Arian
Mae arian yn rhywbeth mae pobl yn poeni amdano yn aml, bod hynny’n deall sut i reoli’r arian sydd gen ti, darganfod pa arian fedri di ei gael, neu ymdopi os wyt ti’n cael i ddyled.
Mae yna lwyth o wasanaethau ar gael sydd yn gallu cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth pan ddaw at arian; dim ond i ti wybod ble i chwilio! Rydym yma i helpu.
Gwasanaethau Cenedlaethol
Gwasanaeth Cynghori Ariannol – Gwybodaeth am ddyledion, cyllidebu, cynilo, budd-daliadau, yswiriant, cartrefi a mwy.
The Mix – Gwasanaeth cefnogol i rai dan 25 oed. Llawer o wybodaeth yn yr adran arian.
Gov.uk – Gwasanaethau a gwybodaeth y llywodraeth yn eu hadran arian a threth.
Hwb Sgiliau Bywyd Pobl Ifanc Barclays – Nifer o ganllawiau fel 34 Ffordd i Gynilo, Egluro Slipiau Talu, 7 Ffordd i Osgoi Bod Mewn Dyled, Beth Yw Cost Benthyg a llawer mwy.
Money Super Market – Gwefan cymharu prisiau gydag offer ar-lein i arbed, rheoli a thyfu dy arian. Mae’r adran arian yn edrych ar gardiau credyd, benthyciadau, cyfrifon cyfredol, cynilion a morgeisi.
Money Saving Expert – Llwyth o ganllawiau arbed arian, awgrymiadau, teclynnau a thechnegau.
Llinell Ddyled Genedlaethol – Cyngor dyled am ddim ar 0808 808 4000 neu sgwrsio ar y we.
Turn2Us – Yn helpu pobl pan fydd pethau’n mynd yn anodd – cefnogaeth a gwybodaeth, cyfrifiannell budd-daliadau a chwiliwr grantiau.
Apiau Defnyddiol
Money Dashboard – App arian a chynllunydd cyllideb. Dewisa nod a defnyddio’r app i helpu cyflawni hyn.
Chip – Ffordd hawdd i gynilo arian. Bydd yr app yn monitro dy wario ac yn cyfrifo faint gallet ti fforddio cynilo, ac yn trosglwyddo’r swm i dy gyfrif cynilo heb i ti orfod gwneud dim.
Mae apiau taleb yn cynnig talebau a chodau disgownt fydd yn help i arbed arian. VoucherCodes, VoucherCloud a HotUk Deals yw rhai o’r rhai mwyaf adnabyddus.
Mae apiau ‘cashback’ yn gwneud yr union hyn. Pan fyddi di’n prynu rhywbeth byddi di’n cael ychydig o arian yn ôl. Mae posib lawr lwytho talebau a disgowntiau hefyd. Rho dro ar TopCashback neu Quidco.
Mae apiau cymharu prisiau yn chwilio am y fargen orau i ti ar-lein ac yn y siopau. Gallet ti gymharu prisiau siop bwyd mewn gwahanol archfarchnadoedd ar MySupermarket. Os wyt ti’n gweld rhywbeth hoffet ti ei brynu, yna noda’r eitem, neu sganio’r cod bar i mewn i’r app Idealo i ddarganfod y pris rhataf.
Payfriendz – Ffordd hawdd i dalu ffrindiau yn ôl heb iddynt orfod swnian arnat ti. Grêt os wyt ti’n trefnu gweithgareddau grŵp yn aml gyda ffrindiau.
Gwertha dy hen stwff a gwneud arian. Mae apiau fel MusicMagpie a WeBuyBooks yn prynu dy hen CDs, DVDs, gemau a llyfrau. Y peth gorau am yr apiau yma ydy bod posib gwerthu swmp o eitemau yn sydyn, ond os oes gen ti amser ac amynedd yna byddi di’n debygol o gael mwy o arian yn eu gwerthu’n unigol ar eBay.
Meic – Os wyt ti angen gwybodaeth bellach am unrhyw faterion ariannol a gwasanaethau fydda’n gallu helpu, cysyllta â’r llinell gymorth Meic. Mae Meic yn llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galwa am ddim ar 080880 23456, neges testun 84001 neu IM.
Blogiau a Chanllawiau
Awgrymiadau cynilo arian i rai dan 25 oed – Money Saving Expert
Canllaw i ddeall y gwahanol fathau o bensiynau fel nad wyt ti’n marw mewn tlodi – Vice
Canllaw rheoli dy arian i ddechreuwyr – MoneyAdviceService