Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.
C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?
Roeddwn i’n arfer ystyried fy hun fel person sydd yn hoff o aros gartref. Mae’r cyfnod clo wedi gwneud i mi sylweddoli faint o bethau roeddwn i’n ei wneud oedd yn golygu bod allan, a faint o amser roeddwn i’n ei dreulio y tu allan neu’n teithio. Roedd yn wers ar ddysgu beth oedd yn bwysig i mi a beth oedd y prif bethau roeddwn i’n ei golli go iawn.
C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Fel rhan o fy nghwrs yn y brifysgol, roedd rhaid i mi greu gwisgoedd. Y gwneud oedd y rhan roeddwn i’n poeni lleiaf amdano yn y diwedd; yr arddangos oedd y peth anoddaf. Ar ôl treulio cymaint o amser yn creu roedd rhaid tynnu lluniau ohonof yn eu gwisgo (ar ôl iddynt gael eu creu i ffitio pobl eraill). Roedd rhaid defnyddio offer ffotograffiaeth wael oedd wrth law yn hytrach nag offer gwell y brifysgol. Teimlai fel gwastraff.
C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?
Rwy’n colli digwyddiadau byw a chael pobl yn y tŷ. Rwy’n colli pa mor hawdd oedd gallu mynd allan i glwb nos, cyngerdd neu sioe theatr a threulio amser gyda ffrindiau, yna cael pawb i aros drosodd. Bellach, rhaid trefnu popeth ymhell o flaen llaw heb unrhyw gadarnhad y bydd pethau yn digwydd yn y dyfodol.