Site icon Sprout Cymraeg

Sut Ydw i’n Cael Help Fel Person Ifanc yng Nghaerdydd?

Mae gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (CACID) yn helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Caerdydd i gael mynediad i’r help sydd ei angen arnynt. Rydym wedi gofyn i rai o gynghorwyr CACID sut i gael cefnogaeth. Dyma oedd ganddynt i ddweud:

Porth i Deuluoedd Caerdydd

“Weithiau gall bywyd fod braidd yn heriol i bawb. Mae Porth i Deuluoedd yma i roi cefnogaeth os yw pethau’n mynd yn anodd,” meddai Jo, Swyddog Cyswllt Porth i Deuluoedd.

“Mae’r Tîm Porth i Deuluoedd yma i wrando ar unrhyw broblemau sydd gen ti ac i ddeall y ffordd rwyt ti’n teimlo. Byddem yn siarad gyda thi am yr hyn hoffet ti ddigwydd, a sut gallem ni dy helpu di i gyflawni hyn.”

Beth sydd yn digwydd pan fyddi di’n cysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Mae Jo yn egluro, “pan fyddi di’n cysylltu â’r Porth i Deuluoedd, bydd dy alwad yn cael ei ateb gan un o’r Swyddogion Cyswllt (fel fi) sydd yn gyfeillgar, ddim yn barnu, a ta waeth pa mor fach neu fawr yw’r broblem, y peth pwysicaf i ni ydy gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl ifanc.”

Sut wyt ti’n gallu cysylltu â Phorth i Deuluoedd?

Mae posib cysylltu â’r Porth i Deuluoedd wrth ffonio 0300 133 133 neu e-bostio ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Tîm Helpu Teuluoedd

Mae Britney yn Gynghorydd Helpu Teuluoedd CACID ac wedi rhannu’r hyn maen nhw’n ei wneud. Dywedai, “mae’r Tîm Helou Teuluoedd yma i helpu dy deulu. Mae’r hyn rydym yn ei wneud yn dibynnu ar yr help mae dy deulu di ei angen. Gallem helpu gyda phethau fel arian, perthnasau teuluol, iechyd meddwl, hunan-niwed, sut i ymdopi gyda meddyliau hunanladdol, presenoldeb ysgol, tai a llawer, llawer mwy. Efallai byddem yn gweithio’n uniongyrchol gyda thi a dy deulu neu yn cynnwys pobl eraill fydd yn gallu helpu”.

Am ba mor hir ydw i’n gallu cael help?

“Bydd Cynghorydd Helpu Teuluoedd yn gweithio gyda dy deulu am hyd at 12 wythnos, ac nid ydym yn siarad gyda’r oedolion yn unig. Rydym eisiau gwybod beth mae pobl ifanc yn ei feddwl a sicrhau dy fod di’n cael cyfle i gael dy glywed. Rydym yn canolbwyntio ar wrando ar bobl ifanc cymaint ag gwrando ar yr oedolion yn y teulu, gan ein bod yn deall pa mor anodd ydy cael dy anwybyddu! Golygai hyn y gallem helpu dy deulu di yn y ffordd orau bosib,” meddai Britney.

Sut ydw i’n derbyn cefnogaeth?

Dy ddewis di yw hynny! Eglurai Britney, “mae’r gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig yn ddibynnol ar yr hyn rwyt ti eisiau. Gallem gyfarfod gyda thi mewn person, ar alwad fideo neu ffôn, neu os oes well gen ti, gellir gwneud hyn trwy neges testun, WhatsApp neu e-bost. Nid ein bwriad ydy dy ddal di allan neu achosi trafferth i ti, ac rwyt ti’n rhydd i stopio gweithio gyda ni unrhyw adeg.”

Pa help ydw i’n gallu cael?

Mae Britney yn dweud, “gallem roi cyngor, syniadau am beth ellir gwneud, a siarad gyda phobl eraill ar dy ran am y problemau sydd gen ti. Bydd y Cynghorydd Helpu Teuluoedd yn sicrhau dy fod di’n gwybod popeth sydd yn digwydd wrth i ni weithio gyda dy deulu fel mai ti sydd yn rheoli’r penderfyniadau sydd yn cael ei wneud amdanat ti.”

Os wyt ti’n credu gallai’r Tîm Helpu Teuluoedd helpu ti neu dy deulu, yna cysyllta â’r Porth i Deuluoedd ar 0300 133 133 neu e-bostio ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Gwybodaeth Berthnasol

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd. Am wybodaeth bellach ar yr ymgyrch ac i ddarllen hanesion go iawn gan bobl ifanc sydd wedi derbyn help CACID, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar Twitter, Instagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

Exit mobile version