Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 9-15 Awst 2018

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ar ôl wythnos brysur gyda’r Eisteddfod, mae pethau yn dechrau distewi yng Nghaerdydd. Dyma rai o’r pethau rhad neu am ddim i’w gwneud yng Nghaerdydd yr wythnos hon – yn enwedig os byddet ti’n hoffi wythnos ychydig yn ddistawach.


Croeso Adref Geraint

Dydd Iau, 9fed am 4:15pm – Y Senedd

https://twitter.com/sport_wales/status/1026846195782754306

Ta waeth am wythnos ddistaw! Mae ryw fachgen o Whitchurch wedi ennill y Tour de France yn ôl pob sôn. Felly cer ar dy feic i lawr i’r Senedd am 4:15pm heddiw a dilyn y pencampwr Cymraeg i fyny i’r Castell am areithiau a dathliadau pellach.

Diwedd yr Eisteddfod

Dydd Iau i Dydd Sadwrn – Bae Caerdydd

Rydym yn cyhoeddi’r erthyglau yma bob dydd Iau, felly mae yna dri diwrnod ar ôl o’r Eisteddfod. Mae’n debyg bydd yna ddigwyddiadau anhygoel yn mynd ymlaen, am ei bod yn benwythnos Heb sôn y bydd unrhyw un sydd yn ei wneud eto wedi hen arfer erbyn hyn! Felly mae yna amser o hyd i fwynhau rhai o ddigwyddiadau diwylliannol gorau Cymru. Dyma rhai o’m mhigion gorau:

Dangosiad ffilmiau Fy Nghaerdydd Into Film
Sinemaes, Dydd Iau 9fed am 5pm
Prosiect ar y cyd rhwng Ffilm Cymru, Ymddiriedolaeth Darlledu Gymreig ac ysgolion uwchradd Caerdydd. 12+

Carnifal y Môr
am 10:30pm bob dydd – Bae Caerdydd
Gwledd theatr stryd ar thema’r môr

Man a Lle – Cymru ar Ffilm
Dydd Gwener 10fed am 11:30am
Casgliad o ffilmiau gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru

Gweithdy Zine
Dydd Gwener 10fed am hanner dydd – Gŵyl Llên Plant
Sesiwn i weithio ar dy sgiliau – ond rhaid i ti addo dychwelyd at theSprout wedyn.

Mas ar y Maes: Y Closet Cyfryngol?
Dydd Gwener 10fed am 4:30pm – Cymdeithasau 2
Ydy pobl LHDT yng Nghymru yn parhau i fod “yn y closet” wrth gael eu portreadu ar y sgrin?

Ôl-barti Mas ar y Maes
Gwener 10fed am 10pm – Ffresh
Yn dilyn diwrnod o fandiau anhygoel cer draw i Ffresh i ddathlu.

A yw’r byd addysg yn lladd ein llên?
Sadwrn 11eg am 12:45pm – Y Babell Lên
Pwy sydd ar fai bod cyn lleied o bobl yn darllen nofelau a cherddi ar ôl gadael yr ysgol?

Edrycha drwy’r rhestr fawr o ddigwyddiadau wrth lawrlwytho’r app Eisteddfod ar gyfer iOS ac Android. Neu, fel arall, cer lawr a gweld beth sy’n digwydd – mae yna rywbeth yno o hyd.

Taith Pobl Y Cwm

4-10 Awst, am ddim – BBC Bay Studios

Os wyt ti’n ffan fawr o opera sebon hynaf S4C neu os wyt ti’n hollol ddiarth iddo, mae’n hwyl cael gweld sut mae rhaglen teledu yn cael ei greu. Cyfle i gael cip y tu ôl i’r llenni ym Mhencadlys Porth y Rhath y Bîb. Ac mae’n rhad ac am ddim! Tocynnau ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru.

Barod am Gwis

Dydd Iau a Dydd Gwener am 7pm

Dwi wedi darganfod nid un, ond dau gwis yr wythnos hon, sydd yn £1 y pen. Swnio fel bargen. Mae cwis y Sherman ar ddydd Iau am 7pm, tra bod un o grwpiau theatr eraill Caerdydd, Theatr y Clocktower, yn cynnal cwis yn Little Man Coffee y diwrnod canlynol, hefyd am 7pm.

Casefile Caerdydd: Gem Ddirgel Byw

Sadwrn, 11 Awst rhwng 10am a 4pm – Cychwyn yn Rules of Play. £12, am ddim i rai dan 12

Mae hwn yn swnio mor gyffrous. Coda ffeil achos o siop gemau bwrdd Rules of Play yn Arcêd y Castell ar ôl 10am, ac yna datrys y cliwiau i ymweld â 12 lleoliad cyfrinachol o gwmpas y ddinas. Gofyn cwestiynau i dystion go iawn, a datrys yr achos… cyn i rywun ddod i niwed!!! Cadwa le yma.

Rhoi Tro ar Feicio Trac

Mercher 15 Awst am 12:15pm – Canolfan Maindy. Am ddim (8-16 oed)

Wedi breuddwydio am gael reidio dy feic yn y felodrom a mynd fel y gwynt? Wel, nawr fe gei di, am ddim, yng Nghanolfan Maindy ar ddyddiau Mercher y mis hwn. Cyfle i gael hyfforddiant gan arbenigwyr beicio Cymru. Mae yna sesiwn blasu Free Wheel ar ddydd Mawrth hefyd, sydd yn gadael i ti gael tro ar gampau.

AR Y GORWEL:

Dysgu sgiliau gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog

Mae posib cofrestru ar gyfer cynllun Dechrau Arni mewn Chwaraeon. Os wyt ti wedi ystyried gyrfa yn hyfforddi, yna cer draw i’r cyfle anhygoel yma.

Prynu tocynnau Pride

Mae penwythnos Gŵyl y Banc yn benwythnos Pride, felly os wyt ti am chwifio’r faner enfys drwy strydoedd Caerdydd, bydd angen i ti gael tocyn i Benwythnos Mawr Pride Cymru.


Yn chwilio am ddigwyddiadau pellach? Beth am edrych ar dudalen digwyddiadau theSprout am wybodaeth gyfoes. Cofia ddod yn ôl wythnos nesaf am fwy o bethau gwych i wneud yng Nghaerdydd fydd ddim yn torri’r banc.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd