Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu eu barn os yw Caerdydd yn ddinas LHDCT+ Gyfeillgar.
Pride myfyrwyr
Nova, 19 – Fel myfyriwr prifysgol, mae gennym y gymdeithas Pride, sydd yn un o’r, os nad y, mwyaf yn y brifysgol [Caerdydd] gyda llawer o bobl groesawus. Ac nid am fod i’n aelod o’r pwyllgor, ond TANGGS sydd yn fath o gangen i bobl drawsrywiol, anneuaidd, cwestiynu rhyw, ddim yn cydymffurfio i ryw, a ffrindiau – yn y drefn anghywir ond dal! Mae’n beth prin i gael un gymdeithas yn gweithredu’n llawn, felly mae cael dau yn hyfryd!
Echo, 20 – Ym Mhrifysgol Caerdydd mae gen ti Pride Myfyrwyr a TANGGS ac yna llwyth o gymdeithasau eraill sydd ddim yn gymdeithasau cwiar swyddogol, ond fel y gymdeithas sci-fi a ffantasi – mae baner traws ar ein logo gan fod y mwyafrif o’r aelodau yn cwiar. Mae’r un peth yn wir am y gymdeithas CRITS – mae baner traws arno, felly mae’n brifysgol LHDTC+ Gyfeillgar iawn. A gan fod poblogaeth fawr o fyfyrwyr yma dwi’n meddwl bod hynny’n helpu’r ddinas i fod yn LHDTC+ gyfeillgar.
Avery, 19 – Fel rhywun sydd yn galw eu hunain yn traws-ffem, rwyt ti’n dod i Gaerdydd ac mae cychwyn o’r newydd yn anhygoel. Fedrwn i ddim credu pa mor groesawus yr oedd ar y cychwyn. Gwisgais yr hyn roeddwn i eisiau gwisgo a gwneud beth bynnag roeddwn eisiau heb unrhyw gyfyngiadau. Wrth gwrs roedd pobl yn syllu ac yn sibrwd, yn syllu am eu bod nhw fel ‘hmm dwi heb weld hynna o’r blaen’. A dwi’n meddwl mai dyma pan ddewisais Caerdydd, am ei fod yn ofod mor groesawus, ac roedd Prifysgol Caerdydd yn un o’r prifysgolion oedd yn sgorio uchaf ymysg prifysgolion LHDT yn y DU. Felly, roedd yn syniad da iawn i ddod yma a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sydd eisiau teithio i le diogel sydd hefyd yn ddinas – Caerdydd yw’r lle i fod yn bendant.
Siopau LHDTC+ gyfeillgar
Echo, 20 – Y Queer Emporium yng Nghaerdydd ydy’r unig le yn y DU fedri di fynd i brynu rhwymau (binders) mewn person. Os nad wyt ti’n mynd i’r Queer Emporium yna rhaid prynu ar-lein, dyfalu’r prisiau a thalu costau postio uchel America, felly mae hynny yn ei hun yn beth anhygoel.
Bod yn ddiogel
Matthew, 23 – Ran amlaf mae yn [ddinas LHDTC+ gyfeillgar]. Ond mae’n ymddwyn yn ddiniwed iawn hefyd, yn annhebyg i Fanceinion a llefydd fel yna sydd yn roc a rôl go iawn.
Teimladau cymysg
Jess, 18 – Dwi’n meddwl gall pethau fod fyny a lawr mewn llawer o lefydd ond, ran amlaf, mae Caerdydd yn iawn. Ond mae ymosodiadau wedi bod ar ferched traws ac ati, sydd yn afiach. Felly ie, dwi’n meddwl ei fod yn ddinas gymysg iawn.
Chloe, 21 – Hoffwn ddweud ydy, ond fel rheol, mae’n well bod yn ddiogel nag difaru wedyn ble bynnag yr wyt ti’n mynd. Ond yn gyffredinol, hoffwn ddweud ydy. Yn amlwg, mae yna bethau aiff o’i le gyda phobl sydd â barn anghywir am y pethau anghywir.
Mal, 18 – Mae yna lefydd gallaf fod yn fi’n hun, ac efallai bydd un neu ddau hen nain yn dweud y drefn wrtha i. Ond yna mae yna lefydd y dylet ti guddio am ei bod hi’n beryglus.
Protest gwrth-LHDT
Echo, 20 – Dwi wedi cael un profiad [drwg] pan es i wrthsefyll protest eithaf homoffobig ger y castell un diwrnod. Diolch byth nad oedd llawer o bobl yno ac roedd yn beth eithaf hurt ac nid yw wedi digwydd eto. Dwi’n meddwl ei fod o gwmpas adeg Pasg. Roedden nhw’n esgusodi’r peth wrth ddweud ‘o rydyn ni’n poeni am rywioli addysg mewn ysgolion a hefyd am eu bod nhw’n dysgu gofal iechyd LHDTC’. Dyna’u problem nhw. Ond roedd y gwrth-brotest yn un cryf iawn.
Gwybodaeth Berthnasol
Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.
Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.
Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.