Site icon Sprout Cymraeg

Stori Amelia

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Teimlaf fy mod wedi dysgu bod yn gyfforddus yn fy hun yn fwy nac erioed. Mae’n teimlo fel trawsnewidiad gorfodol i ddweud y gwir, efallai byddai wedi digwydd ryw dro, ond ddim mor fuan o bosib. Rwyf wedi treulio mwy o amser ar ben fy hun nac erioed ac rwy’n credu bod hyn wedi bod yn beth da i mi.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Mae’n debyg mai’r cyfnod sydd yn aros yn y cof fwyaf oedd cyflwyno fy nghynnig traethawd hir. 6000 o eiriau wedi’u hysgrifennu yn y cyfnod clo. Cefais rhai galwadau ffôn gyda fy nhiwtor traethawd, ond teimlaf fod hwn wedi bod yn ymdrech unigol. Roedd yn rhyddhad mawr ei gyflwyno, ar ôl wythnosau o fod dan straen ac yn nerfus.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Ni fyddaf byth yn cymryd pethau’n ganiataol eto, fel cael coffi sydyn gyda ffrind neu fynd lawr i’r dafarn am beint a sgwrs yn y nos. Nid wyf erioed wedi bod yn berson cymdeithasol iawn, gan feddwl nad oedd y dafarn yn le i mi. Ond mae’r cyfnod clo wedi amlygu’r pwysigrwydd o fywyd cymdeithasol, ac o ffrindiau a chymaint yr ydym angen ein gilydd.

Os oes unrhyw beth yn stori Amelia sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

 

 

Exit mobile version