Site icon Sprout Cymraeg

Taclo’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Mae’r erthygl yma yn trafod achosion posib am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel rhan o’r Ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd. Rydym wedi rhannu barn pobl ifanc Caerdydd ar y bwlch cyflog, yn ogystal â thrafodaeth am sut i daclo’r bwlch yma.

Dyma rhan dau o erthygl dau ran. Clicia yma i weld y rhan cyntaf.

Beth sydd yn achosi’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

Mwy o ferched yn gweithio mewn swyddi sgiliau isel fel arlwyo, gofal, clerigol a glanhau, ble mae’r tâl yn llai. Ond fel arfer, mae dynion yn gweithio mewn swyddi gyda chyflog uwch, fel cyllido, cynhyrchu, adeiladu ac yswiriant.

Mae merched hefyd yn fwy tebygol o weithio’n rhan amser nag y mae dynion. Mae cyflogaeth rhan amser yn cael ei dalu’n wael fel arfer o gymharu â gwaith llawn amser, gan fod gwaith rhan amser fel arfer angen llai o sgil. Mae swyddi uwch sydd yn talu’n dda, fel Prif Weithredwr neu Reolwr, yn swyddi llawn amser fel arfer.

Mae gofal plant yn ffactor arall sydd yn cael effaith ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae merched yn treulio llai o amser mewn swydd ac yn gwneud gwahanol swyddi am gyfnodau byrrach fel arfer er mwyn cydbwyso gwaith ac ymrwymiadau gofal plant. Weithiau bydd merched yn gadael eu gwaith am ychydig flynyddoedd i ofalu am eu plant ac felly yn gadael eu gyrfa. Mae camu yn ôl ar yr ysgol yrfa yn gallu bod yn anodd i ferched, yn enwedig i famau.

Er y gwahaniaethau yma i gyd sydd yn gallu cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae merched yn dal i gael eu talu yn llai nag dynion am wneud union yr un faint o waith. Mae hyn er cyflwyniad Deddf Gyflog Gyfartal y DU yn 1970. Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017, er esiampl, roedd ymarferwyr meddygol benywaidd yn cael 30% llai o gyflog nag dynion oedd yn gwneud yr un swydd.

Symud ymlaen

Nid all gwadu bod y bwlch cyflog yn annheg, ond sut mae symud ymlaen o hyn a gwneud newid positif? I edrych i mewn i hyn ymhellach, mae theSprout wedi gofyn y cwestiynau canlynol wrth bobl ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd:

Dyma oedd ganddynt i’w ddweud…

Yn dy farn di, pwy sydd fwyaf cyfrifol am wneud gwahaniaeth i’r bwlch cyflog?

Awgrymodd un person ifanc fod gan gyflogwyr gyfrifoldeb i daclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau:

‘Dylai cyflogwyr daclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yn iawn am amser, ymdrech a gwaith caled eu gweithwyr’ – Hal

Awgrymodd y mwyafrif o’r bobl ifanc mai cyfrifoldeb llywodraethau a gwleidyddion yw sicrhau newid systemig gan mai nhw yw’r bobl mewn swyddi o bŵer:

‘O ystyried ein bod yn byw mewn cymdeithas gyfalafol (capitalist), byddwn i’n awgrymu siarad â’r busnesau mwyaf, y Prif Swyddogion, a’r cyd-dyriadau gan mai nhw yw’r bobl sydd â’r grym.’ – Eshaan

—–

‘Rwy’n credu mai’r llywodraeth sydd fwyaf cyfrifol am daclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU gan mai nhw sydd â’r dylanwad mwyaf dros bolisi gorfodol.’ – Hal

—–

‘Rwy’n credu mai’r rhai sydd mewn grym, y llywodraeth a’r Prif Swyddogion sy’n gyfrifol am wneud gwahaniaeth.’ – Dienw

—–

‘Rhaid i wleidyddion a teicwniaid wneud gwahaniaeth. Nid lle merched yw gorfod protestio yn erbyn y diffyg gwerth ynddynt. Mae’r broblem yn systematig felly mae’n rhaid newid y system’ – Tomos

Awgrymwyd hefyd mai menywod/grwpiau ffeministaidd sy’n gyfrifol am wneud gwahaniaeth i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau:

‘Pobl fel y Swffragetiaid‘ – Dylan

Rhannodd cwpl o bobl ifanc eu barn mai dynion dylai fod yn gyfrifol am wneud gwahaniaeth i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn hytrach nag merched yn unig:

‘Os oes gan ddynion arian, llais a phŵer, cyfrifoldeb dynion yw gwneud gwahaniaeth i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.’ – Hal

—–

‘Er mwyn i bobl mewn grym gymryd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fwy difrifol, rwy’n credu bod angen mwy o ddynion i siarad yn ei erbyn.’ – Dienw

Mae’n ymddangos bod pobl ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn credu y dylai pawb fod yn gyfrifol am gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac nad oes neb wedi’i eithrio rhag ceisio brwydro yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau:

‘Rwy’n credu y dylai pob un ohonom fod yn gyfrifol am gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau’ – Dienw

—–

‘Ni y bobl’ – Dienw

Felly, beth ellir ei wneud i ymladd y bwlch cyflog?

Rhannodd rhai pobl ifanc fod codi llais am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wrth siarad amdano’n agored a chodi ymwybyddiaeth am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn fan cychwyn da:

‘Annog sgyrsiau am godiadau tâl a chyflogau yn hytrach nag peidio caniatáu trafodaeth am hyn. Dylai dynion a menywod allu teimlo bod y cwmni yn eu gwerthfawrogi.’ – Tomos

—–

‘Gallwn ei wneud yn fwy amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol.’ – Ava

Awgrymodd un person ifanc bod addysgu pobl ar anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn bwysig er mwyn taclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau:

‘Mae angen mwy o hyfforddiant rhagfarn anymwybodol mewn ysgolion a gweithleoedd.’ – Eshaan

Roedd rhai o’r bobl ifanc yn teimlo fel mai gwleidyddiaeth oedd y llwybr gorau i frwydro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau:

‘Beth am ethol plaid wleidyddol gryfach sydd yn cymryd pethau o ddifrif a ddim yn cael ei redeg gan ddyn sydd ddim yn gallu cribo ei wallt neu ddyn sydd yn cael ei daflu allan o dafarndai.’ – Dienw

—–

‘Pleidleisio yw’r arf di-drais mwyaf pwerus sydd gennym i wneud newidiadau mewn cymdeithas! Pleidleisiwch dros arweinwyr gwleidyddol sydd â maniffesto a chymryd camau i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.’ – Hal

Y syniad mwyaf poblogaidd i daclo’r bwlch cyflog ymysg y bobl ifanc oedd protestio:

‘Protestio a sicrhau bod y bobl sydd mewn grym yn gwybod nad yw’n dderbyniol.’ – Dienw

—–

‘Lledaenu ymwybyddiaeth am y peth fel y gall pobl weithredu wrth wneud pethau fel protestio.’ – Dylan

—–

‘Mae protestio’n heddychlon yn ffordd wych o leisio ein barn am anghyfiawnder torfol y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ledled y DU’ – Hal

Gwybodaeth berthnasol

Am wybodaeth bellach ar y grŵp ymgyrchu, ac i ddarllen mwy o gynnwys yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd, clica yma.

Exit mobile version