Site icon Sprout Cymraeg

Stori Hal

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

 C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn amser heriol iawn. Gyda llawer o amser i adlewyrchu credaf mai’r peth dysgais fwyaf amdanaf i fy hun yw bod gwneud dim yn anodd i mi. Rwy’n hoff o gadw’n brysur a theimlo bod gen i bwrpas i’r pethau rwy’n gwneud. Rwy’n cael cysur o fod yn brysur a threfnu fy amser. Gyda llai o bethau i wneud yn y cyfnod clo, rwyf wedi dysgu bod ymlacio yn ok ac wedi ceisio ymarfer bod yn iawn efo peidio bod yn brysur drwy’r adeg.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Roedd fy chwaer yn feichiog yn y cyfnod clo cyntaf gyda’i phlentyn cyntaf. Ganwyd bachgen bach prydferth, yn fy ngwneud i’n fodryb am y tro cyntaf. Roedd genedigaeth y dyn bach yn rhoi gymaint o obaith a goleuni yng nghyfnodau tywyll effaith y pandemig yma ar ein teulu. Teimlais fod gen i gyfrifoldeb wrth sicrhau ei bod hi’n iawn, a theimlais yn gynnes yn gwybod, er bod y byd ar stop, roedd bywyd yn dal i fynd ymlaen.

 C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Rhyddid yw’r peth mwyaf rwy’n colli o fy mywyd cyn COVID-19. Roedd y cyfnod clo oherwydd y pandemig yn gwneud i mi deimlo’n gaeth ac yn unig. Nid allwn fod y person annibynnol yr oeddwn i yn y brifysgol. Collais beidio gallu gwneud penderfyniadau drosof fy hun, gweld pobl fel yr hoffaf a mynd allan fel rwy’n dymuno. Mae gallu gwneud penderfyniadau fy hun a chael ymreolaeth yn rhywbeth rwyf bellach yn adnabod ac yn ddiolchgar iawn amdano.

Os oes unrhyw beth yn stori Hal sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

 

 

 

 

 

Exit mobile version