Pleidleisio

Os wyt ti’n ddinesydd y Deyrnas Unedig ac yn 18 oed neu fwy, yna mae gen ti hawl i bleidleisio. Yng Nghymru, mae hawl i rai 16 ac 17 bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Mae angen cofrestru i bleidleisio. Gellir cofrestru ar-lein.

Mae yna wahanol etholiadau yn digwydd ar wahanol adegau, fel:

  • Y Senedd
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Etholiad cyffredinol
  • Llywodraeth Leol
  • Refferendwm

Mae’r gallu i bleidleisio mewn etholiadau penodol yn ddibynnol ar dri pheth:

Ddim yn sicr os wyt ti wedi cofrestru yn barod? Cysyllta â’r swyddfa cofrestro etholiadol lleol.

Rhy ifanc i bleidleisio?

Mae posib dylanwadu ar gymdeithas, rhai sydd yn gwneud penderfyniadau a’r bobl o’th gwmpas. Meddylia am y peth:

  • Oes unrhyw un erioed wedi dy ddylanwadu mewn sgwrs neu drafodaeth o ddydd i ddydd?
  • Wyt ti wedi ystyried ymuno â grwpiau dy gyngor ieuenctid lleol?
  • Wyt ti erioed wedi clywed am Bite The Ballot?
  • Oeddet ti’n gwybod y gallet ti gael dy glywed ar lefel genedlaethol gan weinidogion Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar wneuthurwyr polisi drwy ymuno a Chymru Ifanc?!

Dolenni a Fideos Defnyddiol

Fy Mhleidlais i – Llawer o wybodaeth hawdd ei deall am bleidleisio mewn gwahanol etholiadau yn y DU!

Dy Gynulliad – “Gwefan benodol i bobl ifanc dysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”

Fideo: Cymru 2016 – Sut mae dy bleidlais yn gweithio (yn gyffredinol sut mae Cynulliad Cymru yn gweithio)

Fideo: Sut mae Senedd [y DU] yn gweithio mewn bron i 60 eiliad

Dolenni a fideos eraill gall fod yn ddefnyddiol

Operation Black Vote – yn gweithio i sicrhau bod gwell gyfiawnder a chydraddoldeb hiliol yn y DU. Mae’r gwaith yn cynnwys cofrestru pleidleiswyr, lobïo gwleidyddwyr, cynlluniau mentora a rhaglenni arweinyddiaeth wleidyddol.

TheSprout.co.uk – Gwleidyddiaeth – cer draw i weld ein hadran cylchgrawn ar wleidyddiaeth a gweld beth mae pobl ifanc eraill Cymru yn siarad amdano pan ddaw at bleidleisio a democratiaeth.

Shout Out UK – Llwyfan ieuenctid sydd yn cyfarparu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Cofrestru i Bleidleisio –  Y Comisiwn Etholiadol

Y Senedd – Llawer o wybodaeth am y Senedd a’u gwaith.

Croeso i Senedd y DU – Gwybodaeth i bobl ifanc ac ysgolion

Fideo: Sut mae’r Etholiad Cyffredinol (hy. Etholiad Senedd y DU) yn gweithio mewn bron i 60 eiliad

Fideo: Eglurhad o’r Etholiad Cyffredinol mewn 8 munud

Nid drwy ‘bleidleisio’ yn unig allet ti i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth

Senedd Nawr Gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn y Senedd a sut y gallwch gymryd rhan.

Cymryd rhan – Senedd y DU

Fideo: Cymryd rhan yn Senedd y DU

Cymru Ifanc – cael dy glywed ar lefel cenedlaethol gan weinidogion Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n creu polisïau ar faterion pwysig, fel iechyd meddwl.

Bite the Ballot

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd