Site icon Sprout Cymraeg

Sut Gellir Gwella Pride Cymru?

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu eu barn ar y ffyrdd maen nhw’n teimlo gellir gwella Pride Cymru.

Tocynnau am ddim

Echo, 20 – Ni ddylid codi am docynnau. Dylai fod am ddim. Mae’n farn ddadleuol ond dylai hwn wedi bod am ddim. Dwi ddim yn gwybod pam eu bod nhw’n codi am docynnau. Mae’n ddigwyddiad yn canolbwyntio ar y gymuned – ni ddylai hyn fod yn gwneud arian i’r cyngor. Dwi’n deall y syniad o roi tocynnau er mwyn gwybod faint o bobl fydd yn dod, ond dylai’r rhain fod yn docynnau am ddim.

Ail-fynediad i’r ŵyl

Echo, 20 – Dylen ni gael mynd allan a dod yn ôl i mewn eto. Rydym wedi gwario lot o arian ar y tocynnau yma. Newydd fod yn cwyno am hyn ydym ni.! £15 ac yna’r ffi bwcio ar ben ac yna ti ddim yn cael gadael, ddim yn iawn rili.

Nova, 19 – Mae Boney M ymlaen am 9yh. Maen nhw’n dweud i fod yma’n fuan am ei fod yn dechrau am 12yp. Oes, mae llawer o bethau arall yn digwydd ond mae 9 awr heb adael yn lot.

Gwella mynediad anabl

Echo, 20 – Roedd un o fy ffrindiau yn postio os wyt ti’n ceisio cael tocyn mynediad anabl yna mae’n rhaid i ti ddangos diagnosis i brofi dy fod di’n ddigon anabl i gael mynediad arbennig. Sori, ond nid yw hyn yn iawn. Y syniad yma bod rhaid i ti brofi pa mor anabl wyt ti. Ti ddim yn cael tocyn rhatach. Ond dwi’n meddwl efallai dy fod di’n cael tocyn am ddim os oes gen ti ofalwr gyda thi, ond dwi ddim yn sicr 100%. Ond, mae’r ffaith bod rhaid i ti brofi dy fod di’n ddigon anabl i gael tocyn mynediad arbennig yn hurt bost. Dwi’n anabl fy hun ac yn aml yn cael problemau gyda phrofi mod i’n ddigon anabl, felly roedd hynny’n un peth personol i achwyn amdano wedi i fy ffrind bostio am y peth, a meddyliais, nid yw hynny’n dderbyniol. Dylai Pride fod yn fwy hygyrch nag ydyw.

Adfer y gwreiddiau protestio

Echo, 20 – Ni ddylid masnacheiddio Pride.

Matthew, 23 – Credaf fod Pride wedi symud o ble’r oedd. Roedd yn arfer bod yn brotest gyda Marsha P Johnson a phopeth fel yna, a dwi’n meddwl ei bod yn bwysig adfer y gwreiddiau yma.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Exit mobile version