Wyt ti erioed wedi sylwi bod dy dudalen ‘I Ti’ ar gyfryngau cymdeithasol yn ymddangos fel ei fod yn cytuno â thi am bopeth? Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn.
Mae algorithmau cyfryngau cymdeithasol wedi’u cynllunio i ddangos cynnwys i ti fydd efallai’n cadw ti ar yr ap. Maent yn gwneud hyn trwy ddangos mwy o’r cynnwys rwyt ti eisoes wedi hoffi neu wylio. Mae hyn yn creu siambr adlais (echo chamber).
Mae siambr adlais yn ofod digidol ble mai’r unig farn rwyt ti’n ei glywed yw dy farn di yn cael ei adlewyrchu’n ôl atat ti. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd gweld gwahanol safbwyntiau, ac mae’n rheswm mawr dros camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn cael ei ledaenu heb gael eu herio.
A yw’n iawn fod mewn siambr adlais?
Yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, gall siambrau adlais gael effaith ar yr hyn rwyt ti’n ei weld. Os mai dim ond un ochr wleidyddol rwyt ti’n cael gweld, efallai y byddi di’n meddwl bod pawb yn teimlo’r un peth. Gall hyn wneud i’r wlad deimlo’n fwy rhanedig nag ydyw mewn gwirionedd.
Mae hefyd yn dy wneud yn darged camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Os yw stori ffug yn cyd-fynd â’r hyn rwyt ti eisoes yn ei gredu, rwyt ti’n llawer mwy tebygol o’i chredu heb wirio’r ffeithiau.
Torri dy siambr adlais yw’r ffordd orau i sicrhau bod dy bleidlais yn seiliedig ar y darlun llawn, nid un wedi’i hidlo yn unig. Ond nid yw’n rhywbeth rwyt ti’n gwneud unwaith yn unig – mae angen i ti newid sut rwyt ti’n defnyddio dy ffôn bob dydd. Mae pentyrru arferion yn ffordd i wneud hyn yn hawdd. Drwy gysylltu arfer newydd ar dy sgrolio arferol, mae posib twyllo’r algorithm i ddangos y darlun llawn i ti heb iddo deimlo fel gwaith ychwanegol. Dyma sut i dorri dy siambr adlais:

Cymysgu dy ffrwd
Nid oes rhaid i ti gytuno â phawb, ond bydd dilyn ychydig o wahanol allfeydd newyddion, ymgeiswyr etholiad, a phleidiau gwleidyddol yn dy helpu i ddeall y ddadl lawn yng Nghymru. Mae’n gorfodi’r algorithm i ddangos ystod ehangach o safbwyntiau i ti.
Pentwr arferion: Bob tro rwyt ti’n dilyn cyfrif newydd rwyt ti’n hoffi, gwna reol i dy hun bod angen dilyn un allfa newyddion ag enw da neu safbwynt gwleidyddol gwahanol yn syth wedyn.
Chwilia drosot ti dy hun
Paid dibynnu ar yr hyn y mae’r algorithm yn ei fwydo i ti yn unig. Chwilia am “newyddion etholiad y Senedd” neu cer i wefannau amrywiol sefydliadau newyddion. Ti sydd yn y sedd gyrrwr o ran gwybodaeth dy hun wedyn.
Pentwr arferion: Pan fyddi di’n agor dy ffôn am y tro cyntaf i weld y tywydd neu sgôr chwaraeon, defnyddia’r foment hon i deipio “Senedd” yn y bar chwilio hefyd i weld beth sy’n trendio y tu allan i dy ffrwd gymdeithasol.
Edrych y tu hwnt i’r sylwadau
Weithiau mae yna gynnwys wedi’i gynhyrchu gan robotiaid neu bobl sy’n chwilio am ymateb yn y sylwadau. Ni ellir dibynnu arnynt bob amser i gynrychioli sut mae’r person cyffredin yng Nghymru yn wir deimlo. Cymera gam yn ôl a chwilia am adrodd ffeithiol yn lle dadleuon poeth.
Pentwr arferion: Pan fyddi di’n dal dy hun yn sgrolio’n ddwfn i adran sylwadau, cau’r ap a threulio 60 eiliad yn darllen yr erthygl ei hun yn lle hynny.
Siarada â phobl yn dy fywyd all-lein
Fel arfer, mae sgyrsiau all-lein yn llawer mwy cytbwys na rhai ar-lein. Siarada â ffrindiau, teulu, athrawon, tiwtoriaid, neu weithwyr ieuenctid am yr etholiad. Yn aml, fe weli di fod barn pobl yn fwy cymhleth nag y mae clip byr ar gyfryngau cymdeithasol yn ei awgrymu.
Pentwr arferion: Pan fyddi di’n eistedd am ginio neu’n aros am fws gyda ffrind, gofynna: “Wyt ti wedi gweld unrhyw bostiadau diddorol ar dy gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar?” i gymharu beth mae’r algorithmau gwahanol yn ei ddangos i chi.

Effaith AI ar siambrau adlais
Mae’n bwysig cofio nad yw siambrau adlais yn ymwneud â’r hyn y mae dy ffrindiau’n ei rannu yn unig. Maent yn cael eu pweru gan algorithmau sy’n gweithio gyda Deallusrwydd Artiffisial. Mae’r systemau AI yma yn astudio pa mor hir rwyt ti’n ei dreulio ar fideo. Maent yn dysgu’r pethau ti’n hoffi ac yn bwydo cynnwys i ti sydd wedi’i gynllunio’n benodol i gadw ti’n sgrolio.
Yn ystod etholiadau’r Senedd, gall algorithmau dy gadw mewn swigen a dim ond un safbwynt rwyt ti’n ei weld. Gall hyn ei gwneud yn haws i gamwybodaeth dy gyrraedd gan nad wyt ti’n gweld gwahanol safbwyntiau.
Pa fath o ddefnyddiwr newyddion wyt ti?
Mae torri allan o dy siambr adlais yn cychwyn gyda deall dy arferion. Wyt ti’n rhannu’r heip neu’n meddwl yn feirniadol? Rho dro ar ein cwis i ddarganfod.
Unwaith yr wyt ti’n gwybod dy steil, byddwn yn rhoi awgrymiadau personol i ti am sut i ailosod dy algorithm a gwneud dy borthiant yn fwy cytbwys.
Gwybodaeth bellach
Mae’r blog yma’n rhan o’r ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd, wedi’i chynllunio i helpu ti i hidlo’r sŵn a ddaw wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd, nid i ddweud wrthyt ti sut i feddwl. Wrth wylio fideo, darllen post, neu ddilyn ymgeisydd, dy benderfyniad di ydyw ar ddiwedd y dydd.
Mynediad at flogiau, cyngor a gemau rhyngweithiol defnyddiol i helpu ti i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i adnabod a herio’r camwybodaeth a thwyllwybodaeth rwyt ti’n ei weld ar-lein. Ein nod yw sicrhau dy fod di yn gallu gwneud y dewis sy’n teimlo’n iawn i ti yn yr orsaf bleidleisio ar Fai 7fed.
Cer draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos ein hymgyrch camwybodaeth a thwyllwybodaeth:
Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi achosi gofid i ti, neu rwyt ti eisiau siarad gyda rhywun, gallet ti gysylltu â’r llinell gymorth Meic. Maent yn cynnig cymorth cyfrinachol, am ddim i blant a phobl ifanc 25 a iau yng Nghymru. Cysyllta ar y ffôn neu neges WhatsApp ar 080880 23456 neu sgwrsia â chynghorwr ar-lein ar www.meic.cymru.
Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’r rhaglen Lleisiau Gwybodus ar draws y DU yn cael ei arwain gan Parent Zone a’i gomisiynu gan Ofcom i wella llythrennedd cyfryngau a gwydnwch ar-lein pobl ifanc, yn enwedig pleidleiswyr ifanc. ProMo Cymru, sy’n rhedeg TheSprout, sy’n cyflwyno’r ymgyrch yma yng Nghymru.


