4 Cam i i Wirio Ffeithiau Dy Ffrwd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Pan fyddi di’n sgrolio, nid oes gen ti amser i ymchwilio’n fanwl bob tro, ond mae posib  hidlo dy ffrwd yn sydyn mewn pedwar cam.

Mae arbenigwyr digidol wedi creu dull gelwir yn SIFT yn Saesneg, sydd yn helpu ti i feddwl os gall cynnwys fod yn gamarweiniol. Beth am i ni alw hwn yn ddull STAD yn y Gymraeg? Mae STAD yn sefyll am:

  • Stopio
  • Tracio’r ffynhonnell wreiddiol
  • Archwilio’r ffynhonnell
  • Darganfod sylw dibynadwy

Mae defnyddio’r pedwar cam yma yn dy helpu i adnabod camwybodaeth (cynnwys damweiniol, camarweiniol ac anghywir) a thwyllwybodaeth (cynnwys bwriadol gamarweiniol ac anghywir). Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, pan fyddi di’n debygol o weld mwy o wybodaeth a barnau gwleidyddol.

Stopio

Pan fyddi di’n gweld post am y tro cyntaf sy’n gwneud i ti deimlo emosiwn cryf, fel dicter neu syndod, stopia. Paid rhannu, paid gwneud sylwad, a phaid hoffi eto. Gofynna i ti dy hun os wyt ti’n gwybod bod y ffynhonnell yn ddibynadwy mewn gwirionedd. Os nad wyt ti’n siŵr, paid rhannu.

Tracio’r ffynhonnell wreiddiol

Gellir tocio neu olygu fideos a lluniau a gall hyn newid y cyd-destun gwreiddiol. Gall darn fideo byr o wleidydd greu’r argraff anghywir – efallai bod y fersiwn llawn yn dweud stori wahanol. Ceisia ddod o hyd i’r fersiwn wreiddiol bob amser cyn i ti gredu’r clip a’i rannu. Bydd hyn yn helpu ti i weld y darlun lawn.

Archwilio’r ffynhonnell

Nid oes rhaid gwneud gwiriad cefndir llawn. Clicia ar y proffil. Ai allfa newyddion nad wyt ti wedi clywed amdano ydyw? Ai cyfrif ar hap gydag ychydig iawn o ddilynwyr, neu wedi ei greu o fewn y mis diwethaf? Os yw’r ‘newyddion’ yn dod o dudalen meme, mae’n werth edrych i mewn ymhellach iddo.

Darganfod sylw amrywiol

Os mai dim ond mewn un lle y mae  honiad yn ymddangos, chwilia am dystiolaeth bellach. Chwilia am y pennawd ar wefannau newyddion gwahanol neu beiriant chwilio. Mae gweld sut y mae allfeydd gwahanol yn adrodd ar stori yn gallu helpu ti i weld y darlun llawn a gwneud penderfyniad gwybodus dy hun.

Troi STAD yn arferiad

Y ffordd orau i ddod yn dda yn y dull STAD yw ymarfer pentyrru arferion. Dyma dric syml ble gallet ti gysylltu arferiad bach, newydd â rhywbeth rwyt ti eisoes yn ei wneud bob dydd.

Meddylia amdano fel hyn: Rwyt ti eisoes yn edrych ar dy hysbysiadau neu’n sgrolio ar gyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y byddi di’n deffro.

I ‘bentyrru’ dy arferion, ychwanega un cam cyflym:

  • Pan fyddi di’n gweld post newyddion ar dy ffrwd…
  • …agora ap neu wefan newyddion dibynadwy ar unwaith i weld os ydyn nhw’n adrodd yr un peth.

Trwy ychwanegu’r gwiriad cyflym yma at dy drefn arferol, rwyt ti’n hyfforddi dy ymennydd i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.

Mae’n helpu ti i adnabod cynnwys a gynhyrchir gan AI neu glicbait cyn i ti rannu rhywbeth sydd ddim yn wir.

Gwybodaeth bellach

Mae AI bellach yn cael ei ddefnyddio i greu cynnwys hynod realistig. O flogiau a ysgrifennwyd gan AI sy’n edrych fel newyddiaduraeth go iawn i leisiau sy’n swnio’n union fel pobl rwyt ti’n adnabod, mae’n anoddach nag erioed ymddiried yn dy lygaid (a dy glustiau!).

Mae’r blog yma’n rhan o’r ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd, wedi’i chynllunio i helpu ti i hidlo’r sŵn a ddaw wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd, nid i ddweud wrthyt ti sut i feddwl. Wrth wylio fideo, darllen post, neu ddilyn ymgeisydd, dy benderfyniad di ydyw ar ddiwedd y dydd.

Mynediad at flogiau, cyngor a gemau rhyngweithiol defnyddiol i helpu ti i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i adnabod a herio’r camwybodaeth a thwyllwybodaeth rwyt ti’n ei weld ar-lein. Ein nod yw sicrhau dy fod di yn gallu gwneud y dewis sy’n teimlo’n iawn i ti yn yr orsaf bleidleisio ar Fai 7fed.

Cer draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos ein hymgyrch camwybodaeth a thwyllwybodaeth:

Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi achosi gofid i ti, neu rwyt ti eisiau siarad gyda rhywun, gallet ti gysylltu â’r llinell gymorth Meic. Maent yn cynnig cymorth cyfrinachol, am ddim i blant a phobl ifanc 25 a iau yng Nghymru. Cysyllta ar y ffôn neu neges WhatsApp ar 080880 23456 neu sgwrsia â chynghorwr ar-lein ar www.meic.cymru.

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’r rhaglen Lleisiau Gwybodus ar draws y DU yn cael ei arwain gan Parent Zone a’i gomisiynu gan Ofcom i wella llythrennedd cyfryngau a gwydnwch ar-lein pobl ifanc, yn enwedig pleidleiswyr ifanc. ProMo Cymru, sy’n rhedeg TheSprout, sy’n cyflwyno’r ymgyrch yma yng Nghymru.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd