Pethau Rhad ac Am Ddim i’w Gwneud yng Nghaerdydd: 21-27 Mawrth

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r corrach bach digwyddiadau Rhad ac Am Ddim arferol i ffwrdd yr wythnos hon – ond paid poeni, gan ei fod wedi bod yn prysur baratoi hwn yn barod!

Ydw i’n iawn yn teimlo bod mis Mawrth yn hirach nag mis Chwefror? Dal ar! Na, nid fi yw e’, mae yn hirach nag mis Chwefror. Doniol fel mae hynny’n digwydd.

DYDD IAU, 21 MAWRTH

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa Etifeddiaeth y Cymoedd yn y Senedd, ble mae myfyrwyr Coleg Crosskeys yn gofyn: “Beth sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Gymraeg?” Clicia yma am wybodaeth bellach.

Mae yna noson Gofod Agored yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Mae’r digwyddiad yma yn drawsgroesiad o noson meic agored rheolaidd bobl greadigol du a lleiafrifoedd ethnig ‘O Ble Dwi’n Dod’. Gwybodaeth bellach ar ddigwyddiadau Sprout yma.

Gellir mynd draw i Glwb Roc Fuel ar Stryd Womanby yn ystod am 8:30yh nos Wener ar gyfer noson gomedi Funny Fuel. Sam Lloyd sydd wrth y llyw’r wythnos yma, un profiadol iawn ar y cylch comedi lleol.Digwyddiad Facebook.

Mae yna noson gomedi arall, un sydd yn swnio’n grêt i mi, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd ‘Blah Blah Blah: Stand Up And Slam’ yn rhoi’r byd comedi a barddoniaeth at ei gilydd. Brwydr y hipsters. Dim am ddim, mynediad £12. Sut arall gall y barddonwyr slam fforddio’u hafocado ar dost?

Mae yna ddigwyddiad comedi yn y Castell y diwrnod hwnnw hefyd, £12 hefyd.

GWENER, 22 MAWRTH

Sori ond nid Undeb Myfyrwyr Caerdydd ydy hwn go iawn!

Dyma gyfnod mwyaf gwyllt y flwyddyn draw ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y myfyrwyr yn cychwyn ar y digwyddiad ‘Jailbreak’ flynyddol, ble mae’n rhaid begian, hyslo a bodio lifft i unrhyw le heblaw Caerdydd. Mae rhai pobl yn llwyddo cael yr arian at ei gilydd am fws i Wexford, tra bod rhai yn llwyddo i fancio ychydig o ffafrau ac yn cysgu ar y traeth yn Cyprus cyn dychwelyd i Gaerdydd cyn y diwedd. Facebook/ MyfyrwyrCaerdydd.

Draw yn y Brifysgol hefyd mae Strictly Come Dancesport, o 7 tan 10yh. Dylai fod yn sioe dda.

DYDD SADWRN, 23 MAWRTH

Mae Spit and Sawdust yn cynnal noson i’r genethod eto. Felly os wyt ti eisiau rhoi tro ar sglefrio, ar lawr yn hytrach nag rhew, yna dyma’r lle i fod. £5 mynediad a rhai o DJ’s gorau Caerdydd. Swnio’n wych, ond mae’n ddrwg gen i ddweud na fydda i yna! Tocynnau yma: Facebook / Eventbrite.

Dau gôr o Gaerdydd, Technicolour a Sororitas, yn dod at ei gilydd am un noson ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd am barti fydd yn ymestyn i’r nos. Byddant yn canu i godi arian at y Rainbow Railroad, elusen sydd yn helpu pobl LHDT i ddianc o drais ledled y byd. Wedi gwerthu allan ar hyn o bryd, cadwa lygaid allan am fwy o docynnau ar Facebook.

Mae Mary Bijou yn dod yn ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru. Adolygwyd ei sioe yma yn ôl yn 2018. Gwerth ei weld. Tocynnau yma!

DYDD SUL, 24 MAWRTH

Mae pawb angen cŵn yn ei fywyd! Bydd dros 40 o gŵn yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig yn y parc bore Sul, ac mae angen gwirfoddolwyr i helpu pethau fynd yn esmwyth. Gobeithio nad fydd rhaid codi unrhyw dŵ-dŵs! Facebook / MyfyrwyrCaerdydd

Fel wythnos diwethaf, mae gennym gyngerdd clasurol mewn Eglwys yn digwydd dydd Sul. Mae’r un yma yn St Margaret. Bydd Cerddorfa St Anne’s yn “ailgylchu cerddoriaeth y 18fed ganrif gyda thwist 20fed ganrif.” Cyngerdd am ddim yn cychwyn am 7:30yh. Edrycha ar Facebook.

Ffansi rêf bach i godi arian i gefnogi ffoaduriaid mewn angen. Mae’n edrych fel bod Rave 4 Refugees ymlaen trwy’r dydd neu trwy’r nos, efallai’r ddau. £2.50 mynediad. Facebook / MyfyrwyrCaerdydd.

DYDD MERCHER, 27 MAWRTH

Os hoffet ti dreulio dy nos Fercher fel wonc polisi, dyma dy gyfle. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, wedi sefydlu yn Nheml Heddwch Caerdydd, wedi trefnu siaradwyr i ddigwyddiad ‘Cymru mewn Byd ar ôl Brexit’. Mae’n dychryn rhywun i feddwl, pan fydd hyn yn digwydd, dim ond DAU DDIWRNOD sydd nes dyddiad swyddogol y DU yn gadael y UE. Fydd y wlad dal yma hyd yn oed? Gwybodaeth bellach ar Facebook ac Eventbrite.

Os bydda ti’n hoffi derbyn Pethau Rhad ac Am Ddim i’w Gwneud yng Nghaerdydd fel cylchlythyr wythnosol defnyddiol, yna cofrestra yma.

Cyn i ti fynd, cofia lenwi fy ffurflen adborth bach, hoffaf wella Pethau Rhad ac Am Ddim… fel ei fod yn gwasanaethu pawb yn well! Mae gen i syniadau am newidiadau yn barod diolch i’r bobl sydd wedi ateb eisoes – ond hoffaf ychydig mwy plîs!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd