Hygyrchedd
Accessibility
Hygyrchedd
“Mynediad at Wybodaeth a Chanllawiau – I allu cael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar ystod eang o faterion syn effeithio ar dy fywyd, pryd bynnag y bo arnat ei angen.”
Dy hawl di ydyw i allu cyrchu gwybodaeth ac arweiniad. Addewid barhaus CLIC yw cyflenwi hyn i bobl ifanc ar draws Cymru. Bydd rhoi gwybodaeth i ti am yr holl bynciau ar materion sy’n effeithio ar dy fywyd, mewn ffyrdd sy’n hawdd eu deall, yn dy helpu di i wneud y penderfyniadau sydd orau i ti yn dy fywyd.
Bwriad gwefan TheSprout yw i anelu at dy helpu di i ddeall yn well y ffyrdd y gallu di gyrchu’r gwybodaeth sydd angen arnat ar ein gwefan, beth bynnag yw lefel dy allu neu os oes gennyt anabledd.
Wrth gofleidio technolegau newydd, rydym hefyd yn anelu at:
- sicrhau bod defnyddwyr gydag anabledd yn cael mynediad gydau meddalwedd neu eu gosodiadau cyfrifiadurol gynorthwyol.
- sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio ir cyfeiriad iawn i gael gwybodaeth am sut i addasu eu cyfrifiaduron
Cael dy Glywed – Dy hawl di ydyw i gael y cyfle i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred a allai effeithio arnat ti.
Byddwn yn dy gynnwys di trwy’r amser wrth ddatblygu ein datganiad hygyrchedd fel y gallu di gael llais yn y ffordd y gallwn wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch a dealladwy i ti. Os oes gennyt unrhyw adborth neu sylwadau am sut y gallwn wneud hynny, cysyllta gyda ni ar info@thesprout.co.uk
Byddwn yn adolygu’r ddogfen hon yn rheolaidd i sicrhau ei bod mor gyfoes a defnyddiol a phosibl.
I gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd ewch i “My Web, My Way – Accessibility Help” y BBC.
Mae safle TheSprout yn cydymffurfio gyda’r safonau gwe a ddiffiniwyd gan ‘World Wide Web Consortium’ (W3C) ac yn cydymffurfio gyda Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd y DU 1995.
Caiff y cynnwys ei gyflwyno fel xHTML wedi strwythuro yn semantig. Gwahanir gwybodaeth a gyflwynir a defnydd deinamig oddi wrth y cynnwys gan ddefnyddio Cascading Style Sheets a ffeiliau Javascript y cyfeirir atynt yn allanol.
Oherwydd hyn gellir gweld y safle:
- gan ddefnyddio ystod eang o ddyfeisiadau fel ffonau symudol, cyfrifiaduron llaw a darllenwyr sgrin,
- gan ddefnyddio cyfrifiadur o unrhyw oed a manyleb a all redeg porwr sy’n cydymffurfio safonau (fel Firefox neu Internet Explorer 7),
a bydd yn parhau yn hygyrch ac yn ddealladwy.
Mae cynllun y safle’n cymryd i ystyriaeth defnyddwyr sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg ac yn gydnaws â meddalwedd darllen sgrin poblogaidd.
Arweinir hygyrchedd gwefan The Sprout gan Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 1.0 y Worldwide Web Consortium (W3C) ac rydym yn ymdrechu i fodloni’r safon AA lle bynnag bo’n bosibl.
Mae cynnal gwefan hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio bob amser i gynnig profiad hwylus i’r defnyddiwr. Lle na allem bodloni’r safonau uchaf o ran hygyrchedd, bydd TheSprout yn anelu at ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch ar gais.
Os cei di unrhyw drafferthion wrth ddefnyddio’r wefan neu os bydd gennyt unrhyw sylwadau, anfona e-bost atom i info@thesprout.co.uk
Newid maint y testun
Cafwyd gwefan TheSprout ei chynllunio i adael i ti newid maint y testun a gosodiadau arddangos eraill drwy gosodiadau’r porwr safonol. Mae’r dudalen hon oddi wrth y W3C yn dangos i ti sut i ddefnyddio rhai o’r gosodiadau arddangos porwr hyn (cyswllt allanol) Rhaglenni darllen/gweld
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae’r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim. Mae’r cysylltiadau hyn wedi’u cynnwys yma er hwylustod i ti. Nid yw TheSprout yn ardystio unrhyw un o’r rhaglenni hyn. Mae pob cyswllt a nodir yn perthyn i wefannau allanol.
Rhaglenni darllen a meddalwedd Gweld
Mae rhaglenni darllen a gweld yn caniatau i ti ddarllen y mathau o ffeiliau sy’n perthyn i raglenni masnachol heb fod angen i ti eu gosod ar dy gyfrifiadur. Gall rhaglenni darllen a gweld fod hyd at 12MB o ran eu maint, ond dim ond unwaith y bydd angen i ti eu lawrlwytho.
Word reader for Linux (dolen gyswllt allanol)
Adobe Acrobat Reader (dolen gyswllt allanol)
Adobe Flash Player (dolen gyswllt allanol)
Microsoft Word Viewer (dolen gyswllt allanol)
Microsoft Excel Viewer (dolen gyswllt allanol)
Microsoft PowerPoint 2007 Viewer (dolen gyswllt allanol)
Os ydwyt yn defnyddio technoleg darllen sgrin neu dechnoleg cynorthwyol tebyg i ddarllen ein gwefan, efallai y byddet yn dymuno defnyddio offeryn trosi ar-lein Adobe er mwyn creu fersiynau html o ddogfennau pdf. Gallet weld yr offeryn trwy glicio ar yr URL canlynol:
http://www.adobe.com/products/acrobat/access_onlinetools.html (dolen gyswllt allanol)