Pleidleisio
Os wyt ti’n ddinesydd y Deyrnas Unedig ac yn 18 oed neu fwy, yna mae gen ti hawl i bleidleisio. Yng Nghymru, mae hawl i rai 16 ac 17 bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Mae angen cofrestru i bleidleisio. Gellir cofrestru ar-lein.
Mae yna wahanol etholiadau yn digwydd ar wahanol adegau, fel:
- Y Senedd
- Comisiynydd Heddlu a Throsedd
- Etholiad cyffredinol
- Llywodraeth Leol
- Refferendwm
Mae’r gallu i bleidleisio mewn etholiadau penodol yn ddibynnol ar dri pheth:
Ddim yn sicr os wyt ti wedi cofrestru yn barod? Cysyllta â’r swyddfa cofrestro etholiadol lleol.
Rhy ifanc i bleidleisio?
Mae posib dylanwadu ar gymdeithas, rhai sydd yn gwneud penderfyniadau a’r bobl o’th gwmpas. Meddylia am y peth:
- Oes unrhyw un erioed wedi dy ddylanwadu mewn sgwrs neu drafodaeth o ddydd i ddydd?
- Wyt ti wedi ystyried ymuno â grwpiau dy gyngor ieuenctid lleol?
- Wyt ti erioed wedi clywed am Bite The Ballot?
- Oeddet ti’n gwybod y gallet ti gael dy glywed ar lefel genedlaethol gan weinidogion Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar wneuthurwyr polisi drwy ymuno a Chymru Ifanc?!
Dolenni a Fideos Defnyddiol
Fy Mhleidlais i – Llawer o wybodaeth hawdd ei deall am bleidleisio mewn gwahanol etholiadau yn y DU!
Dy Gynulliad – “Gwefan benodol i bobl ifanc dysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”
Fideo: Sut mae Senedd [y DU] yn gweithio mewn bron i 60 eiliad
Dolenni a fideos eraill gall fod yn ddefnyddiol
Operation Black Vote – yn gweithio i sicrhau bod gwell gyfiawnder a chydraddoldeb hiliol yn y DU. Mae’r gwaith yn cynnwys cofrestru pleidleiswyr, lobïo gwleidyddwyr, cynlluniau mentora a rhaglenni arweinyddiaeth wleidyddol.
TheSprout.co.uk – Gwleidyddiaeth – cer draw i weld ein hadran cylchgrawn ar wleidyddiaeth a gweld beth mae pobl ifanc eraill Cymru yn siarad amdano pan ddaw at bleidleisio a democratiaeth.
Shout Out UK – Llwyfan ieuenctid sydd yn cyfarparu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Cofrestru i Bleidleisio – Y Comisiwn Etholiadol
Y Senedd – Llawer o wybodaeth am y Senedd a’u gwaith.
Croeso i Senedd y DU – Gwybodaeth i bobl ifanc ac ysgolion
Fideo: Sut mae’r Etholiad Cyffredinol (hy. Etholiad Senedd y DU) yn gweithio mewn bron i 60 eiliad
Fideo: Eglurhad o’r Etholiad Cyffredinol mewn 8 munud
Nid drwy ‘bleidleisio’ yn unig allet ti i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth
Senedd Nawr – Gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn y Senedd a sut y gallwch gymryd rhan.
Fideo: Cymryd rhan yn Senedd y DU
Cymru Ifanc – cael dy glywed ar lefel cenedlaethol gan weinidogion Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n creu polisïau ar faterion pwysig, fel iechyd meddwl.