifau ffôn defnyddiol
Mewn argyfwng ffonia 999.
Os wyt ti’n fyddar, gyda nam ar y clyw neu â nam lleferydd, mae posib cofrestru i gysylltu â’r gwasanaethau brys trwy tecst i 999. Bydd angen cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth a dylid gwneud hynny cyn gynted â phosib ac nid pan rwyt ti angen mewn argyfwng. Darganfod sut ar wefan Relay. Os nad wyt ti wedi cofrestru gellir lawr lwytho app Relay UK a ffonio 999 trwy hwnnw, neu os wyt ti’n defnyddio
Ffôn Testun, deialu 18000.
Am alwadau i’r heddlu sydd ddim yn argyfwng, ffonia 101.
Gwasanaethau Cenedlaethol
Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.
Crimestoppers – Elusen annibynnol sydd yn rhoi’r grym i ti siarad i atal trosedd, yn hollol gyfrinachol. Ymwela ar-lein neu galwa 0800 555 111.
Llinell Boeth Wrth Derfysgaeth – Adrodd unrhyw fygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol – fel terfysgaeth ac ysbïo – i’r MI5 (y gwasanaeth Diogelwch). Gellir ffonio 0800 789 321 hefyd.
Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig – Yn cadw rheolaeth ar reilffyrdd Prydain, yn darparu gwasanaeth i weithredwyr y rheilffordd, y staff a’r teithwyr ar draws y wlad. Gellir adrodd unrhyw beth amheus ar drafnidiaeth neu ofyn am help ar-lein neu wrth alw 0800 40 50 40.
Victim Supportline – Angen help yn dilyn trosedd? Mae Victim Supportline yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol, am ddim. Galwa’r llinell 24/7 ar 08 08 16 89 111 neu gael sgwrs ar-lein trwy’r wefan.
Action Fraud – Canolfan adrodd cenedlaethol y DU ar gyfer twyll a throsedd seiber o unrhyw fath. Dylid adrodd twyll os wyt ti wedi cael dy sgamio neu wedi profi trosedd seiber. Galwa 0300 123 2040 neu ymwela â’r wefan.
Adrodd Trosedd – Adrodd trosedd neu ddigwyddiad i’r Heddlu ar-lein.
Gwarchod y Gymdogaeth – Helpu i amddiffyn dy gartref a’r ardal leol gyda chyngor ar y wefan, neu wrth ddod yn rhan o Warchod y Gymdogaeth.
Apiau Defnyddiol
What 3 Words – App neu wefan i rannu lleoliad manwl iawn. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn mewn sefyllfa argyfwng ble rwyt ti’n ansicr o dy leoliad. Bydd dy GPS yn rhoi 3 gair ar hap i ti a gellir rhannu’r rhain fel bod rhywun yn gallu dod atat ti.
Y-Stop – Prosiect stopio a chwilio i bobl ifanc, gan bobl ifanc. Edrycha ar yr app Y-Stop sydd yn caniatáu i ti fonitro sut mae stopio a chwilio yn cael ei gynnal, i ti neu rywun arall. Mae’n helpu ti i ffilmio a chasglu tystiolaeth a’i rannu gyda Y-Stop, heb orfod dibynnu ar gofnodion yr heddlu. Mae’n ei wneud yn haws i ti adrodd neu gwyno am beth ddigwyddodd a chael mynediad i gefnogaeth a chyngor. Mae Y-Stop yn brosiect sydd yn cael ei gynnal gan Release mewn partneriaeth â StopWatch.
Blogiau a Chanllawiau
The Mix – Trosedd a Diogelwch – Gwybodaeth a chefnogaeth gyfreithiol i bobl ifanc sydd yn glir ac yn hawdd i’w ddeall heb fod yn feirniadol. Adnodd gwych.
Cyngor ar Bopeth – System Gyfreithiol – Sut i fynd ag achos i’r llys a chael cyngor cyfreithiol, grym heddlu, a llawer mwy.
Operation Snap – Os oes gen ti gamera dash, GoPro ayb ar gar, beic neu gerbyd arall, gellir adrodd esiamplau o ddefnyddwyr peryglus ar y ffordd gyda’r wefan yma. Gellir llwytho fideos i’r wefan.
Cyngor ar Bopeth – Hawliau pobl ifanc – Heddlu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymorth cyfreithiol, tystion a llawer mwy.