Diogelwch Ar-Lein

Mae gan bob person 5 o anghenion sylfaenol i oroesi, aer, dwr, bwyd, cysgod a chwsg, ond oes yna chweched bellach? Cysylltedd? Sut fydda ni’n byw heb fod ar-lein!?

Rydym yn mynd ar-lein ar gyfer popeth: gwaith ysgol, dod o hyd i swydd, talu biliau, chwarae gemau, cymdeithasu, cyfarfod cariad newydd, gwylio’r teledu, dysgu sgiliau ayb ayb. Mae’n hawdd iawn cael mynediad i’r Rhyngrwyd ar dy ffôn, tabled, cyfrifiadur, platfform gemau cyfrifiadurol, teledu SMART ayb. Ond ydy pawb yn ymwybodol o beryglon y Rhyngrwyd? Wyt ti’n gwybod sut i gadw’n ddiogel ar-lein?

 

Gwasanaethau Cenedlaethol

Diogelwch y Rhyngrwyd

Canllawiau Cyngor Myfyrwyr PrifysgolPan fyddi di’n symud o gartref i fynd i’r Brifysgol efallai nad yw’r systemau cefnogol arferol yno bellach, neu mor rhwydd i gael mynediad iddynt, felly mae SWGfL wedi creu’r canllawiau yma i helpu. Goroesi mewn Cymunedau Ar-lein; Dêtio Ar-lein; Pornograffi; Preifatrwydd ac Enw Da.

Digizen – Gwybodaeth i gryfhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddinasyddiaeth ddigidol, a dod yn ddinasyddion digidol cyfrifol. Cyngor ac adnoddau ar rwydweithio cymdeithasol a seiberfwlio.

Rhestrau Gwirio Rhwydweithiau Cymdeithasol SWGfL – Mae SWGfL wedi cynhyrchu llawer o restrau gwirio bach ar sut i gadw gafael ar eich preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol, fel pwy all weld eich postiadau, rheoli ffrindiau/dilynwyr, sut i flocio, sut i adrodd ayb. Edrychwch ar y rhestrau gwirio Facebook, Snapchat, Twitter ac Instagram

NSPCC – Mae gan yr NSPCC nifer dda o declynnau diogelwch. Mae Share Aware yn annog rhieni a phlant i gael sgwrs agored a bod yn ymwybodol o’r hyn sydd yn cael ei rannu ar-lein. Mae Net Aware yn ganllaw i rieni a gofalwyr i’r gwefannau, apiau a gemau mwyaf poblogaidd ymysg pobl ifanc, wedi’i sefydlu ar adolygiadau gan blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr.

The Mix – Gwasanaeth cefnogol i rai dan 25 oed. Llwyth o wybodaeth a chyngor am faterion diogelwch ar-lein. Gwybodaeth ar Seiberfwlio a Dêtio Ar-lein yn esiampl o rai o’r pynciau sydd ar gael.

Childnet – Mae gan Childnet hwb i bobl ifanc 11-18 oed gydag awgrymiadau gorau, cystadlaethau, blogiau a chyngor sydd yn helpu i ddefnyddio’r Rhyngrwyd yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn bositif. Mae yna gyngor hefyd am rwydweithio cymdeithasol, sgwrsio fideo a chamerâu gwe, ac enw da ar-lein.

ThinkUKnow – mae yna adrannau gwahanol i wahanol oedrannau i gadw ti’n ddiogel ar-lein. I rai 11-13 oed mae yna wybodaeth am gadw dy hun yn ddiogel a chadw’r Rhyngrwyd yn hwyl. Mae’r adran i rai 14+ yn edrych ar ryw, perthnasau a’r Rhyngrwyd.

BBC Own It – Yn dy helpu di i ddod yn fos ar dy fywyd ar-lein. Cyngor a chymorth ar bob math o broblemau ar-lein, dysgu sgiliau flogio, chwarae gemau a chreu, cael dy ysbrydoli efo’r hyn sydd yn newydd a chymryd rhan wrth gymryd rheolaeth o’th fywyd ar-lein.

Hwb – Mae gan yr Hwb adran e-ddiogelwch arbennig sydd â llawer o wybodaeth a sefydliadau defnyddiol gall helpu.

Be Internet Legends – Helpu i wneud y gorau o’r Rhyngrwyd wrth wneud penderfyniadau clyfar. Dilynwch y cod i ddefnyddio’r we yn ddiogel ac yn gall.

UK Safer Internet Centre  – Lle i gael awgrymiadau diogelwch ar-lein, cyngor ac adnoddau. Mae yna adran arbennig i bobl ifanc 11 i 19 oed.

Kidsmart – Llawer o wybodaeth am sut i fod yn SMART ar-lein gyda phethau fel sgwrsio, chwilio diogel, ôl-troed ddigidol, gemau, rhwydweithio cymdeithasol a mwy.

Get Safe Online – Llawer o wybodaeth am sut i amddiffyn dy gyfrifiadur, amddiffyn dy hun, siopa a bancio ar-lein, rhwydweithio cymdeithasol, sbam a sgamiau a mwy.

Childline – Mae gan Childline adran diogelwch ar-lein a symudol ar y gwefan sydd yn cynnwys gwybodaeth ar seiberfwlio, gemau ar-lein a mwy.

Grŵmio, secstio a phorn dial

**Rhaid nodi: Mae’n anghyfreithlon tynnu, rhannu a lawr lwytho cynnwys rhywiol o bobl ifanc dan 18 oed. Mae hyn yn fater i’r heddlu**

The Mix – Mae’r gwasanaeth cefnogol yma i rai dan 25 oed yn cynnwys gwybodaeth a chyngor am Bornograffi Dial a Grŵmio Ar-lein

Fe fuost ti’n noeth ar-lein, felly… – Mae yna lawer o rybuddion i beidio rhannu lluniau noeth neu bryfoclyd ond beth os wyt ti wedi bod yn secstio yn barod, ac wedi colli rheolaeth dros bwy sy’n gweld y lluniau yma ar-lein? Mae’r daflen hon gan SWGfL yn cynnwys cyngor a chymorth i bobl ifanc sydd yn y sefyllfa yma.

Llinell Gymorth Porn Dial – Yn helpu rhai dros 18 oed sydd wedi dioddef gyda phorn dial (pan fydd rhywun yn rhannu deunydd rhywiol preifat gydag eraill heb ganiatâd). E-bostia help@revengepornhelpline.org.uk neu galwa 0345 6000 459 10yb-4yp Llun i Gwener.

CEOP – Os wyt ti’n poeni am gamdriniaeth rywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu gyda thi ar-lein yna mae posib adrodd hyn i CEOP. Mae gan nifer o wefannau’r botwm CEOP ar eu tudalennau yn barod i’w wneud yn haws i ti adrodd camdriniaeth ar-lein.

It’s Not Okay – Gwybodaeth os wyt ti’n ystyried secstio, dan bwysau i wneud hynny, a pha gamau i’w cymryd.

Childline – Mae gan Childline wybodaeth a chyngor am secstio a grŵmio ar-lein ymysg yr holl wybodaeth yn yr adran diogelwch ar-lein a symudol.

Cyfreithiau Hawlfraint

Copy Rights and Wrongs – Yn ogystal â chadw dy hun yn ddiogel o bobl eraill ar-lein, rwyt ti angen bod yn ymwybodol o sut i gadw dy hun yn ddiogel yn gyfreithiol. Mae cyfreithiau hawlfraint yn bodoli i amddiffyn hawliau eiddo deallusol (stwff wedi’i greu gan bobl eraill). Os wyt ti’n defnyddio delwedd neu fideo sydd wedi’i ddarganfod ar-lein, yna mae’n rhaid i ti fod yn ymwybodol o gyfreithiau hawlfraint, neu gallet ti gael i drafferthion. Edrycha ar Copy Rights and Wrongs i ddysgu mwy am hawlfraint.

Pixabay – Darganfod lluniau sydd am ddim i’w defnyddio. Sicrha dy fod di’n rhoi credyd i’r perchennog os yw’n gofyn am hynny.

Creative Commons – Gwefan arall i ddarganfod lluniau am ddim i’w defnyddio. Sicrha dy fod di’n rhoi credyd i’r perchennog os yw’n gofyn am hynny.

BenSound – Gwefan i ddarganfod cerddoriaeth heb hawlfraint (gellir eu defnyddio am ddim). Cofia roi credyd i’r perchennog os yw’n gofyn am hynny.

Rhannu ffeiliau

KidSMART – Os wyt ti’n rhannu ffeiliau o dy gyfrifiadur, sicrha nad wyt ti’n rhannu gwybodaeth bersonol yn ddamweiniol. Rwyt ti’n rhoi dy hun mewn perygl o lawr lwytho firws i dy gyfrifiadur. Darllena’r wybodaeth rhannu ffeiliau yma.

Radicaleiddio

Childline – Mae’r Rhyngrwyd yn cael ei ddefnyddio fwy a mwy i radicaleiddio ac mae bod yn ymwybodol o hyn yn gallu helpu i frwydro yn erbyn hyn, neu yn gallu helpu eraill i adnabod bod hyn yn digwydd i’w ffrindiau. Mae gan Childline ychydig o wybodaeth am hyn yn yr adran Worries About The World.

Internet Matters – Mae yna wybodaeth am sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i radicaleiddio ar y dudalen gwybodaeth Internet Matters yma.

Delwedd y Corff a Hunanwerth

Meic – Os wyt ti’n cael trafferth gyda dy hyder neu hunanwerth yna galwa’r llinell gymorth Meic i siarad am hyn a chanfod ffyrdd i helpu. Mae Meic yn llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galwa am ddim ar 080880 23456, neges testun i 84001 neu Negeseuo Ar-lein.

Young Minds – Mae YoungMinds yn sefydliad sydd yn ymladd dros iechyd meddwl pobl ifanc.

Beat – Gall Beat helpu unrhyw un sydd yn dioddef o anhwylderau bwyta.

Apiau a Gemau Defnyddiol

Ap Internet Matters – Tabledi yn unig – Apple iTunes Google Play – Helpu rhieni a’u plant i ddysgu am faterion diogelwch ar-lein. Yn edrych ar sgwrsio, seiberfwlio, preifatrwydd a lladrad, lawr lwytho, gwneud ffrindiau, cynnwys rhy hen, chwarae gemau, rhannu, cystadlaethau a hysbysebion. Ateba gwestiynau i ennill pwyntiau.

Interland – Mae’r gêm ar-lein llawn antur yma yn gwneud dysgu am ddiogelwch ar-lein yn rhyngweithiol ac yn hwyl. Helpa’r internauts i drechu’r hacwyr, ‘phishers’, rhai sy’n rhannu gormod a’r bwlïod wrth ymarfer y sgiliau sydd ei angen i fod yn fforiwr ar-lein hyderus.

Digizen y gêm – I chwarae’r gêm yma bydd angen gwylio’r ffilm Seiberfwlio Let’s Fight It Together i gychwyn. Yna gallet ti greu cymeriad dy hun sydd yn mynd i’r un ysgol â’r bachgen sydd yn cael ei fwlio. Yn y gêm gellir gwneud penderfyniadau ar sut i’w helpu, gan helpu ti i ddod yn ddinesydd digidol cyfrifol a chadw’n ddiogel ar-lein.

Blogiau a chanllawiau

Cymryd gofal ar eich dêt cyntaf – Cyngor dêtio ar-lein – Heddlu Gogledd Cymru

10 Ffaith a Chymorth SeiberfwlioMeic

Help! Mae Rhywbeth Yn Fy Ngwylltio Ar Y We – Meic

Gafael yn y Meic: Lluniau Lletchwith – Meic

The Instagram Effect – Canllaw Poced Myfyrwyr

Online Grooming: Charlotte’s Story – Childline

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd